Cyllid TAR
Gall myfyrwyr sy'n astudio Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig mewn Addysg (TAR) yn llawn amser neu'n rhan-amser gael arian i helpu gyda chostau'r cwrs, ar yr amod bod holl feini prawf cymhwysedd Cyllid Myfyrwyr yn cael eu bodloni.
Mae cyrsiau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig (TAR) yn derbyn yr un arian â chwrs gradd israddedig. Mae hyn yn golygu, os ydych yn gymwys, byddwch yn gallu cyflwyno cais am gymorth gyda ffioedd dysgu a chostau byw.
Am ragor o wybodaeth, dewiswch un o'r tudalennau gwybodaeth canlynol:
Gall myfyrwyr o’r UE a myfyrwyr rhyngwladol gyflwyno cais i astudio’r cynllun TAR ond ni all y Brifysgol warantu y bydd y cymhwyster TAR yn eich galluogi i astudio yn eich gwlad gartref. Chi sy’n gyfrifol am wirio’r rheoliadau ar gyfer eich awdurdod addysg cartref.
Gallai graddedigion sy'n dymuno astudio TAR mewn meysydd pwnc penodol fod yn gymwys am gymhellion hyfforddiant athrawon. Mae cymhellion hyfforddiant athrawon yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac mae'n werth £20,000 (gan ddibynnu ar y maes pwnc a dosbarthiad gradd/meistr).
Y pynciau blaenoriaeth yw:
Ffiseg
Cemeg
Mathemateg
Cymraeg
Cyfrifiadureg
Ieithoedd Tramor Modern
Mae ragor o wybodaeth am gymhellion hyfforddiant athrawon ar gael yma
Sylwer bod Prifysgol Abertawe’n cynnig llwybr TAR amser llawn yn unig. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau’r cwrs TAR