Mae Under the Blue gan Suzannah V. Evans yn flodeugerdd sy'n canolbwyntio ar fywyd beunyddiol, gan ei bortreadu fel rhywbeth sy'n rhyfeddol o arbennig ac unigryw. Drwy ei defnydd o ddelweddau a disgrifiadau pwerus, mae Evans yn dangos i ni pa mor bwysig y gall hyd yn oed yr eiliadau mwyaf syml fod. Wrth i ni ddarllen y casgliad treiddiol a chraff hwn o gerddi, rydym yn sylwi pa mor ddwys y mae Evans yn arsylwi ar eiliadau ac atgofion na fyddai'r rhan fwyaf ohonom yn sylwi arnynt fel arfer.
Yn y gerdd gyntaf yn y casgliad, 'Under the Blue', mae Evans yn cyflwyno eiliad sy'n disgrifio profiad ar y môr. Mae'r sefyllfa hon yn cynnwys grŵp o bobl sy'n ceisio gwthio caiac a mynd i mewn iddo, ond sy'n cael eu gorlethu'n gyflym gan ffyrnigrwydd y tonnau o'u blaenau. Mae'r hyn sy'n dechrau fel sefyllfa syml yn troi'n ddwys yn fuan wrth i ni sylwi ar danbeidrwydd y môr. Mae'r anrhefn sydyn hon yn adlewyrchu ofn a dryswch sydyn yr adroddwr wrth iddi wylio'r sefyllfa'n datblygu o'i blaen. Mae hyn yn creu newid clir rhwng yr amserau, pan ddywed yr adroddwr "my mind pivots to several years ago" gan ddangos sut mae'r eiliad ar y môr yn ei gorfodi i gofio, yn erbyn ei hewyllys, brofiad anffodus o'r gorffennol. Mae hyn yn awgrymu bod cysylltiad agos rhwng y sefyllfa bresennol a thrawma blaenorol, sy'n gallu dychwelyd yn annisgwyl i feddwl rhywun ar adegau. Mae'r gerdd yn symud o sefyllfa lonydd i ddigwyddiadau anhrefnus a myfyrio, gan bwysleisio pa mor gyflym y gall rhywun golli rheolaeth mewn amryfal ffyrdd. Mae'n awgrymu ymhellach sut y gellir colli rheolaeth yn hawdd ar sefyllfaoedd corfforol a meddyliol, gan ddangos i ni bod hyd yn oed profiadau a allai ddechrau fel rhai hawdd eu rheoli yn gallu troi'n anodd yn gyflym. Drwy hyn, mae Evans yn creu ymdeimlad o densiwn i'r darllenydd wrth i’r dechrau llonydd droi’n ansicrwydd yn araf.
Yn 'Bright' mae Evans yn archwilio ymdeimlad o anhawster ymlacio ar ôl profiadau rhywiol. Mae'r gerdd yn dechrau drwy ddisgrifio profiadau pob dydd, gan ddechrau gyda darllen, cyn symud i gysylltiad rhywiol. Fodd bynnag, dilynir hyn gan orfeddwl ac anhawster perswadio'r meddwl i ymlacio. Amlygir hyn drwy gyfosod y geiriau "lights out", sy'n disgrifio'r lle diriaethol, a'r disgrifiad o feddwl yr adroddwr: "feels very bright" Mae hyn yn awgrymu bod meddyliau'r adroddwr yn parhau'n ddi-baid, hyd yn oed pan fo'r amgylchedd yn dywyll ac yn dawel, bron fel pe bai'n gorfeddwl ac wedi'i ymddieithrio o'r foment. Ymddengys fod y sefyllfa yn achosi i'r awdur synfyfyrio ar bethau yn hytrach nag ymlacio. Mae'r gerdd hefyd yn symud rhwng realiti a delweddau breuddwydiol, a cheir meddyliau a delweddau ar hap, megis ci yn cyfarth a hyd yn oed breuddwydion swreal am ddieithriaid a chregyn. Mae'r eiliadau newidiol hyn bron yn rhoi'r argraff bod yr awdur yn cael anhawster gwahaniaethu rhwng ei breuddwydion a'i bywyd go iawn, ac mae'n ymddangos yn fwy fod popeth yn cydblethu ac yn pylu iddi. Ar ben hyn, gall hyd yn oed y teitl 'Bright' gael ei ystyried yn eironig, gan fod meddwl yr awdur yn teimlo'n brysur gan fethu llonyddu drwy gydol y gerdd. Felly, gall hyn arwain y darllenydd i gydymdeimlo â'r awdur, gan fod ei meddyliau a'i hatgofion yn parhau i wneud unrhyw syniad o orffwys yn eithriadol o anodd.
Mae’r awyrgylch yn 'Postcard with the Wind' yn fwy sylwgar, gan ganolbwyntio ar bŵer y gwynt wrth iddo aflonyddu ar dawelwch y nos. Mae'r gerdd yn disgrifio'r gwynt fel grym sy'n rhuo drwy'r dirwedd dywyll ac yn siglo'r tŷ ('buffets the house'). Mae'r defnydd o bersonoli yn gwneud i'r gwynt deimlo'n llawer mwy actif ac ymosodol, gan greu ymdeimlad nad oes modd rheoli natur na'i rhagweld. Drwy gydol y gerdd, mae'r awdur yn trafod yr hyn a allai ddigwydd oherwydd y storm. Mae'r awdur yn disgrifio'r tŷ fel "blown over" sy'n ychwanegu ymdeimlad ysgafn o ofn at y gerdd. Wrth i'r gerdd fynd rhagddi, mae'r disgrifiad o'r gwynt yn troi'n fwy mynegiannol, gan ei bersonoli drwy'r defnydd o eiriau fel "moaning" a "sighing" drwy'r waliau, gan awgrymu nad yw trymedd y storm byth yn dod i ben mewn gwirionedd.
Yn y gerdd 'Letter to My Mother', mae Evans yn cyflwyno cysylltiad emosiynol dwfn â'i mam drwy restr o atgofion. Mae'r gerdd yn symud drwy atgofion craidd megis eiliadau yn yr ysgol, chwerthin a rennir a hyd yn oed disgrifiadau megis "red lipstick" a "floppy hat". Mae hyn yn creu ac yn awgrymu ymdeimlad cryf o agosrwydd rhyngddynt, gan awgrymu ymhellach fod ganddynt berthynas gref a chariadus iawn. Mae Evans yn defnyddio llawer o ailadrodd drwy'r gerdd, yn enwedig y geiriau "You, with...", bron fel pe bai'r awdur yn ceisio pwysleisio agweddau gwahanol ar olwg a hunaniaeth ei mam. Mae'n awgrymu bod modd cofio amdani mewn amryfal ffyrdd yn hytrach na thrwy un ddelwedd yn unig. Wrth i'r gerdd fynd rhagddi, mae'r awdur yn newid i'r presennol, lle mae'n disgrifio hyd yn oed mwy o sefyllfaoedd modern a sut maent yn cysylltu â'i mam. Gellir gweld hyn yn benodol yn y llinell: "the movement of my arms is for you", gan awgrymu bod y cysylltiad cryf hwn rhyngddynt yn hirdymor ac yn barhaol. Mae'r llinell hon hefyd yn cysylltu â cherddi eraill sy'n trafod anawsterau corfforol mam yr awdur, gan bwysleisio pa mor bur yw eu perthynas. Drwy 'Letter To My Mother', mae Evans yn cyflwyno cof fel rhywbeth sydd bob amser yn barhaus. Mae hyn yn tanlinellu ymhellach sut mae perthnasoedd yn parhau i lunio bywyd rhywun, hyd yn oed pan fo rhai eiliadau gydag unigolion yn y gorffennol. Gall hyn ennyn yn y darllenydd ymdeimlad o gynhesrwydd tuag at yr atogfion a'i deimladau personol.
Ar y cyfan, mae Under the Blue yn cyflwyno amrywiaeth o brofiadau sy'n symud rhwng anhrefn, agosatrwydd, natur a chof. Drwy gydol y casgliad, mae Evans yn archwilio sut gall eiliadau, hyd yn oed y rhai mwyaf syml, effeithio ar fywyd beunyddiol person. Mae'r cerddi yn aml yn creu argraff drwy eu delweddau a'u dyfnder emosiynol, sy'n annog y darllenydd i feddwl yn ddyfnach am brofiadau pob dydd. Mae'r casgliad yn teimlo'n ystyrlon ac yn aml-haen, gyda phob cerdd yn cynnig i'r darllenydd safbwynt gwahanol ar sut mae pobl yn sylwi ar y byd o'u cwmpas.