Wyt ti’n cyflwyno Cais i Astudio Gradd Israddedig ym Mhrifysgol Abertawe?

Rydym yma i helpu.

Mae cyflwyno cais i brifysgol yn brofiad cyffrous, ond bydd gen ti gwestiynau ar hyd y ffordd.

Efallai dy fod yn:

  • Paratoi i gyflwyno cais am dy gwrs israddedig,
  • Eisoes wedi cyflwyno cais ac yn aros am dy gynnig, neu
  • Eisoes wedi derbyn dy gynnig

Rydym yma i dy helpu ar bob cam.

Rydym wedi llunio canllawiau defnyddiol isod, a fydd yn dy helpu ar bob cam o'r broses cyflwyno cais. Ond, os oes gen ti gwestiwn y mae angen ateb arnat, cofia e-bostio ein Tîm Derbyn Myfyrwyr unrhyw bryd.

Yn barod i gyflwyno cais?

Dyma Ein Canllaw Llawn ar Gyfer Cwblhau dy Gais

Students looking at an iPad in the Computational Foundry seating area