Torri'r tabŵ
Effaith addysg am gylchred y mislif ar berfformiad athletwyr benywaidd
Mae Dr Natalie Brown yn gweithio gydag athletwyr benywaidd elît yn ystyried effaith eu mislif a'u cylchred ar berfformiad. Eu diffyg gwybodaeth nhw a’i sbardunodd i gwestiynau'r hyn roedd yn cael ei addysgu mewn ysgolion.
Dan nawdd Chwaraeon Cymru, yr astudiaeth ‘teachers’ perceptions and experiences of menstrual cycle education and support in UK Schools’ yw'r cam diweddaraf yn y gwaith ymchwil i effaith cylchred y mislif ar gyfranogiad menywod mewn chwaraeon.
Canfu arolwg o 789 o athrawon ysgol yn y DU mai dim ond 53% o athrawon ysgolion uwchradd a nododd fod gwersi addysg am gylchred y mislif yn cael eu haddysgu yn eu hysgol nhw. O'r athrawon a oedd yn ymwybodol o faes llafur cylchred y mislif yn eu hysgol nhw, dywedodd 144 y darparwyd uchafswm o ddwy wers bob blwyddyn. Roedd 90% o'r athrawon a ymatebodd i'r arolwg yn fenywaidd a dywedodd bron chwarter ohonynt (23%) nad oeddent yn gyffyrddus yn addysgu am gylchred y mislif.
Yn ogystal, canfu'r astudiaeth fod athrawon yn teimlo bod y mislif yn effeithio ar bresenoldeb, cyfranogiad mewn ymarfer corff, yn ogystal ag ymddygiad a hyder.
Argymhellodd yr adroddiad y dylid rhoi mwy o amser i athrawon, ynghyd â hyfforddiant a chymorth, i gyflwyno gwersi'n rheolaidd yn ogystal â darparu rhagor o wybodaeth am agweddau emosiynol a chymdeithasol cylchred y mislif.
Dywedodd Dr Brown: “Ni ddylai fod yn bwnc tabŵ mwyach. Mae angen i ni ail-lunio'r naratif a normaleiddio sgyrsiau am fislifoedd.”