Mae bod yn Gydymaith Meddygol yn ddewis gyrfa cyffrous. Mae'n ymwneud â llawer o waith caled, ac mae mynediad at raglenni Cydymaith Meddygol yn fwyfwy cystadleuol. Gellir cwblhau hyfforddiant Cydymaith Meddygol dros gyfnod o ddwy flynedd, ond mae'r addysg yn hynod ddwys o ystyried y cyfrifoldeb a roddir i rywun sydd wedi cymhwyso.
Nod Cymdeithion Meddygol yw bod yn hyblyg a meddu ar wybodaeth gyffredinol, sy'n golygu y gallwch ddewis y maes rydych yn gweithio ynddo. Gallech weithio ym maes meddygaeth frys am ychydig flynyddoedd cyn symud i lawfeddygaeth ac yna obstetreg a gynaecoleg. Gall Cymdeithion Meddygol feithrin sgiliau a chael rolau arbenigol megis: cynorthwyo mewn theatrau llawdriniaethau, cynnal rhestrau o lawdriniaethau mân mewn meddygfeydd, addysgu Cymdeithion Meddygol a meddygon iau, etc. Mae hyn oll yn dibynnu ar y maes y mae'r Cydymaith Meddygol yn gweithio ynddo, ei brofiad yn y maes hwnnw, ynghyd ag addysg, hyfforddiant a threfniadau llywodraethu priodol a chytundeb â'i oruchwyliwr. Mae'r rheolaeth hon dros eich datblygiad fel Cydymaith Meddygol a photensial y rôl yn gyffrous. Mae llawer o fythau a chamsyniadau ynghylch rôl y Cydymaith Meddygol, felly bydd siarad â Chydymaith Meddygol neu gysgodi Cydymaith Meddygol yn rhoi'r ddealltwriaeth orau i chi wrth benderfynu a yw'r rôl yn addas i chi.