Gall ysgrifennu datganiad personol i ategu eich cais am le yn y brifysgol ymddangos yn dipyn o her ond ni ddylai fod.
Rydym yn awgrymu eich bod yn cwblhau'r adran hon unwaith i chi ddewis eich cyrsiau prifysgol, oherwydd y bydd hyn yn eich galluogi i deilwra eich datganiad personol yn unol â’r cyrsiau neu’r pynciau rydych chi wedi'u dewis.
Bydd eich datganiad personol wedi'i strwythuro ar sail tri chwestiwn:
- Pam rydych chi eisiau astudio'r cwrs hwn?
- Sut mae eich cymwysterau neu eich astudiaethau wedi eich helpu i baratoi ar gyfer y cwrs neu'r pwnc hwn?
- Beth arall rydych chi wedi'i wneud y tu allan i addysg, a pham mae'r profiadau hyn yn ddefnyddiol?
Dylech ddefnyddio'r cwestiynau hyn i esbonio eich cymhelliant dros gyflwyno cais i astudio yn y brifysgol. Mae'n bwysig tynnu sylw at eich cymhelliant a'ch angerdd am y maes pwnc, a'r sgiliau neu'r profiad a all fod gennych a fydd yn eich helpu i fod yn fyfyriwr llwyddiannus. Mae rhai enghreifftiau gwych ac arweiniad ar sut i strwythuro eich atebion ar gael ar wefan UCAS, ond dyma enghraifft o fan cychwyn da:
Cwestiwn 1 - Dechreuwch â brawddeg agoriadol wych sy'n mynegi pa mor frwdfrydig rydych chi am y cwrs ac sy'n dangos eich bod yn deall beth fydd goblygiadau astudio'r cwrs hwn.
Cwestiwn 2 - Rhowch bwyslais ar eich sgiliau a'ch gwybodaeth a; nodwch dystiolaeth sy'n profi eich diddordeb yn y cwrs a'ch rhinweddau personol.
Cwestiwn 3 - Dylai'r rhan hon ddisgrifio beth sy'n eich gwneud yn unigryw a beth fydd yn eich gwneud yn addas i'r cwrs sydd o ddiddordeb i chi.