Y Wobr Dinesydd Byd-eang, SWELL A DIGWYDDIADAU

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae bywyd prifysgol yn fwy nag astudio'n unig. Dyna pam mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn gweithio'n galed i gynnig llawer o gyfleoedd gwahanol i GYMRYD RHAN gyda'n gwaith cynaliadwyedd. Drwy ddod a chymryd rhan yn ein digwyddiadau a'n gweithgareddau, byddwch yn helpu i wella ein hamgylchedd a'n credadwyaeth gymdeithasol, yn ogystal â chael cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwella eich cyflogadwyedd a chodi eich ymwybyddiaeth o faterion mwyaf dybryd heddiw.

Gallwch ddarllen mwy am SWell, ein cynllun Cynaliadwyedd a Lles sy'n gwobrwyo staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe am gymryd camau cadarnhaol, Y Wobr Dinesydd Byd-eang i fyfyrwyr a sut i ymuno â'n digwyddiadau isod.

SWell - Cynllun Cynaliadwyedd a Lles ar gyfer Myfyrwyr a Staff

SWell - Cynllun Cynaliadwyedd a Lles ar gyfer Myfyrwyr a Staff

Fyfyriwr yn cerdded ar campws

Hoffech chi ennill gwobrau am ofalu am eich llesiant, am wneud dewisiadau cynaliadwy ac am helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd?

Fel prifysgol, rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym eisiau gwobrwyo’r staff a’r myfyrwyr hynny sy’n ein helpu i gyflawni ein nod. Dyna pam rydym wedi ail-lansio ein rhaglen SWell ar gyfer ein staff a’n myfyrwyr er mwyn esgor ar effaith fwy fyth a gwireddu’r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd.

Ymunwch SWell

Digwyddiadau, Gweithgareddau a Gwirfoddoli

Rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol trwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr a staff gymryd rhan ynddynt. Mae'r rhain yn amrywio o sesiynau glanhau’r traeth, sesiynau cadwraeth wythnosol i wirfoddolwyr, reidiau beic dan arweiniad, gweithdai, teithiau cerdded natur a thyfu bwyd ar y campws, ac enwi ychydig yn unig!

Gall myfyrwyr a staff ddarganfod beth sy'n digwydd trwy ymweld â'n tudalen Eventbrite i gael mwy o wybodaeth ac i archebu digwyddiadau. Gall myfyrwyr a staff hefyd ymuno â'n grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth Twyni Crymlyn ar WhatsApp. 

Ein tudalen Eventbrite yma

Digwyddiadau a Gweithgareddau

Ymunwch a'n tim ar ein digwyddiadau

Pedwar gwirfoddolwr ar y traeth yn cymryd rhan mewn sesiwn codi sbwriel

Glanhau'r Traethau

Chwilio am awyr iach, ymarfer corff ysgafn, a chyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol? Ymunwch â’n glanhau traeth misol a helpwch ni i gadw Twyni Crymlyn yn arbennig! Mae'r warchodfa natur unigryw hon, wrth ymyl Campws y Bae, o bwysigrwydd cenedlaethol oherwydd ei bywyd gwyllt amrywiol. Yn anffodus, mae sbwriel yn cael ei olchi i’r lan gyda phob llanw, ac heb ein cymorth ni, bydd yn aros yno am byth.

Nid yw glanhau traethau yn ymwneud â thacluswch yn unig—mae’n ffordd wych o werthfawrogi’r amgylchedd prydferth hwn, ymlacio yn yr awyr iach, a gadael yr ardal mewn gwell cyflwr nag oedd hi pan gyrhaeddoch.

Prosiectau Tyfu Tawe a Thyfu

Mae Tyfu Tawe, ein prosiect garddio i fyfyrwyr a staff, wedi codi gwelyau ar y ddau gampws ar gyfer tyfu llysiau a pherlysiau. Yn ogystal ag addysgu sgiliau garddio a chynnig y cyfle i gwrdd â phobl o'r un bryd, rhoddir y cynnyrch sy'n cael ei dyfu i ddigwyddiadau tymhorol yr Oergell Gymunedol.  

Cynhelir sesiynau sefydlu hygyrch yn ystod amser cinio bob mis drwy'r flwyddyn ac maent ar agor i bawb, gan gwrdd am 1pm ar ail ddydd Mawrth pob mis ar Gampws Parc Singleton rhwng llety Horton a llety Penmaen, ac ar ail ddydd Iau'r mis yn y gwelyau uchel ger Y Twyni ar Gampws y Bae.

Prosiectau Tyfu Tawe a Thyfu

Ymunwch ag un o'n sesiynau amser cinio

Tri o bobl yn y gwelyau uchel rhwng Horton ac adeilad Penmaen

Y Wobr Dinesydd Byd-eang am Myfyrwyr

Y Wobr Dinesydd Byd-eang Myfyrwyr

Ein rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr nodedig yw'r Wobr Dinesydd Byd-eang

Myfyrwyr ar pont ar campws singleton

Gall myfyrwyr unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn o’u gradd, weithio tuag at ennill y wobr hon yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau'r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academaidd HEAR ac yn addysgu ystod eang o sgiliau i ti. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar Canvas, ac anfonwch e-bost er mwyn gofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost i glywed am ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Gall cymdeithasau myfyrwyr ac aelodau staff gyflwyno cais i'r Tîm Cynaliadwyedd am Gronfeydd Grantiau Gwyrdd am hyd at £250 ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd. Darllenwch ragor a gweld y ffurflen gais: Ffurflen gais am Grant Gwyrdd.