Mae Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau (GGS) yn cyflenwi gwasanaethau ymchwil, dysgu, cyflogadwyedd, diwylliannol a gweinyddol i gymuned fawr ac amrywiol y Brifysgol. Gyrrir popeth yr ydym yn ei wneud gan ragoriaeth mewn addysg ac ymchwil; rydym yn ymroddi ein gwybodaeth arbenigol a proffesiynol, sgiliau a chreadigrwydd i gyflenwi gwasanaethau a datrysiadau effeithiol, a gweithredwn fel athrawon, arweinwyr ac ymgynghorwyr i'n ddefnyddwyr, wrth eu cynorthwyo yn eu gwaith academaidd ac ymchwil.
