Arabeg

Addysgir Arabeg ar lefel ôl-raddedig ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd a Chyfieithu Proffesiynol. Gall myfyrwyr eraill astudio Arabeg i ddechreuwyr fel rhan o’r rhaglen Ieithoedd i Bawb. Hefyd mae gennym gymuned ffyniannus o Arabegwyr sy’n gweithio ar brosiectau PhD mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd dan gyfarwyddyd yr arweinydd academaidd mewn Astudiaethau Arabaidd, Dr Salwa El-Awa.

Addysgir Arabeg ar lefel ôl-raddedig ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd a Chyfieithu Proffesiynol. Gall myfyrwyr eraill astudio Arabeg i ddechreuwyr fel rhan o’r rhaglen Ieithoedd i Bawb. Hefyd mae gennym gymuned ffyniannus o Arabegwyr sy’n gweithio ar brosiectau PhD mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd dan gyfarwyddyd yr arweinydd academaidd mewn Astudiaethau Arabaidd, Dr Salwa El-Awa

rhannau o’r byd lle mae’r Arabeg yn iaith swyddogol

Mae Ffrangeg wedi cael ei addysgu yn Abertawe ers sefydlu’r Brifysgol ym 1920. Yr Athro Mary Williams, y fenyw gyntaf â chadair mewn unrhyw bwnc academaidd yn y DU, oedd pennaeth cyntaf yr adran. Erbyn hyn, mae Ffrangeg ar gael ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl (BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd) ac ar amrywiaeth o gyfuniadau cyd-anrhydedd naill ai ar lefel Safon Uwch neu lefel Dechreuwyr. Caiff Ffrangeg ei addysgu gan saith aelod parhaol o staff, y mae tri ohonynt yn siaradwyr brodorol. Y rhain yw: Dr Greg Herman; Dr Kathryn Jones; Dr Jo Langley; Dr Catherine Rodgers; Yr Athro Andy Rothwell; Dr Sophie Rouys; a Dr Alison Williams.

Mae ein BA Ieithoedd Modern yn eich galluogi i astudio Ffrangeg fel pwnc unigol neu ar y cyd ag Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg, Arabeg neu Mandarin. Mae modiwlau dewisol yn cynnwys Paris, Ffrainc a’r Ail Ryfel Byd, Sinema Gyfoes Ffrainc a Hanes yr Iaith Ffrangeg, yn ogystal â Chyfieithu ar y Pryd, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau â’r prifysgolion canlynol yn Ffrainc lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Angers, Besançon, Brest, Chambéry, Lyon III, Pau a Toulouse. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith gyda’r British Council neu ymgymryd â lleoliad gwaith. Mae BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang drwy dri llwybr, sef Diwylliant, Addysg a Chyfieithu.

Wrth astudio am y BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, byddwch yn astudio Ffrangeg naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag iaith arall. Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol fel Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur, Efelychu Swyddfa Gyfieithu a Chysyniadau mewn Cyfieithu. Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn sefydliadau a ddewiswyd o'n rhestr o bartneriaid uchel eu bri. Yn achos Ffrangeg, mae’r rhain ym Mrwsel, Genefa a Pharis.

Gall pob myfyriwr Ffrangeg ymuno â Café Causette, a gynhelir bob wythnos, ac ymuno â Chymdeithas Ffrangeg y Brifysgol.

Ar ôl eich BA, gallwch arbenigo mewn Ffrangeg ar un o’r graddau Meistr mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor, neu astudio MA drwy Ymchwil mewn Ffrangeg, sy’n arwain at MPhil neu PhD.

Mae gan Almaeneg enw da sefydledig yn Abertawe a gellir ei hastudio naill ai ar lefel ôl-Safon Uwch neu ar lefel dechreuwr fel rhan o'n dwy raglen BA anrhydedd sengl ac amrywiaeth o gyfuniadau cydanrhydedd.

Ar y BA Ieithoedd Modern, gallwch naill ai astudio Almaeneg yn unig (yr hyn a oedd yn cael ei alw'n Almaeneg anrhydedd sengl) neu mewn cyfuniad â Ffrangeg, Eidaleg, Arabeg, Mandarin neu Sbaeneg. Gallwch ddewis o blith opsiynau sy'n cynnwys Song Cultures, German Cinema since the Millennium, Power and the Personal, Berlin in the Twentieth Century, Improving your German with Poetry, ac Underground Vienna, yn ogystal â Chyfieithu ar y Pryd, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau gyda'r prifysgolion canlynol yn yr Almaen, lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Augsburg, Bamberg, Mannheim, Regensburg, a Würzburg. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith y Cyngor Prydeinig neu ymgymryd â lleoliad gwaith.

Wrth astudio am y BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, byddwch yn astudio Almaeneg naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag iaith arall.  Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol megis Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur, Efelychu Swyddfa Gyfieithu, Cysyniadau mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, yn ogystal â Rheoli Terminoleg.  Yn ystod eich blwyddyn dramor, byddwch yn ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn sefydliadau a ddewiswyd o'n rhestr o bartneriaid uchel eu bri: mae'r rhain yn cynnwys prifysgolion yn Cologne, Innsbruck, Mainz, a Zurich.

Gallwch arbenigo mewn Almaeneg ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol MA Cyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor. Ar hyn o bryd, mae gennym ddau fyfyriwr ymchwil sy'n ysgrifennu prosiectau yng Nghanolfan Ymchwil i Ddiwylliant Almaenaidd Cyfoes (CCGC).

Rhannau o’r byd lle mae iaith Germanig yn iaith swyddogol

Dosbarth 2019

Myfyrwyr BA Almaeneg gyda staff, Mai 2019

Myfyrwyr BA Almaeneg gyda staff, Mai 2019

Rhannau o’r byd lle mae’r Eidaleg yn iaith swyddogol

Mae Mandarin ar gael drwy ein rhaglen Ieithoedd i Bawb, a gellir ei hastudio ar y cyd â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg ar ein rhaglen BA Ieithoedd Modern. Mae ein BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang gyda llwybrau Diwylliant, Addysg a Chyfieithu. Caiff Mandarin ei haddysgu gan Dr Sabrina Wang yn bennaf, sy’n arbenigo mewn cyfieithu ar y pryd, a bydd cydweithiwr newydd yn ymuno â hi ym mis Medi 2019.

I siaradwyr brodorol Mandarin, sydd fel arfer yn astudio yn ein prifysgolion partner yn Tsieina, rydym hefyd yn cynnig BA Saesneg-Tsieinëeg Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.

Gall pob myfyriwr sy’n astudio Mandarin gymryd rhan yn y Café Cha Cha wythnosol lle gallant ymarfer eu sgiliau iaith gyda myfyrwyr cyfnewid o Tsieina. Gall myfyrwyr hefyd ymuno â Chymdeithas Tsieinëeg y Brifysgol.

Gall siaradwyr brodorol hefyd arbenigol mewn Mandarin ar y graddau MA Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sy’n cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor hefyd. Mae gennym gymuned o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n ffynnu, yn gweithio ar bynciau sy’n ymwneud â Mandarin ym maes Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.

Rhannau o’r byd lle mae’r Mandarin yn iaith swyddogol

Mae Sbaeneg ar gael ar ddwy raglen BA anrhydedd sengl (BA Ieithoedd Modern a BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd) ac amrywiaeth o gyfuniadau o raddau cydanrhydedd naill ai ar lefel Safon Uwch neu Ddechreuwyr. Caiff Sbaeneg ei haddysgu gan chwe aelod parhaol o staff, y mae pump ohonynt yn siaradwyr brodorol sy'n dod o Golombia, Sbaen, Uruguay a Venezuela. Y rhain yw: Dr Lloyd Davies, Dr Maria Fernandez-Parra, Dr Fede Lopez-Terra, Ms Tanya May, a Dr Rocio Perez-Tattam, a Dr Patricia Rodriguez-Martinez. Maent yn arbenigwyr mewn Astudiaethau Iberaidd a Lladin-Americanaidd.

Ar y BA Ieithoedd Modern, gallwch astudio Sbaeneg yn unig neu ar y cyd â Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg neu Fandarin. Byddwch yn dewis o blith opsiynau megis ‘The Evolution of the Spanish Language’, ‘Barcelona / Buenos Aires’, a ‘Hispanic Identities’, yn ogystal â Chyfieithu, y Gweithdy Cyfieithu ac, yn eich blwyddyn olaf, y traethawd hir. Mae gennym bartneriaethau gyda'r prifysgolion canlynol yn Sbaen lle gallwch dreulio eich blwyddyn dramor: Alcalá de Henares, Bilbao, Cáceres, Madrid a Seville. Gallwch hefyd weithio fel Cynorthwy-ydd Iaith y British Council neu ymgymryd â lleoliad gwaith. Mae BA Ieithoedd Modern yn cynnig cwricwlwm eang gyda thri llwybr, mewn Diwylliant, Addysg a Chyfieithu.

Wrth astudio am y BA Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, byddwch yn astudio Sbaeneg naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag iaith arall. Yn ogystal, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol megis Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur, a Chysyniadau mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, neu Efelychu Swyddfa Gyfieithu. Yn ystod eich Blwyddyn Dramor, byddwch yn ymarfer Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd mewn dau sefydliad o'n rhestr o bartneriaid uchel eu bri. Yn achos Sbaeneg, gallwch ddewis rhwng Barcelona, Granada, Madrid, Seville, Valencia a Valladolid.

Gall pob myfyriwr gymryd rhan yn y Café Guay wythnosol ac ymuno â Chymdeithas Sbaeneg y Brifysgol.

Gallwch arbenigo mewn Sbaeneg ar y graddau MA mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd a Chyfieithu Proffesiynol, sydd hefyd yn cynnig opsiynau interniaeth ac astudio dramor. Ar hyn o bryd, mae gennym dri o fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raddau ymchwil; ar bynciau Ysbaenaidd yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaeth Gymharol o Bortiwgal, Sbaen a Chyfandiroedd America (CEPSAM).

rhannau o’r byd lle mae’r Sbaeneg yn iaith swyddogol