Bydd Aberystwyth yn ymwneud ag ASTUTE 2020 trwy’r Adran Gyfrifiadureg, a phwyslais y gwaith ymchwil yno fydd systemau deallus, gan ganolbwyntio’n bennaf ar feysydd meddalwedd a roboteg.
Prif ffocws Aberystwyth fydd thema arbenigol allweddol Peirianneg Systemau Gweithgynhyrchu, gan ganolbwyntio ar ei chryfderau yn y meysydd canlynol:
- Meddalwedd deallus
- Rhagoriaeth weithredol
- Gwella’r broses weithgynhyrchu
- Rheolaeth restru a chynhyrchu
Mae llawer o’r cyfleoedd i wella cystadleurwydd Diwydiant Gweithgynhyrchu Cymru yn bodoli ym maes casglu, dadansoddi a manteisio ar ddata ynghylch perfformiad gweithgynhyrchu. Gellir gwneud yn fawr o ddau dueddiad cyfrifiadura cwmwl a dadansoddi swmp o ddata er mwyn sicrhau bod gan gwmnïau ddealltwriaeth lawer manylach o gryfderau a gwendidau eu perfformiad, a defnyddio’r ddealltwriaeth honno i wella perfformiad.
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda chwmnïau gweithgynhyrchu Gorllewin Cymru a’r Cymoedd trwy gyfnewid gwybodaeth ynghylch potensial meddalwedd i wella’u cystadleurwydd, ac yn eu cefnogi i gyflawni’r manteision posibl trwy brosiectau ar y cyd.