Ariannu ar gyfer Gwaith Cymdeithasol i Fyfyrwyr Israddedig
Dylai myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol wneud cais am eu cyllid cyn gynted â phosib ar ôl gwneud cais am gwrs.
Gall myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru wneud cais am y canlynol:
- Grant Ffioedd Dysgu
- Benthyciad Ffioedd Dysgu
- Grant Dysgu’r Cynulliad
- Benthyciad Cynhaliaeth
- Bwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol (ni fyddwch yn gymwys am hyn os ydych yn derbyn cymhelliant ariannol i hyfforddi gan eich cyflogwr)
- Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer (PLOA)
- Mae’n bosib bod grantiau ychwanegol eraill ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
I wneud cais am y Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol a’r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer, mae’n rhaid i chi wneud cais i Gyngor Gofal Cymru.
Nifer cyfyngedig o Fwrsariaethau Gwaith Cymdeithasol sydd ar gael; felly rydym yn eich cynghori i wneud cais cyn gynted â phosib.
I wneud cais am gymorth gyda ffioedd dysgu a’r benthyciad cynhaliaeth, bydd angen i chi wneud cais drwy wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dylai Myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Lloegr a’r GIG.
Mae myfyrwyr sydd eisoes â gradd ac sydd am astudio’r cwrs Gwaith Cymdeithasol yn gymwys i wneud cais am y Benthyciad Cynhaliaeth, Grantiau Atodol, y Fwrsariaeth Gwaith Cymdeithasol a’r Lwfans Cyfle Dysgu Ymarfer. Ni fydd myfyrwyr ar eu hail radd yn gallu derbyn Grant Cynhaliaeth a bydd angen iddynt dalu’r £9000 o ffioedd dysgu eu hunain.
Os oes gennych chi amgylchiadau ychwanegol, efallai y bydd cymorth a chyllid ychwanegol ar gael gan Arian@BywydCampws.