Gan Russell Grigg, Helen Lewis, Tami O'Neill ac Emily Gregory

Fwy na chanrif yn ôl, awgrymodd John Dewey, yr addysgwr Americanaidd mawr ei barch, y dylid darparu sefyllfaoedd sy'n ysgogi myfyrio am addysgu i athrawon rhagwasanaeth. Bellach ystyrir arsylwi a myfyrio ar addysgu yn gyffredinol fel elfennau annatod o gynllun rhaglen addysg gychwynnol athrawon. Yn ymarferol, mae hyn fel arfer yn digwydd mewn ysgolion fel rhan o brofiadau athrawon dan hyfforddiant (AdH) ar leoliad. Mae'r blog hwn yn trafod defnydd cyflenwol ystafelloedd dosbarth arsylwi ar gampws ein prifysgol. 

Cefndir 

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r AdH TAR cynradd yn defnyddio dwy ystafell ddosbarth arsylwi fel rhan o'u rhaglen. Cynlluniwyd yr ystafelloedd dosbarth o ganlyniad i weledigaeth drosfwaol y rhaglen o 'ddatblygu ymarferwyr myfyriol wedi'u llywio gan ymchwil'. Er mwyn cyflawni hyn, roeddem yn teimlo bod angen cyfleoedd diogel, dilys a diddorol ar yr AdH i fyfyrio a thrafod yn systematig ar addysgu a dysgu. 

Er bod y mathau hyn o gyfleoedd wedi'u cynnwys yn elfennau’r rhaglen sy’n digwydd yn yr ysgolion, roeddem am sicrhau y gallem wneud hyn yn y brifysgol hefyd. Roeddem yn teimlo, ochr yn ochr â dulliau traddodiadol megis defnyddio fideos, neu feddwl yn ôl am brofiadau blaenorol yn yr ysgol, y byddai eu profiadau’n cael eu cyfoethogi trwy gyfleoedd i gydweithio wrth gynllunio, addysgu a myfyrio ar wersi sy’n cynnwys plant ac athrawon go iawn. 

Yn ystod saith wythnos gyntaf y rhaglen, mae AdH yn defnyddio’r ystafelloedd dosbarth arsylwi mewn tair ffordd wahanol: (1) maen nhw’n arsylwi’r gwersi a addysgir gan athrawon profiadol (2) maen nhw’n cynllunio amrywiaeth o weithgareddau mewn grwpiau bach (3) maen nhw’n myfyrio’n feirniadol ar recordiadau fideo o wersi a addysgwyd gan un o'r tîm. Mae ffocws gwahanol i bob wythnos, gan gynnwys: sgiliau dweud stori, sut mae athro yn cwestiynu (Ffigur 1) a sut i ennyn diddordeb dysgwyr trwy weithgareddau ymarferol. 

 
Ffigur 1. Athrawon dan Hyfforddiant yn arsylwi athro yn cwestiynu mewn gwers mathemateg  

Manteision ar gyfer AdH 

Fel addysgwyr athrawon, roeddem yn teimlo bod y profiadau arsylwi yn ein galluogi i chwalu’r ddwy ochr draddodiadol. Mae Dickson (2020) yn galw am ailgysyniadoli’r bartneriaeth rhwng prifysgolion ac ysgolion o ran amser, gofod, cynnwys a phersonau. Trwy ddefnyddio ein hystafelloedd dosbarth arsylwi, rydym wedi creu trydydd gofod lle gall AdH ac addysgwyr athrawon (o’r ysgol a’r brifysgol) addysgu mewn amgylchedd diogel, cefnogol a sicr. 

Mae pob AdH wedi rhoi adborth cadarnhaol am eu profiadau yn yr ystafelloedd dosbarth arsylwi ac wedi nodi ystod o fanteision. Yn benodol, maent yn nodi lefel gynyddol o hyder. Maent yn priodoli hyn i deimlo'n gartrefol o flaen eu cyfoedion a chael y cyfle i ymarfer a gweithredu ar awgrymiadau defnyddiol. I Emily, er enghraifft, yr hyn a roddodd hwb i’w hyder oedd yr adborth anfeirniadol gan gyfoedion:

Ceisiais weithio ar sut y gallwn i wella fy arferion addysgu, er enghraifft i sicrhau bod pob disgybl yn gallu gweld yr adnoddau a ddefnyddir, yn enwedig yn ystod y wers dweud stori. 

Mantais allweddol arall y mae myfyrwyr yn ei chael yw gweld sut mae damcaniaethau gwahanol yn berthnasol mewn 'amser go iawn'. Er enghraifft, mae Tami yn myfyrio ar syniadau Vygotsky am sgaffaldiau a sut mae'r rhain yn datblygu o’i blaen hi a'i chyfoedion sy’n arsylwi (Tabl 1). 

Strategaethau 

Enghreifftiau 

Defnyddio Cymhorthion Gweledol 

Yn ystod gwers ar dalgrynnu rhifau, defnyddiodd yr athro dosbarth linell rif a phroc cof gweledol i atgoffa’r disgyblion: ‘five to nine climb the vine, zero to four slide to the floor’. 

Gwneud cysylltiadau bywyd go iawn 

Defnyddio lluniau o’r ardal leol i ddangos bod ffocws y wers yn cysylltu â’r byd go iawn. 

Meddwl-paru-rhannu 

Mewn parau, siaradodd disgyblion am yr hyn roedd 'grymoedd' yn ei olygu iddyn nhw, cyn rhannu eu syniadau gydag un o’i gyfoedion ac yna mewn grŵp. 

Ysgogi gwybodaeth flaenorol 

Yn ystod crynodeb ar ddechrau gwers, cyfeiriodd yr addysgwr athrawon at wybodaeth flaenorol y plant am epistemoleg eu henwau. 

Gofyn amrywiaeth o gwestiynau 

Yn y gwersi a arsylwyd, defnyddiodd yr athrawon ystod eang o gwestiynau, o rai oedd yn targedu cofio gwybodaeth a dealltwriaeth (e.e. ''Beth yw talgrynnu?') i ddatrys problemau a meddwl yn greadigol (e.e.' 'Sut gallwn ni sicrhau ein bod ni yn llwyddiannus yn y wers hon? 

Tabl 1. Technegau Sgaffaldio a arsylwyd 

Manteision ehangach 

O safbwynt yr addysgwyr athrawon, fel tîm newydd, rydym wedi gallu cynnal arsylwadau cydweithredol rhwng cyfoedion am y tro cyntaf. O ganlyniad, rydym wedi datblygu dealltwriaeth ar y cyd, er enghraifft, rôl ymchwil a thystiolaeth i lunio ein haddysgu ym myd addysg uwch. Rydym wedi myfyrio gyda’n gilydd ar feysydd y gallwn eu gwella, megis sut yr ydym yn cynnal trafodaethau gwell gydag athrawon dan hyfforddiant. Rydym wedi rhannu dulliau addysgu yn effeithiol. Heb yr ystafell arsylwi, ni fyddai’r ddeialog hon wedi digwydd yn y foment a gyda’n gilydd, gan fod arsylwi rhwng cyfoedion wedi bod yn broses unigol yn flaenorol, gydag effaith fwy cyfyngedig. 

Mae manteision hefyd i ysgol sy'n ymweld. Ar gyfer mwyafrif y disgyblion, dyma oedd y tro cyntaf iddynt ymweld â phrifysgol. Roedd y rhan fwyaf yn gyffrous iawn i ddod, ac wedi mwynhau’r profiad, er enghraifft, gan ddweud: ‘Roeddwn i’n ei hoffi e pan wnaethon nhw ofyn i ni beth rydyn ni’n hoffi ei wneud yn yr ystafell ddosbarth’ a ‘Roedden ni’n hoffi eu bod nhw’n gofyn cwestiynau i ni a sut rydyn ni’n canolbwyntio yn y dosbarth.'. Yn dilyn gwers wyddoniaeth, mynegodd un disgybl ei llawenydd am fod y profiad yn cynnig cyfle iddi ddysgu gwybodaeth newydd i'w rhannu gyda'i thad sy’n wyddonydd. Mewn rhai achosion, mae rhieni yn ymuno â'r dosbarth fel gwirfoddolwyr. Eto, i rai roedd hwn yn brofiad newydd, a chawsant gyfle i newid eu canfyddiadau o amgylchedd prifysgol. 

Heriau a chyfyngiadau 

O safbwynt y rhaglen, mae'r ymagwedd hon wedi bod yn ymrwymiad sylweddol o ran cynllunio a pharatoi. Mae'r brifysgol wedi buddsoddi'n ariannol yn y cyfleusterau. Mae cost gysylltiedig ychwanegol hefyd gan fod y brifysgol yn ariannu costau teithio’r ysgol, ac yn dibynnu ar berthynas waith agos rhwng y brifysgol a’r chwe ysgol sy’n bartneriaid arweiniol i ni. Un rheswm pam y bu hyn yn bosibl yw maint bach ein carfan o AdH (rhif = 25). Os bydd ein dyraniad yn cynyddu yn y dyfodol, efallai y bydd angen i ni ailfeddwl sut i fwyhau’r cyfleoedd hyn. 

 Ffigur 2. Manteision a heriau defnyddio ein hystafelloedd dosbarth arsylwi 

Wrth fyfyrio, cytunodd AdH a darlithwyr na roddwyd digon o amser i roi adborth i gymheiriaid. At hynny, yn hytrach na defnyddio'r dull 'dwy seren a dymuniad' sylfaenol yr ydym yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd, rydym wedi myfyrio y byddai'n llawer gwell cynnal dadansoddiad manylach sy’n canolbwyntio ar agweddau penodol ar addysgu neu ddysgu. 

Er gwaethaf yr heriau a grynhoir yn Ffigur 2, mae cefnogaeth gyffredinol o fewn y tîm ac ymhlith ein Hathrawon dan Hyfforddiant a’n hysgolion partner i barhau i ddefnyddio’r ystafelloedd dosbarth arsylwi. Rydym yn ystyried y rhain yn ganolog i’n gweledigaeth o ddatblygu ymarferwyr myfyriol wedi’u llywio gan ymchwil. Daeth Ysgol Labordy clodwiw Dewey yn 'gymuned o ymholi' lle roedd athrawon 'i gyd ar ddarn o waith ymchwil gyda'i gilydd' (Durst, 2010:9). Rydym yn gobeithio ysbrydoli mewn ffordd debyg wrth i ni wneud y gorau o'n harloesedd ein hunain. 

Cyfeiriadau 

Dickson, B. (2020. “ITE Reform at the University of Glasgow: Principles, Research-basis and Implications”, Wales Journal of Education. 22(1). doi: https://doi.org/10.16922/wje.22.1.12-en 

Durst, A. (2010). John Dewey and the Beginnings of the Laboratory School. In: Women Educators in the Progressive Era. Palgrave Macmillan, New York. 

Ysgrifennwyd y Blog gan: 

Cyfarwyddwr AGA Russell Grigg, Cyfarwyddwr Rhaglen TAR Helen Lewis ac Athrawon dan Hyfforddiant TAR Cynradd Tami O'Neill ac Emily Gregory 

Helen Lewis ac Athrawon dan Hyfforddiant Cynradd Tami O'Neill ac Emily Gregory

Teacher with students writing

Russell Grigg ac Athrawon dan Hyfforddiant Cynradd Tami O'Neill ac Emily Gregory

Russell Grigg ac Athro dan Hyfforddiant TAR Cynradd Tami O'Neill ac Emily Gregory