Blwyddyn 1 (24/25)
Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw yng Nghymru, ac ym mlwyddyn gyntaf y cwrs Meddygaeth i Raddedigion, bydd rhaid i chi ariannu cyfran o’r ffioedd (£3,465) eich hun. Mae Benthyciad Ffioedd Dysgu ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru am y £5,535 sy’n weddill.
Rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sydd wedi’i asesu ar incwm llawn.
NI FYDDWCH yn gymwys i dderbyn unrhyw Grantiau Cynhaliaeth neu unrhyw ariannu drwy Fwrsariaethau’r GIG.
Mae’n bosib y byddwch yn gymwys am Grantiau Atodol megis Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol, a Grant Gofal Plant a bydd angen i chi wneud cais am y rhain gyda’ch benthyciad myfyriwr. Eto, dylech gyflwyno cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Bydd angen felly i chi dalu £3465 yn y flwyddyn 1af felly ystyriwch yn ofalus sut y byddwch yn ariannu hyn.
Mae’n bosib y bydd trefniadau ariannu ar gyfer y myfyrwyr hynny a enillodd eu gradd flaenorol y tu allan i’r DU yn wahanol. Cysylltwch â’r Swyddfa Cyngor a Chymorth Ariannol am ragor o wybodaeth.
Blynyddoedd 2, 3 a 4
Telir £3,465 o’r £9,250 o’r ffioedd dysgu drwy Gynllun Bwrsariaeth y GIG. Bydd myfyrwyr eto’n gymwys i wneud cais am fenthyciad ffioedd dysgu i ariannu’r £5,785 sy’n weddill mewn ffioedd dysgu nad ydyw wedi’i dalu gan Fwrsariaeth y GIG.
Mae myfyrwyr hefyd yn gallu cael Benthyciad Cynhaliaeth nad yw’n cael ei asesu ar sail incwm gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae Ariannu GIG hefyd ar gael ar ffurf bwrsariaeth GIG yn seiliedig ar brawf moddion (wedi’i seilio ar incwm eich cartref) a grant GIG nad ydyw’n seiliedig ar brawf moddion gwerth £1,000.
Os ydych yn gymwys am grantiau atodol (Lwfans Dysgi i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol neu Grant Gofal Plant) bydd y rhain ar gael drwy’r GIG ac nid trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru (fel yr oeddent Flwyddyn Gyntaf).
Am wybodaeth gyfredol a chael gwybod beth yw’r symiau y mae gennych hawl i’w cael, yn ychwanegol at y broses ymgeisio ar-lein byddem yn argymell eich bod yn ymweld â gwefan Bwrsarïau Myfyrwyr y GIG.