SAIL cylchgrawn cyn-fyfyrwyr Abertawe 2023

Ble mae chwaraeon yn cwrdd â'r gymuned: curiad calon Prifysgol Abertawe 

Yn y rhifyn hwn byddwn yn dathlu ein pencampwyr ar y maes ac oddi arno. Byddwch yn barod i gael eich ysbrydoli wrth i ni ddathlu cyn-fyfyrwyr sy'n herio ystrydebau ac yn arloesi mewn meysydd lle mae dynion wedi bod yn fwy blaenllaw'n draddodiadol. Cewch gwrdd â'r gweledydd y tu ôl i Lundain 2012 a'r eiliadau bythgofiadwy a ddiffiniodd y gemau. Ymgollwch yn y maes rhyfeddol o ymchwil arloesol sydd wrthi'n llunio’n weithredol ddyfodol disgleiriach i ni i gyd.  Hefyd, dyma'ch cyfle i glywed am y newyddion, y digwyddiadau a'r cystadlaethau diweddaraf gan eich prifysgol. 

Mae SAIL wedi newid!

Rydym wedi newid ein cylchgrawn ar-lein i fformat sy'n seiliedig ar dudalennau gwe, gan ei gwneud yn llawer haws ei ddarllen ar amrywiaeth o ddyfeisiau. Ond peidiwch â phoeni gan ei fod ar gael ar ffurf PDF o hyd ar ein gwefan hefyd.

Rydym am glywed eich barn! Os oes gennych funud sbâr, a wnewch chi glicio yma a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd orau i chi.

Rhowch eich adborth i ni