Matt Davidson Pensaer Meddalwedd yn Williams Racing
BSc Cyfrifiadureg. Dosbarth 2005

O Brifysgol Abertawe i Formula One

Y pensaer meddalwedd y tu ôl i lwyddiant Williams

O draethau Abertawe i fyd cyflymderau anhygoel Formula 1, mae Matt Davidson, Pensaer Meddalwedd gyda Williams a chyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, yn rhannu ei daith. Darganfyddwch sut gwnaeth ei gariad at Gyfrifiadureg ei arwain at F1 a sut mae'n helpu ei dîm y gael y fantais fach hollbwysig honno.

Beth wnaeth i chi ddewis Prifysgol Abertawe?
Roeddwn i'n dwlu ar y pentref myfyrwyr. Roeddwn i'n dwlu ar y traeth ac roedd y cwrs Cyfrifiadureg roeddwn i am ei wneud ymysg y 5 gorau yn y wlad.

Beth wnaethoch chi yn eich amser hamdden ym Mhrifysgol Abertawe?
Byddem ni'n mynd i Fae'r Tri Chlogwyn ac roeddwn i wrth fy modd yno; byddem ni'n cerdded ac yn ymlacio ar y traeth. Mae'n anhygoel na wnes i unrhyw syrffio nes i fi orffen yn y brifysgol.

A oedd F1 yn faes roeddech chi bob amser am weithio ynddo?
Roeddwn i'n gwybod fy mod i am wneud Cyfrifiadureg, ond wnes i ddim wir feddwl ym mha faes byddwn i’n ei ddefnyddio wedi hynny. Dw i'n cofio gwylio F1 fel plentyn. Ar gyfer fy mhen-blwydd yn 30, aeth fy nhad â mi i ras... aethon ni i Sbaen a gweld Maldonado yn ennill ras yn syndod i bawb. Roeddwn i'n meddwl y gallwn i fynd i F1, ond doeddwn i ddim yn hollol siŵr sut i wneud hynny, felly dechreuais i gyflwyno ceisiadau am swyddi.

Beth mae eich rôl bresennol yn ei gynnwys?
Fy rôl bresennol fel Pensaer Meddalwedd yn Williams yw helpu'r timoedd meddalwedd i gysoni’r ffordd rydym ni'n adeiladu ein hoffer, fel y gallant weithio'n dda gyda'i gilydd.
O'r blaen, roeddwn i yn yr adran aerodynameg yma yn Williams yn helpu i sefydlu arferion gorau yn y tîm. Pan fyddai rhywun yn cael syniad newydd, byddai ein prosesau ni yn ei helpu i ganfod sut i fynd o'r cam dylunio i brofi'r syniad ar gerbyd go iawn: Byddai hynny'n cynnwys modelu, dadansoddi data o dwnnel gwynt a sut i benderfynu a ddylen ni roi’r syniad ar waith yn y car ai peidio.

Mae'r adran feddalwedd yno i gefnogi'r hyn mae'r adran aerodynameg yn ei wneud, i geisio gwael gwared ar yr agwedd ailadroddus, gan ei gwneud hi'n fwy awtomataidd ac yn llai rhwystredig ar gyfer yr aerodynamegwyr.

 Formula One Williams cars

Sut mae'r hyn rydych chi'n ei wneud drwy gydol y flwyddyn yn newid?
Yn fy hen swydd, byddem ni'n adeiladu modelau meddalwedd o gydrannau newydd a fyddai’n cael eu hychwanegu at y car a byddai peirianwyr yn gwneud model mathemategol o’r hyn roedden nhw am ei newid, yn seiliedig ar rywbeth roedden nhw wedi'i weld mewn ras neu wrth ymarfer neu ar gyfer trac penodol, ond byddai ei angen arnynt erbyn yfory, neu'r penwythnos, oherwydd byddai'n rhaid ei weld ar waith.

Byddem ni’n cael terfyn amser caled oherwydd bod y car yn mynd i rasio, ac maen nhw wedi rhoi'r synwyryddion ymlaen. Y stori waethaf/orau sydd gen i yw pan oedden ni’n cynnal profion cyn y tymor rasio yn 2017. Roedd Pennaeth Deinameg Cerbydau yn fy nhŷ am 1am y diwrnod cyn iddo hedfan i Barcelona, i orffen y model oherwydd bod ei angen arnynt i baratoi’r car.

Sut brofiad yw dechrau'r tymor? Oes brys i edrych ar geir timoedd eraill?
Oes, yn enwedig ar gyfer y dylunwyr a'r aerodynamegwyr. Byddan nhw’n edrych ar yr holl wahaniaethau yn y ceir. Er eu bod nhw i gyd yn wahanol o bellter, pan fyddwch chi'n agos, maen nhw’n wahanol iawn a'r peth sy'n bwysig am F1 yw bod milieiliadau'n cyfrif. Gall gwahaniaethau bach wneud gwahaniaeth enfawr yn F1. Gall milimedr ar adain gael effaith enfawr ar amseroedd lapiau.

Pa fath o feddalwedd rydych chi'n ei hadeiladu?
Mae llawer o dechnoleg safonol ar gael y gallwch chi ei defnyddio yn Formula 1, ond mae'r rhan fwyaf o'r hyn sydd ei angen arnon ni’n cael ei greu’n bwrpasol, megis yr offer sy'n cael eu defnyddio i fonitro'r car tra bydd ar y trac a chasglu data peirianneg o delemetreg fyw. Caiff offer eraill eu defnyddio i ganfod ble mae ceir yn y ras o'u cymharu â thimoedd eraill.

Gallai hefyd olygu gosod ffurfweddiadau'r car drwy efelychiadau, i gymharu miloedd o opsiynau y byddai’n amhosib eu cymharu ar y trac. Mae hefyd efelychiadau lap sy'n defnyddio sawl ffurfweddiad car, a gallwn ni gynnal cannoedd ar filoedd o efelychiadau ar yr un trac i weld beth yw'r opsiwn gorau.

Beth yw'r rhan orau o'ch swydd?
Gallu gweithio ar rywbeth dw i'n dwlu arno a gweld y canlyniadau bob yn ail wythnos. Gweld datblygiadau canol y tymor, ble mae eich tîm wedi gwella prosesau neu wedi gwella perfformiad y car. Dyna'r hyn dw i'n ei garu.