Cyllid y GIG i Ôl-raddedigion

Mae gan bob myfyriwr sy'n astudio cwrs GIG y dewis o dderbyn cyllid gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru neu drwy Gyllid Myfyrwyr. Mewn amgylchiadau arferol, ni all myfyrwyr newid eu llwybr cyllido. Caiff achosion eithriadol eu hystyried drwy fecanwaith apelio.

I dderbyn arian gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, bydd angen i fyfyrwyr ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl cwblhau eu cwrs (mae cyfnodau amser gwahanol yn berthnasol i gyrsiau hwy neu fyrrach na thair blynedd).

Cynghorir pob myfyriwr i ddarllen Cwestiynau Cyffredin am Fwrsariaethau GIG Cymru a'r Telerau ac Amodau.

Os oes gennych chi amgylchiadau ychwanegol pellach, megis bod yn ofalwr neu'n un sydd wedi gadael gofal, efallai y bydd cymorth a chyllid ychwanegol ar gael i chi. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen we Student Plus.