Ceisiadau am Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe
Croesawn geisiadau gan fyfyrwyr sy'n cystadlu ar lefel uwch yn eu camp benodol sy'n awyddus i gyfuno rhagoriaeth mewn chwaraeon â'u hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
Sut i Gyflwyno Cais
Mae cyflwyno cais am Ysgoloriaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe'n syml, a gallwch wneud hynny drwy gwblhau ein ffurflen gais ar-lein.
I gael eich ystyried, bydd angen i chi ddarparu cymaint o dystiolaeth gefnogol â phosib i ddangos eich lefel bresennol a'ch potensial yn y gamp. Dylai gynnwys:
· Manylion eich cyflawniadau presennol a'ch lefel gystadlu yn y gamp
· Eich nodau a'ch dyheadau chwaraeon am y dyfodol
· Enwau dau ganolwr i gefnogi eich cais
· Eich rhif UCAS (os ydych chi'n cyflwyno cais i Brifysgol Abertawe) neu eich rhif myfyriwr (os ydych chi'n fyfyriwr yma ar hyn o bryd)
Y Broses Cyflwyno Cais
Rydym bellach yn derbyn ceisiadau am Raglen Ysgoloriaethau Chwaraeon Prifysgol Abertawe 2026–2027.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ar sail dreigl tan i ni ddyfarnu’r uchafswm o 60 o ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Byddwn yn adolygu ceisiadau ar y dyddiadau canlynol drwy gydol y flwyddyn:
· 31 Awst 2026
· 26 Hydref 2026
· 25 Ionawr 2027
· 22 Mawrth 2027
Gall ymgeiswyr ddisgwyl cael canlyniad ar ôl y dyddiad adolygu nesaf yn dilyn cyflwyno eu cais.
Gan mai nifer cyfyngedig o ysgoloriaethau sydd ar gael, rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i gyflwyno cais cyn gynted â phosib. Sylwer y gallwn gau'r broses cyflwyno cais cyn y dyddiad adolygu olaf os byddwn wedi dyfarnu’r holl ysgoloriaethau.
Ceisiadau yn y Dyfodol
Bydd ceisiadau am flwyddyn academaidd 2027–2028 yn agor ar 1 Ebrill 2027.