Cael eich Canlyniadau a Chadarnhau eich Lle
'Cadarnhad' yw'r enw ar y cyfnod o amgylch diwrnod y canlyniadau ym mis Awst bob blwyddyn, pan fydd y Brifysgol yn cael canlyniadau'r rhai sy'n sefyll Safon Uwch neu gymwysterau eraill, sydd wedi derbyn cynigion amodol. Mae rhestr o'r canlyniadau arholiadau rydym yn eu derbyn yn uniongyrchol gan UCAS ar gael ar wefan UCAS – gwiriwch y rhestr, ac os NAD yw'r cymhwyster rydych chi'n ei astudio ar y rhestr, bydd angen i chi anfon y canlyniadau atom yn uniongyrchol drwy e-bost neu yn y post.
Bydd angen i chi wneud hyn cyn gynted ag y gwyddoch eich canlyniadau er mwyn cadarnhau eich lle yn gyflym, ac er mwyn atal unrhyw oedi wrth ddyrannu eich llety, manylion cofrestru etc.