Rydw i'n wladolyn yr Undeb Ewropeaidd

Myfyriwr o'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir sy'n dechrau eu hastudiaethau yn 2021/22 sydd â Hawliau Dinesydd

Rhaid bod gan fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau cyrsiau cyn neu ar ôl 1 Awst 2021 statws sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU yn unol â Chynllun Anheddu'r UE i gael cyllid myfyriwr. Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n ddinasyddion Iwerddon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am Gynllun Anheddu'r UE yw 30 Mehefin 2021, ond rhaid bod myfyrwyr wedi dechrau byw yn y Deyrnas Unedig erbyn 31 Rhagfyr 2020. Mae'n bwysig bod myfyrwyr yn ymwybodol o'r gofyniad hwn cyn cyflwyno cais am gyllid myfyrwyr, fel arall ni fyddant yn gymwys am gyllid. Dylai myfyrwyr ddarllen y canllaw gwybodaeth ynghylch Cynllun Anheddu'r UE ar wefan GOV.uk am ragor o wybodaeth am sut i gyflwyno cais, a dylent ddarllen tudalen Rhyngwladol@BywydCampws am ragor o wybodaeth: Myfyrwyr o'r UE/AEE/Y Swistir - Prifysgol Abertawe.

O ran y rhai nad oes Hawliau Dinesydd ganddynt, mae'r opsiynau cyllido canlynol yn berthnasol:

  • Ystyrir dy fod yn fyfyriwr rhyngwladol a bydd yn rhaid i ti dalu ffioedd dysgu ar y gyfradd ryngwladol.
  • Ewch i'r dudalen we Ysgoloriaethau Rhyngwladol am ragor o wybodaeth.

I'r rhai sydd â Hawliau Dinesydd, mae'r opsiynau canlynol yn berthnasol*:

*Sylwer bod yr wybodaeth a ddarperir isod yn cael ei chyflwyno fel canllaw, a chynghorir myfyrwyr i gysylltu â darparwr eu cyllid er mwyn cadarnhau a ydynt yn gymwys am gyllid myfyrwyr ac a oes hawl ganddynt i gael hynny.

 

Cyllid Gradd GIG

Rhaid bod gan fyfyrwyr o'r UE sy'n dechrau cyrsiau cyn neu ar ôl 1 Awst 2021 statws sefydlog neu gyn-sefydlog yn y DU dan Gynllun Anheddu'r UE i gael cyllid dan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Gweler ein tudalennau gwe ynghylch Cyllid y GIG am rangor o wybodaeth am ariannu dy gwrs GIG.

Myfyrwyr o'r UE sy'n parhau

Os wyt ti'n fyfyriwr o'r UE sy'n parhau ar raglen radd a ddechreuodd cyn 1 Awst 2021, gweler ein tudalen MyUni am ragor o wybodaeth.