Cwestiynau Cyffredin
Cwestiynau Cyffredin Cyn-fyfyrwyr
Ble gallaf gael copi o'm Trawsgrifiad neu Dystysgrif Gradd?
Am ymholiadau o ran eich trawsgrifiad neu Dystysgrif Gradd, e-bostiwch MyUniHub yn myunihub@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 606000.
Ble gallaf gael tystiolaeth o'm hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe?
I gael tystiolaeth o'ch astudiaethau, e-bostiwch MyUniHub yn myunihub@abertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 606000.
Allwch chi fy helpu i gyrraedd cyn-fyfyrwyr?
Yn anffodus, oherwydd Deddf Diogelu Data 1998 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol 2018 (GDPR), nid ydym yn gallu rhoi gwybodaeth bersonol i chi am ein cyn-fyfyrwyr. Serch hynny, rydym yn fodlon cysylltu â chyn-fyfyrwyr ar eich rhan a gofyn iddyn nhw gysylltu â chi. E-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk gyda manylion eu henwau a'u manylion astudio (cwrs a blwyddyn graddio) a byddwn yn gallu eich helpu chi.
Manteision Cyn-fyfyrwyr
Gall cyn-fyfyrwyr y Brifysgol gael manteision a gwasanaethau, sy'n cynnwys gostyngiadau ar aros mewn gwestai, aelodaeth o gampfeydd a mynediad at y llyfrgell. Am ragor o fanylion, gweler ein tudalen manteision a gwasanaethau yma.
Os hoffech gynnig mantais neu wasanaeth i gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, e-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk.
A allaf barhau i ddefnyddio'r llyfrgell a'r gwasanaethau academaidd eraill?
Ceir rhagor o wybodaeth am ddefnyddio gwasanaethau'r llyfrgell ar y dudalen Gwybodaeth i Ymwelwyr y Llyfrgell.
Cysylltwch â’r Llyfrgell i gael rhagor o wybodaeth.
Sut gallaf gynnig cymorth gyda gyrfaoedd?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi gyrfaoedd ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr ifanc, e-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk. Byddwn yn gallu trafod y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan gyda'r Brifysgol a'ch cysylltu â'r bobl gywir yn y Brifysgol.
Sut gallaf gymryd rhan er mwyn mentora myfyrwyr?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi gyrfaoedd ein myfyrwyr a'n cyn-fyfyrwyr ifanc, e-bostiwch alumni@abertawe.ac.uk. Byddwn yn gallu trafod y ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan gyda'r Brifysgol a'ch cysylltu â'r bobl gywir yn y Brifysgol.
A allaf ymweld â Phrifysgol Abertawe am daith o'r campws?
Mae croeso cynnes i gyn-fyfyrwyr ymweld â'r campws ar unrhyw adeg. Rydym ni bob amser yn edrych ymlaen at weld ein cyn-fyfyrwyr yn ôl ar y campws a chlywed am eich amser ym Mhrifysgol Abertawe.
Os hoffech chi drefnu taith o Gampws Singleton neu'r Bae, anfonwch e-bost i alumni@abertawe.ac.uk. Yn ystod y teithiau, gallwn drafod yr hyn sydd wedi newid, sut mae'r campws yn cael ei ddefnyddio a'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn hapus i drefnu teithiau o Gampws y Bae i gyn-fyfyrwyr â diddordeb mewn gweld sut mae'r Brifysgol yn datblygu.
Sut gallaf ddiweddaru fy manylion cyswllt?
Gallwch ddiweddaru eich manylion cyswllt ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma neu drwy e-bostio alumni@abertawe.ac.uk.
Sut gallaf gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y Brifysgol?
Gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn y Brifysgol drwy ddiweddaru eich manylion yma.
Rydym yn anfon e-byst rheolaidd at ein cyn-fyfyrwyr ac yn llunio cylchgrawn blynyddol i'n cyn-fyfyrwyr, SAIL. Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dod o hyd i gyn-fyfyrwyr a rhwydweithio gan ddefnyddio ein platfform penodol i gyn-fyfyrwyr SwanseaUniConnect.com
Neu dilynwch ni ar;
- Facebook yn - https://www.facebook.com/swansalumni/
- Dewch o hyd i ni ar Twitter - https://twitter.com/Swansea_Alumni
- Rhannwch luniau ar Instagram - instagram.com/swanseaunialumni/
- Rhwydweithio ar Linkedin - linkedin.com/company/25931/people/
Sut gallaf gael copi o'm Traethawd Ymchwil/Traethawd hir?
Gallwch gael copi o'ch tystysgrif gradd drwy myunihub@abertawe.ac.uk.