Rhwydwaith Abertawe
Fel aelod gydol oes o Brifysgol Abertawe, rydych yn hynod bwysig i ni. Lle bynnag y byddwch chi yn y byd, gallwch fod yn rhan weithgar o'n rhwydwaith byd-eang o dros 165,000 o gyn-fyfyrwyr. Fel aelod o Rwydwaith Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, bydd gennych fynediad at lawer o fanteision, gan gynnwys rhaglen ddigwyddiadau, aduniadau a chyfleoedd ymgysylltu.
Cadwch eich manylion yn gyfoes i sicrhau nad ydych yn colli'r newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf o Brifysgol Abertawe.
Gallwch hefyd gadw mewn cysylltiad â ni ar Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn.
Ymunwch â Chyswllt Prifysgol Abertawe!
Mae Cyswllt Prifysgol Abertawe'n gymuned ar-lein unigryw ar gyfer graddedigion, myfyrwyr a staff Abertawe. Mae llawer o fanteision y gallwch eu cael fel aelod:
- Newyddion a ffrwd swyddi ddynodedig.
- Cyfleoedd i fentora myfyrwyr neu raddedigion a rhoi rhywbeth yn ôl!
- Gallwch gysylltu â gweithwyr proffesiynol yn eich diwydiant er mwyn rhwydweithio, cael cyngor, mentora a mwy.
- Gallwch ganfod ac ailgysylltu â hen ffrindiau a'r bobl yn eich dosbarth.
Dangoswch eich Cefnogaeth
Wyddech chi fod gennym dros 130 o wirfoddolwyr sy'n gyn-fyfyrwyr yn rhoi o'u hamser i fod yn fentoriaid, yn siaradwyr gwadd ac yn arddwyr hyd yn oed! Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gadw mewn cysylltiad a rhoi rhywbeth yn ôl!
Boed gartref neu dramor, edrychwn ymlaen at gysylltu â chi.