Croeso i gyswllt Prifysgol Abertawe

Cyswllt Prifysgol Abertawe yw'r gymuned ar-lein unigryw ar gyfer graddedigion, myfyrwyr a staff Abertawe. Mae yna lawer o fuddion y gallwch chi manteisio arnynt fel aelod:

Cysylltu
Lle gallwch ddod o hyd i'ch cyd-raddedigion, cael gwybod beth maen nhw wedi bod yn ei wneud a chadw mewn cysylltiad.

Rhoi rhywbeth yn ôl
Cyfleoedd i gyflwyno, cyflogi a chynnig mentora ein myfyrwyr sy'n graddio.

Ehangu
Manteisiwch ar eich rhwydwaith proffesiynol i gael eich cyflwyno i bobl y dylech eu hadnabod.

Cofrestrwch am Gyswllt Prifysgol Abertawe

Mae’n hawdd iawn, cofrestrwch yma. Gallwch chi hyd yn oed gofrestru gan ddefnyddio eich proffil LinkedIn neu Facebook.

Lawrlwytho ar Android

  • Agorwch swanseauniconnect.com ar borwr eich ffôn symudol.
  • Cliciwch ‘Mewngofnodi’ yn y gornel uchaf ar y dde.
  • Byddwch yn gweld ffenestr naid sy’n gofyn a ydych chi am ei gadw i’r sgrîn hafan.
  • Cliciwch i’w ychwanegu at y sgrîn hafan. Bydd eicon yr ap yn awr yn ymddangos ar eich dyfais symudol.

Lawrlwytho ar iOS

  • Agorwch swanseauniconnect.com drwy Safari (sylwer bod RHAID i chi fod yn defnyddio porwr Safari ar iPhone).
  • Dewiswch yr eicon rhannu ar ddiwedd tudalen y porwr.
  • Dewiswch ‘Ychwanegu at y Sgrîn Hafan.
Cyswllt Prifysgol Abertawe

Sut i wneud y gorau o gymuned Cyswllt Prifysgol Abertawe