Ganwyd Rhys Ifans o dan yr enw Rhys Owain Evans ar 22 Gorffennaf 1967 yn Hwlffordd, Sir Benfro. Cymraeg yw ei famiaith. Mae’n fab i Beti Wyn ac Eirwyn Evans.
Magwyd Ifans yn Rhuthun a chafodd addysg gynradd yn Ysgol Pentrecelyn cyn mynd i Ysgol Maes Garmon, ysgol uwchradd Gymraeg yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, lle’r safai ei arholiadau Safon Gyffredin ac Uwch.
Mynychodd hefyd ysgolion actio i bobl ifanc yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, ac yna aeth yn ei flaen i dderbyn hyfforddiant yn Ysgol Celf a Drama Neuadd y Gorfforaeth yn Llundain.
Ymddangosodd mewn llawer o raglenni teledu Cymraeg cyn cychwyn ar ei yrfa ym myd ffilm yn ogystal â pherfformio yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol yn Llundain ac yn Theatr Frenhinol y Gyfnewidfa ym Manceinion.
Daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf ym 1997 yn y ffilm Twin Town a leolir yn Abertawe. Yn y ffilm, sydd bellach wedi ennill statws cwlt, chwaraeodd ran yr efaill Jeremy Lewis ochr yn ochr â’i frawd Llŷr Ifans, sydd hefyd yn actor. Aeth yn ei flaen i fod yn actor adnabyddus yn rhyngwladol yn sgîl ei rôl fel Spike, cydletywr anniben a blêr Hugh Grant yn y ffilm Notting Hill ym 1999.
Mae ei rolau mewn ffilmiau, sydd wedi amrywio’n fawr, wedi bod yn fodd iddo ddangos hyd a lled ei sgiliau actio; mae wedi chwarae rôl sawl cymeriad amrywiol megis Dr Curt Connors/The Lizard yn The Amazing Spider-Man; Edward de Vere, 17il Iarll Rhydychen yn Anonymous a Xenophilius Lovegood yn Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1.
Yn 2005, enillodd Ifans wobr BAFTA am ei bortread o’r comedïwr Peter Cook yn y ffilm deledu Not Only but Always. Mae’n ymddangos drachefn a thrachefn yn ei rôl fel Mycroft Holmes yn y gyfres Elementary gan CBS ac aeth yn enwog yn yr Unol Daleithiau yn sgîl y ffilm The Replacements yn 2000 ar ôl iddo chwarae rôl Nigel Gruff, pêl-droediwr â chanddo ddibyniaeth ar gyffuriau a oedd wedi mynd yn chwaraewr pêl-droed Americanaidd.
Ym mis Rhagfyr 2006, dychwelodd i fyd theatr yn Llundain yng nghynhyrchiad Michael Grandage o Don Juan yn y Donmar Warehouse yn Soho. Cyn hynny, roedd wedi ymddangos yn Theatr y Donmar yn 2003 yn Accidental Death of an Anarchist. Ymhlith ei berfformiadau blaenorol ym myd theatr y mae Hamlet yn Theatr Clwyd, A Midsummer Night's Dream yn Theatr Parc y Rhaglaw ac Under Milk Wood a Volpone yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol.
Ym mis Gorffennaf 2007, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor yn sgîl ei wasanaethau I’r diwydiant ffilm.
Yn ogystal ag actio, mae Rhys Ifans yn mwynhau gyrfa fel canwr ac am gyfnod byr ef oedd prif ganwr Super Furry Animals, y grŵp roc o Gymru. Ar hyn o bryd mae’n canu gyda The Peth, y grŵp roc seicadelig o Gymru. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o fideos cerddoriaeth mewn rolau cameo gan gynnwys record sengl Oasis “The Importance of Being Idle” a derbyniodd wobr Fideo’r Flwyddyn ar eu rhan yng Ngwobrau 2006 cylchgrawn NME. Mae hefyd wedi ymddangos yn y fideos cerddoriaeth “God! Show Me Magic” a “Hometown unicorn” gan y Super Furry Animals; "Mulder & Scully" gan Catatonia, a “Mama Told Me Not To Come” gan Tom Jones a’r Stereophonics.
Mae Rhys yn awyddus i hyrwyddo’r Gymraeg, ac ym mis Medi 2012 aeth yn noddwr Cymdeithas Llwybrau Byw a grëwyd yn ddiweddar gyda’r amcan o hyrwyddo a datblygu Wicipedia Cymraeg.
Yn 2015, derbyniodd Rhys Ifans Radd er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe. Dyma a ddywedodd Mr Ifans pan gafodd ei wobr: “Braint o’r mwyaf yw derbyn y wobr hon. Peth braf ar y naw bob amser yw derbyn cydnabyddiaeth am eich gwaith, ac mae’r ffaith bod prifysgol mor ddisglair wedi’i gydnabod, a hynny mewn dinas rwyf yn hoff iawn ohoni’n golygu cymaint imi. Diolch yn fawr iawn.”