Forum logo

Amdanom ni

Mae Fforwm Ymchwil Ôl-raddedig CARI yn grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol sy'n archwilio sut gallwn gydweithio ar adeg argyfyngus i’r hinsawdd a byd natur. Rydym bob amser yn chwilio am bobl newydd i gymryd rhan! Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma

Cydlynwyr y fforwm

Nadia Frontier

Photo of PGR Lead Nadia Frontier

Ecolegydd morol ydw i a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd. Yn Abertawe, rwy'n gweithio yn y Grŵp Ymchwil Ecoleg Arfordirol lle mae fy astudiaethau PhD yn cynnwys defnyddio priodweddau mathau o rywogaeth gwymon brown i archwilio pa mor gyflym maen nhw'n pydru. Gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau maes, labordy a modelu, nod fy PhD yw asesu cyfraniad carbon gwymon datgysylltiedig at suddfannau cefnforol dwfn. Dechreuodd fy nghefndir addysgol gyda gradd BSc mewn Bioleg y Môr ym Mhrifysgol Plymouth ac MSc mewn Ecoleg Feintiol ym Mhrifysgol Glasgow. Rhwng fy nghyfnodau o addysg, rwyf wedi gweithio gyda'r Gymdeithas Bioleg Forol, Arolwg Antarctig Prydain a Gorsaf Bioleg Roscoff fel ymchwilydd yn astudio cyfraddau pydru gwahanol rywogaethau o wymon. Yn fy amser rhydd, rwyf wedi gwirfoddoli i'r RSPB ar sawl gwarchodfa yng Nghaergrawnt ac yn yr Alban, yn cynorthwyo gyda rheoli cynefinoedd ac arolygon. Rwyf wedi ymuno'n ddiweddar â grŵp modrwyo Gŵyr ar ôl cael fy ysbrydoli drwy gynorthwyo gyda sesiynau modrwyo adar gyda'r Wash Wader Group yn Norfolk. Rwy'n mynychu cyfarfodydd Extinction Rebellion oherwydd pryder dwys ynglŷn â diffyg ewyllys gwleidyddol i fynd i'r afael â cholled bioamrywiaeth a'r argyfwng hinsawdd.

Chiara Nettelnstroth

Photo of Chiara Nettelnstroth PGR Lead

Chiara ydw i. Ces i fy ngeni a fy magu mewn tref fach ddim yn bell o Munich, yr Almaen. Gan i mi gael fy magu mewn ardal wledig yn agos at y mynyddoedd, datblygais i ddiddordeb cryf mewn natur a gweithredu ar newid yn yr hinsawdd. O ganlyniad, dewisais i astudio Ffiseg a Meteoroleg ar gyfer fy ngradd Baglor. Wedyn gwnes i astudio gradd Meistr mewn Gwyddor Hinsawdd cyn symud i Abertawe i ddechrau ar fy PhD mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Rhewlifeg.

Dros y blynyddoedd, rwyf wedi meithrin profiad drwy sawl interniaeth a phrosiect ymchwil ym meysydd modelu'r hinsawdd, dadansoddi data a ffiseg iâ môr.

Mae fy astudiaethau PhD yn cynnwys ymchwilio i sut mae amrywioldeb o ran hyd a lled ymrannu tu flaen rhewlifoedd yn yr Antarctig yn effeithio ar lif iâ a chydbwysedd màs yn yr Antarctig. Mae'r ymchwil hon yn bwysig achos disgwylir i'r Antarctig gyfrannu'n sylweddol at gynnydd yn lefel y môr yn y dyfodol mewn hinsawdd sy'n cynhesu, drwy gyflymu llif iâ sydd ar wely'r môr a chynnydd yng nghyfraddau toddi iâ gwaelodol.

Rhodri Irranca-Davies

Photo of Rhodri Irranca-Davies

Rwy'n fiolegydd y môr, yn gadwraethwr ac yn ymchwilydd amgylcheddol yng Nghymru sy'n frwdfrydig am ddeall y byd naturiol a'i adfer drwy wyddoniaeth, technoleg a gweithredu cymunedol. Gan i mi gael fy magu ar fferm a oedd yn ystyriol o natur, datblygais i gysylltiad â'r amgylchedd a arweiniodd yn y pen draw at yrfa mewn cadwraeth a gwyddor môr. Mae gen i BSc mewn Bioleg y Môr Gymhwysol o Brifysgol Bangor ac MRes mewn Bioleg y Môr o Brifysgol Plymouth, lle roedd fy ymchwil yn canolbwyntio ar AI a chymwysiadau dysgu dwfn ym maes mapio cynefinoedd benthig a monitro ecolegol.

Ers nifer o flynyddoedd, rwyf wedi gweithio mewn cadwraeth forol, dŵr croyw a chadwraeth tir yng Nghymru, gan gynnwys rolau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, gan arwain mentrau adfer natur ar raddfa tirwedd a phrosiectau cadwraeth aml-bartner. Mae fy ngwaith yn cynnwys adfer cynefinoedd, ailgyflwyno rhywogaethau, monitro ecolegol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygu dulliau monitro amgylcheddol arloesol, gan ddefnyddio synwyryddion cost isel, AI a thechnolegau'r rhyngrwyd pethau.

Ar hyn o bryd, rwy'n ymgymryd ag ymchwil PhD sy'n canolbwyntio ar ddatblygu systemau monitro hygyrch a chost isel ar gyfer adfer ecosystemau arfordirol, gan gyfuno ecoleg, electroneg a gwyddor data er mwyn gwella dealltwriaeth o sut mae amgylcheddau dynamig fel morfeydd heli, dolydd morwellt a thraethellau yn ymateb i newid amgylcheddol.

CARI PGR group
CARI PGR presentation