Amserlen gwneud cais ar gyfer 2025

3 Medi

 

Gellir anfon ceisiadau at UCAS.

19 Hydref
& 9 Tachwedd

 

Diwrnodau Agored Prifysgol Abertawe

15 Hydref (6yh)

 

Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yn UCAS ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion

29 Ionawr (6yh)

 

Dyddiad cau yn UCAS ar gyfer derbyn ceisiadau am yr holl gyrsiau er mwyn iddynt dderbyn ystyriaeth gyfartal.  

Fel arfer bydd Abertawe'n derbyn ceisiadau hwyr drwy weddill y flwyddyn geisiadau, fodd bynnag bydd rhai cyrsiau eisoes yn llawn erbyn yr adeg honno ac ni ellir gwarantu y rhoddir yr un lefel o ystyriaeth iddynt â cheisiadau a dderbynnir erbyn 25 Ionawr. Edrychwch ar Chwiliwr Cyrsiau UCAS am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa gyrsiau sy'n dal i dderbyn ceisiadau.

Tachwedd - Mawrth

 

Cynhelir Cyfweliadau.

Mae'n bosib y gwneir cynnig i chi ac yna cewch eich gwahodd i fynychu Diwrnod Agored, neu mae'n bosib y cewch eich gwahodd i gyfweliad cyn y gwneir penderfyniad ar eich cais.

26 Chwefror

 

Os ydych yn gymwys i ddefnyddio 'Extra', gallwch eich cyfeirio eich hun at ddewis arall.

Gwanwyn 2025

 

Diwrnodau Agored Prifysgol Abertawe

Yn gynnar ym mis Mai - 30 Mehefin

 

Os ydych wedi derbyn ein cynnig, bydd Gwasanaethau Preswyl yn e-bostio manylion atoch ynghylch sut i wneud cais am lety.

Os gwnewch gais cyn 30 Mehefin, gwarentir lle i chi yn llety'r Brifysgol.

30 Mehefin

 

Y dyddiad olaf y gallwch gyflwyno cais i UCAS. Caiff ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn eu hystyried dan y broses Glirio.

4 Gorffennaf

 

Hwn yw'r dyddiad olaf i wneud cais drwy 'Extra'.

5 Gorffennaf

 

Clirio yn agor: dysgwch ragor ar ein tudalennau Clirio penodol.

Canol mis Awst

 

Caiff eich canlyniadau arholiadau eu cyhoeddi - Pob lwc!