Fy mhrofiad o Abertawe

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

"Cyrhaeddais y brifysgol drwy’r system Clirio ac roedd y broses yn syml iawn ac yn ddi-straen."

Ar ôl i mi gofrestru ar gyfer Clirio, anfonodd Prifysgol Abertawe neges e-bost ataf y diwrnod hwnnw’n cynnig lle i mi ar fy nghwrs dymunol (Hanes yr Henfyd). Yn y dyddiau wedi hynny, os oedd gennyf unrhyw ymholiadau, roedd yn hawdd cysylltu â’r Brifysgol ac roedd rhywun wrth law bob amser i siarad â mi ac ateb fy nghwestiynau.

Cefais yr holl gymorth roedd ei angen arnaf cyn dod i Abertawe, gan gynnwys helpu i sicrhau llety yn y brifysgol ar gyfer fy mlwyddyn gyntaf.

Roeddwn yn fy modd yn cael lle yn y brifysgol. Nid yn unig oedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs roeddwn am ei astudio, ond mae ganddi ei Chanolfan Eifftaidd ei hun hefyd – rhywbeth unigryw nad yw prifysgolion eraill yn ei chynnig.

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

Bethany Love – Eifftoleg ac Hanes yr Henfyd, BA

Cymorth academaidd

Dechreuais yn Abertawe yn wreiddiol yn astudio cwrs anrhydedd sengl. Fodd bynnag, yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, roeddwn yn gallu dewis nifer o fodiwlau Eifftoleg a darganfûm gariad newydd at arteffactau a hanes yr Aifft. Wedi hynny, llwyddais i newid fy nghwrs i radd cydanrhydedd Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg, BA.

Graddiais yn 2022 ac roeddwn wrth fy modd â’m tair blynedd yn Abertawe. Er i COVID darfu ar fy astudiaethau yn ystod y cyfnod hwn, roedd cymorth ar gael bob amser ac roedd y darlithwyr yn amyneddgar dros ben o ran aseiniadau. Aeth Cyfadran y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol y tu hwnt i’r galw i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni’r gwaith gorau y gallwn.

Gweithgareddau allgyrsiol

Yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ymunais â’r gymdeithas Marchogaeth. Roedd y gymdeithas yn groesawgar dros ben. Yna, yn ystod fy nhrydedd flwyddyn, cefais fwrsariaeth chwaraeon a oedd yn fy ngalluogi i gael gwersi bob wythnos, gan olygu fy mod yn gallu dysgu sgiliau’n gynt o lawer. Roedd y digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn rheolaidd a phob amser yn cynnwys themâu hwyliog! Mae llawer o glybiau a chymdeithasau ar gael i fyfyrwyr yn Abertawe, felly gallwch bob amser ddod o hyd i rywbeth sy’n cyfateb i’ch diddordebau.

Pam Abertawe?

Mae gan ardal Abertawe lawer i’w gynnig. Mae’r ddinas ei hun yn fwy o lawer nag y byddech yn disgwyl ac mae wedi’i hamgylchynu gan fryniau a choedwigoedd i’r rhai sy’n mwynhau natur a cherdded. Mae’r traethau niferus yn yr ardal yn un o fanteision mawr Abertawe hefyd ac maent yn hygyrch drwy gydol y flwyddyn.

Mae cyfleusterau’r brifysgol yn wych, mae’r llyfrgell wedi’i chyfarparu’n dda ac mae digonedd o leoedd y gallwch chi fynd i astudio. Mae adeiladau fel Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cynnig mannau astudio cymdeithasol hefyd.

Wedi graddio o Abertawe. Yna fe wnes i gwrs Meistr mewn Astudiaethau Amgueddfa.

Byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe yn fawr iawn ac ni fyddwch yn dod o hyd i le mwy croesawgar.

Yn gyntaf, Paid â Phanicio, Rydym Yma i Helpu

Efallai nad yw eich canlyniadau cystal ag roeddech chi'n gobeithio, neu efallai eich bod wedi newid eich meddwl am eich dyfodol ar y funud olaf, fydd hynny ddim yn eich rhwystro rhag astudio'r gyfraith yr hydref hwn. Mae Prifysgol Abertawe'n yma i helpu a byddwn yn rhoi i chi'r wybodaeth bydd ei hangen arnoch i sicrhau eich lle yn y brifysgol drwy'r system Glirio. Efallai eich bod yn teimlo’n llawn gofid ar hyn o bryd, ond ni fydd dod drwy'r system Glirio yn golygu diwedd eich gyrfa.

Beth sydd ei angen arnat ar gyfer Clirio?

Hoffwn ni'n eich helpu i leddfu eich pryderon am y broses Glirio, felly rydyn ni wedi ateb rhai o'r cwestiynau cyffredin a darparu ychydig o wybodaeth ychwanegol â'r nod o'ch helpu i baratoi ar gyfer Clirio a manteisio i'r eithaf ar y broses.