Ar 10 Mai 2024, ymunodd Flip the Streets ag Evolve Abertawe i gefnogi grŵp o fyfyrwyr ifanc o Ysgol Gynradd y Clas wrth greu murlun i roi darlun cadarnhaol o ethos eu hysgol.

Crëwyd y murlun hwn fel rhan o Fenter Flip the Streets sy'n cefnogi grwpiau cymunedol i wneud safiad gweledol yn erbyn casineb o bob math ar ein strydoedd. Mae mwy o wybodaeth am y fenter hon a sut y gallwch chi gymryd rhan yma.

Mae'r gwaith celf a grëwyd yn deyrnged i'r newidiadau demograffeg amrywiol sy'n digwydd yn yr ysgol a'r gymuned leol ac ymateb cynhwysol y plant iddynt. Roedd tîm CMET (Contextual, Missing, Exploited, Trafficked) wedi bod yn hwyluso ac yn cynnal sesiynau i fyfyrwyr o flwyddyn 3 i flwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd y Clas yn ystod y misoedd diwethaf. Cafodd y sesiynau hyn eu teilwra’n ofalus i fynd i'r afael â'r materion o bwys a adnabuwyd yn yr ysgol a'r gymuned ehangach â’r nod o feithrin perthnasoedd adeiladol, cyd-barch, a chyfathrebu cadarnhaol ymhlith myfyrwyr yn amgylchedd yr ysgol ac yng nghyd-destun y gymuned ehangach. Mewn ymateb i'r pryderon a leisiwyd yn ystod sesiwn galw heibio i rieni, darparodd y Tîm Integreiddio a Phartneriaeth Cymunedol ymyriadau cefnogol, gan gynnwys mesurau i wella diogelwch i deuluoedd sy'n byw yn yr ardal gyfagos.

Wedi'u halinio ag egwyddorion hawliau plant CCUHP, cynhaliwyd y sesiynau mewn ffordd a oedd yn ennyn diddordeb er mwyn rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am eu hawliau dynol a phwysigrwydd cael eu clywed a'u parchu. Rhoddodd y sesiynau hyn gyfle i fyfyrwyr greu dyluniadau ar gyfer murlun ysgol ystyrlon a fyddai’n cynrychioli eu syniadau a'u credoau ynghylch hunaniaeth a chymuned.

Bydd y murlun hwn yn dyst i ymroddiad Ysgol Gynradd y Clas i hyrwyddo hawliau a meithrin amgylchedd cadarnhaol, cynhwysol, hyd yn oed i'r rhai sy'n ei weld o'r tu allan. Datblygodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 y dyluniad ar gyfer y murlun yn seiliedig ar eu sgyrsiau yn ystod y sesiynau ymgysylltu dros y misoedd diwethaf.  Ar 10 Mai 2024, cynhaliwyd diwrnod cymunedol yn yr ysgol i ddathlu'r gwaith a gyflawnwyd. Cafodd y disgyblion gyfle i greu'r murlun eu hun trwy chwistrellu paent dan oruchwyliaeth artist lleol gan gymryd perchnogaeth ar eu neges. Cymerodd llawer o sefydliadau ran yn y diwrnod cymunedol, gan gynnwys Evolve Abertawe, Choices, Barod a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu y gymdogaeth. 

Crëwyd y gwaith celf gan un o'r disgyblion ifanc yn yr ysgol a oedd yn dymuno mynegi ei barn yn glir.  Ar y diwrnod, dywedodd, "Rwy'n dymuno i bob plentyn deimlo'n hapus wrth ddod i'r ysgol. mae pob un ohonom ni yn perthyn yma, dim ots o le rydym yn dod. Mae cariad at bob un ohonom ni." Mae gan y gwaith celf hwn arwyddocâd dwys gan gyfleu neges bwerus o ddathlu a derbyn amrywiaeth. Trwy ddylunio plant o amrywiaeth o gefndiroedd, mae'n tanlinellu ethos cynhwysol cymuned yr ysgol gan feithrin ymdeimlad o berthyn gan gael effaith gadarnhaol ar lwyddiant academaidd, cydlyniant cymdeithasol a hunaniaeth bersonol. Ar ben hynny, mae cynnwys y gair Cymraeg "Cynefin" o fewn calon wedi'i llunio gan ddwylo o hiliau amrywiol, yn symboleiddio cynwysoldeb nid yn unig yn Ysgol Gynradd y Clas ond hefyd yng nghyd-destun Cymru yn ehangach.  Yn unol â Strategaeth Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, mae'r gynrychiolaeth hon yn pwysleisio ymrwymiad i amrywiaeth, gan bortreadu Cymru fel cymdeithas groesawgar sy'n gwerthfawrogi cynwysoldeb a chyswllt â'i threftadaeth. Roedd y disgyblion hefyd yn teimlo’n gryf bod chwaraeon i bawb.  Yn eu portread o blant yn chwarae pêl-droed, roeddent yn dymuno herio stereoteipiau o ran rhyw a hyrwyddo cynwysoldeb mewn chwaraeon. Mae'r murlun yn meithrin ymdeimlad o undod a pherthyn yng nghymuned yr ysgol gan atgyfnerthu amgylchedd cadarnhaol a chefnogol lle mae pob myfyriwr yn teimlo ei fod wedi'i werthfawrogi a'i dderbyn. Dywedodd Dan Jones, Dirprwy

Bennaeth yr ysgol:

"Adlewyrchodd y thema gyffredin yn y dyluniadau hyn ddealltwriaeth y dysgwyr y dylai pawb deimlo ymdeimlad o gynefin, beth bynnag eu credoau, eu hiaith, eu diwylliant neu liw eu croen. Roedd y dysgwyr yn teimlo’n angerddol y dylai Clas fod yn gymuned gytûn lle gallai pawb berthyn. Mae'r dyluniadau hyn wedi'u hadlewyrchu yng ngwaith celf Flip the Streets ac, wrth fynd rhagddi, mae'r gwaith celf yn atgof parhaol i holl aelodau ein cymuned eu bod yn perthyn."

Bydd menter Flip the Streets yn parhau â'i chenhadaeth: defnyddio graffiti casineb fel man cychwyn i sbarduno sgyrsiau gyda grwpiau cymunedol a'r diben fydd dad-normaleiddio casineb. Bydd yn defnyddio portreadau cadarnhaol mewn graffiti, a grëwyd gan y grwpiau cymunedol sy'n cymryd rhan i arddangos gwaith celf sy'n procio'r meddwl sy'n wynebu ac yn condemnio casineb yng Nghymru.

Diolch i Ysgol Gynradd y Clas am gydweithredu a chreu’r gwaith celf anhygoel hwn. Mae eu hymroddiad i feithrin amgylchedd lle gall plant dyfu’n gymdeithasol wedi gwella diogelwch a hapusrwydd y gymuned gyfan.

 

 

 

Rhannu'r stori