In The Blood
Bydd y prosiect cyffrous a newydd hwn yn archwilio treftadaeth chwaraeon gyfoethog Abertawe a'i heffaith ar ddiwylliant a chymuned y ddinas.
Gan adrodd straeon ein harweinwyr cymunedol, eiconau chwaraeon ac is-ddiwylliannau Abertawe, mae’r arddangosfa’n uchafbwynt ymchwil ac ymgysylltu cymunedol dan arweiniad Canolfan y Celfyddydau Taliesin, artistiaid lleol, gwirfoddolwyr a myfyrwyr.
Gan gynnwys straeon a phethau cofiadwy o bob rhan o'r ddinas, caiff Prifysgol Abertawe ei chynnwys a'i dathlu fel canolfan ragoriaeth ochr yn ochr ag amrywiaeth o unigolion a chymunedau chwaraeon o’r gorffennol a rhai cyfoes.
O ddiwedd mis Ebrill, bydd Arddangosfa Chwaraeon Abertawe am ddim ar agor i bawb yn Amgueddfa Abertawe.
Mae rhagor o wybodaeth am ein rhaglen diwylliant chwaraeon yn Taliesinartscentre.co.uk