Fel arfer, rydyn ni’n derbyn dros 1,000 o geisiadau yr wythnos yn ystod y cyfnodau prysuraf, ond rydyn ni’n gwneud ein gorau glas i roi gwybod i chi am ein penderfyniad cyn gynted ag y bo modd.
Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi. Yna mae’r Tîm Derbyniadau yn cynnal gwiriadau ar bob cais ac yn tynnu sylw at wybodaeth bwysig i’r Dewiswyr Derbyniadau (megis prif gymwysterau, graddau rhagfynegol neu wybodaeth berthnasol o’r datganiad personol).
Os oes unrhyw wybodaeth ar goll yn eich cais - megis cyfeiriad academaidd, neu os nad yw’n glir pa gymwysterau sydd gennych - byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost i ofyn am wybodaeth ychwanegol a fydd yn ein helpu i wneud y penderfyniad mwyaf addas.
Unwaith y bydd yr holl wiriadau wedi’u cwblhau, mae’r cais yn cael ei basio ymlaen at ein Dewiswyr Derbyniadau, a fydd yn ystyried eich cais.