Mae Joseph Rees wedi dechrau PhD yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n cofio'r eiliad hollbwysig pan ddysgodd y cynigiwyd ysgoloriaeth iddo.
Atgof Joe
Mae Cyntedd Adeilad Wallace yn lleoliad atgofion melys i mi.
Ar 25 Chwefror 2020, safais yn y cyntedd a gwiriais fy e-bost ar fy ffôn a gwelais fy mod i wedi derbyn e-bost yn fy hysbysu fy mod wedi cael cynnig ysgoloriaeth i astudio PhD ym Mhrifysgol Abertawe.
Rwy'n dod i gamau terfynol fy Ngradd Meistr yn Abertawe bellach, ac rwyf wedi dwlu ar y gwaith. I ddechrau, roeddwn i'n chwilio am swyddi i raddedigion, ond roeddwn i hefyd yn ystyried parhau â'm hastudiaethau.
Roeddwn i'n chwilio ar wefan Abertawe i weld pa opsiynau PhD oedd ar gael a sylwais i ar y PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol, sef pwnc fy ngradd israddedig. Mae'n gwrs llwybr PhD, dros 4 blynedd sy'n dechrau gyda gradd Meistr. Yn y diwedd, byddaf yn ennill PhD mewn Daearyddiaeth Ddynol.
Mae'r PhD yn rhan o bartneriaeth hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd (yr ESRC). Fel rhan o'm hymchwil, byddaf yn astudio datblygiad llety myfyrwyr pwrpasol yn Abertawe dros y blynyddoedd nesaf, gan ddadansoddi pam mae cynifer o dyrrau myfyrwyr yn ymddangos yng nghanol dinas Abertawe, sut maent yn effeithio ar economi, diwylliant ac aesthetig Abertawe a sut mae'n cymharu â dinasoedd eraill yn y DU.
Fel gweithgaredd allgyrsiol yn ystod fy ngradd israddedig, ysgrifennais ddarn i rywun a gyhoeddodd ei thesis ei hun am lety myfyrwyr pwrpasol, felly byddaf yn edrych yn fwy gofalus arno yn fy PhD i. Gan fod hyn yn faes roedd gen i ddiddordeb ynddo, ac roedd y Brifysgol a'r ERSC yn darparu cyllid, roedd yn ymddangos fel cyfle gwych a allai wella fy rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Fy nod yn y pen draw yw gweithio ym maes rheoli mewn sefydliad anllywodraethol, neu ymgynghori. Byddwn i hefyd yn ystyried gweithio mewn academia yn y dyfodol.
Cymerais i ran yn y gystadleuaeth Placiau Glas Tywyll ar ôl gweld y placiau glas tywyll o amgylch canol dinas Abertawe. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n wych cael rhywbeth i nodi'r man lle dysgais i fy mod i wedi fy nerbyn ar raglen PhD a'r cyffro a deimlais i am ddechrau her newydd.
Rwyf bob amser wedi mwynhau cerdded o amgylch y campws cyn neu ar ôl diwrnod llawn o ymchwil, boed yn hwyr neu'n gynnar yn y bore. Dw i'n mwynhau cerdded ar hyd y campws, ger y llyn cychod neu heibio i'r gerddi. Mae'r campws a'r mannau gwyrdd yn lleoedd da i'ch helpu i ymlacio yn dilyn diwrnod hir. Byddai'n anrhydedd bod yn rhan o hanes Prifysgol Abertawe.