Teitl:

Eithafiaeth ar yr Adain Dde, Propaganda Ar-lein, a Thynnu Cynnwys yn Defnyddio Cyfuniad o Ddulliau Dynol ac Awtomatig

Rhanddeiliad:

Facebook

Disgrifiad:

Ystyrir propaganda ar-lein a radicaleiddio gan lawer yn her ddiogelwch enbyd. Yn dilyn ymosodiadau megis y rheiny yn Christchurch, Seland Newydd, mae sylw’n canolbwyntio’n gynyddol ar y bygythiad gan yr adain dde, yn ogystal â bygythiad gan grwpiau jihad treisgar. Bu ffocws cynyddol hefyd ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol. O ystyried maint y dasg, mae defnyddio technoleg i atal a thynnu cynnwys terfysgol oddi ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn hanfodol yn ddi-os. Er gwaethaf ymdrechion a wnaed yn y maes hwn, mae eithafwyr ar-lein yn dal i fod yn bresennol ar y llwyfannau hyn i raddau gwahanol. Er bod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y duedd hon, un ffactor pwysig fu’r defnydd o’r we yn gyffredinol a’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol. O ystyried yr holl gynnwys sy’n cael ei bostio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol bob dydd, mae defnyddio technoleg yn hanfodol er mwyn i ymdrechion ar gyfer tynnu cynnwys terfysgol fod yn effeithiol. Ar yr un pryd, mae cyfyngiadau i benderfyniadau awtomatig. Yn benodol, mae peiriannau yn gweithio gyda data a chod; nid ydynt yn deall ystyr (Hildebrandt 2018). Dwyseir y problemau hyn yng nghyd-destun yr adain dde. Yn wahanol i gynnwys a gysylltir â’r Wladwriaeth Islamaidd fel y’i gelwir, nid yw’r rhan fwyaf o gynnwys yr adain dde wedi’i frandio. Ar ben hynny, gwelwyd newid yn y Ffenestr Overton, i’r fath raddau hyd nes mae gweithredwyr pwerus - gan gynnwys penaethiaid gwladwriaeth, pleidiau gwleidyddol mawr, rhai sefydliadau cyfryngau traddodiadol, a nifer helaeth o aelodau’r cyhoedd yn y gorllewin - yn uniaethu â’r math hwn o gynnwys (Conway, 2020). Yr allwedd i effeithiolrwydd felly yw’r gallu i wella penderfyniadau a wneir yn defnyddio cyfuniad o ddulliau dynol ac awtomatig (van der Vegt et al, 2019). O ganlyniad, bydd y gwaith ymchwil hwn yn ymgorffori ymchwil mewn modelau damcaniaethol i ddatblygu effeithlonrwydd yn y cyd-destun hwn.

Bydd y prosiect hwn yn defnyddio naratif cymharol, a thrwy wneud hynny bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar ddwy agwedd benodol. Yn gyntaf, grŵp adain dde radical y cyfeirir atynt fel The Proud Boys ac yn ail y diwylliant trolio yn fwy eang. Mae cymharu’r ddwy agwedd hon yn addo datgelu mewnwelediadau newydd ynghylch y naratif a’r tactegau sy’n esblygu o hyd a ddefnyddir gan grwpiau adain dde radical.

Bydd yr ymchwil yn defnyddio data (sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys delweddau, negeseuon testun a metreg defnyddiwr) a fydd yn cael ei ddadansoddi yn defnyddio methodoleg a dull dadansoddi cynnwys. Mae dadansoddi cynnwys yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i ddadansoddi deunydd clywedol a gweledol yn gritigol. (Finch and Fafinski, 2012). Bydd syniadau, cysyniadau, termau, themâu a nodweddion delwedd eraill yn cael eu hadnabod, a chymariaethau yn cael eu gwneud, i ganiatáu ar gyfer disgrifiad, eglurhad, a dadansoddiad manwl o’r deunydd. Bydd y categorïau hyn yn cael eu cynhyrchu drwy ddarllen y data’n ofalus, o’i gymharu â chael eu diffinio ymlaen llaw, gan sicrhau dull anwythol. Bydd y categorïau codio a gynhyrchir drwy ddadansoddi cynnwys yn arwain at lawlyfr codio: dogfen yn cynnwys cyfarwyddiadau i’r codiwr, fel bod y broses dadansoddi data yn benodol, cyson ac ailadroddus. Gan fod y categorïau codio yn cael eu cymhwyso i’r data, bydd atodlen godio yn cael ei chreu, h.y. dogfen yn cynnwys yr holl ganfyddiadau yn gysylltiedig â phob eitem yn y sampl. Bydd hyn yn arwain at set ddata feintiol, y gellir ei defnyddio i wneud a chyflwyno casgliadau yn defnyddio dulliau ansoddol.