Roedd cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, David O-Carroll OBE, yn fyfyriwr rhwng 1970 a 1974. Roedd ei amser yn gweithio ar ‘Crefft’, sef papur newydd y myfyrwyr, wedi diffinio amser David ym Mhrifysgol Abertawe, gan helpu i greu rhai o'i atgofion hapusaf.
Atgofion David
Yn y 1970au Swyddfa Crefft oedd canolbwynt fy niwrnodau fel myfyriwr. Mae'n anodd cofio a oedd unrhyw un ohonom yn dymuno bod yn newyddiadurwyr. Gwnaethon ni'n bendant dreulio llawer o oriau yn teipio adroddiadau ac erthyglau newyddion ar ddau deipiadur mecanyddol, gan geisio gwneud peth synnwyr o adroddiadau gemau timoedd rygbi, ysmygu gormod o sigaréts Ffrengig, a siarad ar y ffôn rhwng pwffian yn y gobaith o gael stori gyffrous ac unigryw na ddigwyddodd byth.
Gwnaeth dau ohonom gyfweld â'r Pennaeth: dyna oedd yr agosaf at stori fawr a gawsom, ac yn yr un rhifyn, ysgrifennodd trydydd newyddiadurwr feirniadaeth hallt o ddarlithydd Economeg a oedd yn heneiddio. Gan mai fi oedd y golygydd ar gyfer y rhifyn hwnnw (roedd rota gennym), fi oedd yr un a fu'n wynebu'r diarddeliad a fi a fu'n rhaid gwneud galwad ffôn i wraig y darlithydd i ymddiheuro.
Roedd swyddfa'r papur newydd ar lawr top Tŷ'r Undeb. Roedd yn ystafell sengl gyda dwy ddesg trydedd llaw a chwpwrdd ffeilio dur â phedwar drôr lle roeddwn ni'n cloi ein gwaith bob nos. Does dim clem beth roeddem ni'n meddwl ein bod ni'n cadw'n gyfrinachol! Ta waeth, roedd twll uwchben y clo y gellir ei agor gyda chlip papur. Roedd mwg gyda hylif wedi llwydo ynddo'n gorchuddio'r twll.
Y drws nesaf, yn rhedeg ar hyd lled cyfan Tŷ'r Undeb oedd yr Ystafell Argraffu, gyda'i pheiriant litho gwrthincio maint canolog yn ogystal â pheiriannau stensilio ar gyfer hysbysiadau a chylchlythyron niferus a fyddai’n cyrraedd y byrddau bob amser cinio yn y Ffreutur. Dyma oedd teyrnas Pam Hopkins. Hi oedd yn gyfrifol am y peiriant cysodi. Teipiadur trydanol, cymhleth oedd hwn gyda pheli golff cyfnewidiadwy gyda chydosodiadau gwahanol.
Roedd derbyn un o broflenni Pam bob amser yn gyffrous. Roedd erthyglau wedi'u teipio'n wael wedi cael eu trawsnewid i’rr hyn a ymddangosai i fod yn golofn papur newydd gysodedig. Weithiau, roedd ein "gwallau teipio", a elwir hefyd yn sillafu gwael, wedi cael eu cywiro. Roeddem ni dim ond yn newid yr hyn a oedd yn rhaid ei newid, yn enwedig os oedd y terfyn amser argraffu unwaith y pythefnos yn nesáu. Byddai Pam yn mynd â'n darnau wedi newid, yn twt twtian am y gwaith diangen roeddem ni'n achosi iddi, a chan ddefnyddio'r codio yr oedd ei rhediad cyntaf wedi'i gynhyrchu, yn paratoi'r colofnau wedi'u gosod yn berffaith a oedd yn creu'r papur newydd.
Yna daeth y busnes lletchwith o osod y papur newydd ar daflen y byddai llun yn cael ei gymryd ohono o greu'r platiau metal ar gyfer y peiriant argraffu. Byddai'r stripedi o bapur yn cael eu bwydo drwy'r peiriant cwyr poeth ac yn cael eu glynu wrth daflen sylfaenol gyda rholiwr. Yn aml iawn, byddai hyn yn cael ei wneud yn hwyr yn y nos pan ddylem ni wedi bod ym mar y myfyrwyr yn chwilio am straeon newyddion.
Nid enillon ni byth unrhyw wobrau ar gyfer y papur newydd prifysgol gorau ond yn aml, byddai prifysgolion eraill yn gofyn pe byddai modd iddynt gopïo stori ar gyfer eu papurau nhw. Clod digonol. Nid oedd fy astudiaethau mewn Economeg a Gwleidyddiaeth yn ddefnyddiol ar unwaith yn fy ngyrfa yn y Gwasanaeth Sifil, er ym 1978, gweithiais i i weinidog iau a oedd yn gyfrifol am gysylltiadau â'r wasg yn llywodraeth afiach Jim Callaghan. Roedd yn ohebydd meddw o bapur newydd yn Rugby ac roeddwn ni'n dod ymlaen yn dda gan ein bod ni'n rhannu'r grefft.
Pan gafodd cyfrifiaduron personol eu cyflwyno yn y 1990au, daeth fy sgiliau teipio i'r amlwg.