Mae ein cyfweliad wedi'i sefydlu fel dau gyfweliad panel 20 munud a thasg ysgrifenedig. Un panel yw eich cyfweliad “Academaidd”, a gwneir hyn gan Academydd o'r Brifysgol a Myfyriwr Meddygaeth presennol. Canolbwyntia’r cyfweliad hwn ar eich cyflawniadau hyd yma a'r hyn sydd wedi'ch ysgogi i ddod yn feddyg. Cyfweliad “Clinigol” yw'r panel arall, a gynhelir gan feddyg wrth ei waith ac aelod lleyg o'r cyhoedd. Bydd y cyfweliad hwn yn ceisio deall eich rhesymu moesegol a darganfod y math o feddyg y byddwch yn y dyfodol. Mae'r dasg ysgrifenedig wedi'i chynllunio i'ch galluogi chi i ddangos eich barn a'ch rhesymeg sefyllfaol.
Drwy gydol y broses ddethol, edrychwn i archwilio eich sgiliau cyfathrebu, eich mewnwelediad a gonestrwydd, a'ch ymrwymiad i ddod yn feddyg tra hefyd yn asesu eich gallu i ddatrys problemau ac ymdopi â phwysau.