Darganfyddwch i ble y bydd eich gradd yn mynd â chi ...

Gall Prifysgol Abertawe gynnig cyfle unigryw i chi astudio neu weithio dramor gyda nifer o opsiynau, gan ddibynnu ar eich cynllun gradd. Dewiswch eich maes pwnc isod i gael gwybodaeth ac arweiniad penodol. Mae’r opsiynau’n amrywio bob blwyddyn ac efallai y bydd ffactorau allanol, megis cyfyngiadau teithio a nifer y lleoedd sydd ar gael yn y prifysgolion partner, yn cyfyngu ar y rhain.

  • Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnig semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad dramor am semester/blwyddyn.
  • Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael a chânt eu dyrannu drwy broses ddethol gystadleuol. Os nad ydych yn sicrhau lleoliad am semester/blwyddyn dramor, cewch eich trosglwyddo i fersiwn safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor (nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr Ieithoedd Modern a Chyfieithu).
  • Bydd angen i chi fodloni trothwy academaidd penodol er mwyn cymryd rhan mewn rhaglen semester neu flwyddyn dramor.
  • Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth ariannol fel rhan o'r broses ymgeisio am fisa/hawlen astudio yn ystod y flwyddyn academaidd cyn eich cyfnod dramor. Bydd swm y dystiolaeth ariannol bydd angen i chi ei darparu yn amrywio gan ddibynnu ar y wlad a'r sefydliad lle byddwch yn treulio eich semester/blwyddyn dramor.
  • Bydd costau cysylltiedig y semester/blwyddyn dramor (megis teithio, fisâu, taliadau’r brifysgol letyol a chostau byw dramor yn y wlad dan sylw) yn amrywio.
  • Mae’n bosib y bydd cyllid ar gael.

Myfyrwyr ail flwyddyn eisoes ar raglen sy'n cynnig blwyddyn dramor? Cynhelir y Sgwrs Opsiynau ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 2 ddydd Llun 4 Tachwedd 4-5pm ar Zoom. Byddwch yn cael gwahoddiad gyda'r ddolen Zoom yn fuan!

Myfyriwr ail flwyddyn â diddordeb mewn blwyddyn dramor ond ddim ar y rhaglen radd blwyddyn dramor? Ymunwch â'n rhestr aros i gofrestru eich diddordeb. Sylwer nad yw hyn yn gwarantu lle i astudio dramor.

Student sat on bridge in front of building

Llawlyfr Blwyddyn Dramor 25-26

Student sat on bridge