Cyllid TAR
Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) amser llawn neu ran-amser gael cyllid i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod yr holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni.
Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg i Ôl-raddedigion (TAR) yn derbyn yr un arian â chwrs gradd israddedig. Mae hyn yn golygu, os ydych chi'n gymwys, y byddwch chi'n gallu gwneud cais am gymorth ffioedd dysgu a chostau byw.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch un o'r tudalennau gwybodaeth ganlynol:
*Nid oes hawl gan Fyfyrwyr Rhyngwladol dderbyn ariannu myfyrwyr statudol ond gallent fod yn gymwys i gyflwyno cais am ariannu gan y Brifysgol. Cynghorir myfyrwyr rhyngwladol i gysylltu â Swyddfa Datblygu Rhyngwladol y Brifysgol sy’n gweinyddu ysgoloriaethau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol: ido@abertawe.ac.uk ac i edrych ar dudalennau gwe y Brifysgol i weld yr ystod lawn o ysgoloriaethau sydd ar gael.
Gall Myfyrwyr yr UE a Rhyngwladol wneud cais i astudio TAR ond ni all y Brifysgol warantu y bydd y cymhwyster TAR yn eich galluogi i ddysgu yn eich gwlad gartref. Chi sy’n gyfrifol am wirio’r rheoliadau ar gyfer eich awdurdod addysg cartref.
Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth 2025/26
Bydd gan bob myfyriwr TAR Uwchradd sy'n astudio TAR Bioleg, Cemeg, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Gwybodaeth, Mathemateg, Ieithoedd Tramor Modern (ITM), Ffiseg a Chymraeg, gyda dosbarthiad gradd blaenorol o 2.2 neu uwch, hawl i dderbyn cymhelliant o £15,000. Bydd y cymelldaliadau gwerth cyfanswm o £15,000 yn cael eu gwneud mewn tri rhandaliad. Byddant yn cael eu talu ar yr adegau canlynol yn ystod rhaglen AGA a dechrau gyrfa myfyriwr:
- £6,000 ym mis Ionawr ar ôl cwblhau tymor cyntaf ei gwrs TAR (taliad yn ystod y rhaglen)
- £6,000 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau ei gwrs TAR yn llwyddiannus ac ar ôl dyfarnu SAC iddo. Os caiff myfyriwr ei asesu gan y bwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr (taliad SAC)
- £3,000 ar ôl cwblhau'r cyfnod sefydlu yng Nghymru yn llwyddiannus (y cymelldaliad olaf)
Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma
Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC). Mae cyfanswm o £5000 ar gael i ddarpar athrawon cymwys, a delir mewn dwy ran. Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma.
Mae Cynllun Cymhelliant Llywodraeth Cymru, Iaith Athrawon Yfory 2025-26, ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cyfanswm o £5000 ar gael i ddarpar athrawon cymwys, a delir mewn dwy ran. Am ragor o wybodaeth, gweler nodiadau arweiniol 2025/26 yma
Sylwer mai dim ond llwybr TAR Gynradd ac Uwchradd amser llawn y mae Prifysgol Abertawe yn ei gynnig. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalennau'r cwrs TAR.