BETH MAE MYFYRWYR ERAILL YN MEDDWL AM FYND YN FYD-EANG?

.

Peidiwch â derbyn ein gair ni'n unig... gwrandewch ar yr hyn yr oedd eich cyd-fyfyrwyr yn ei feddwl am eu profiadau dramor. Os ydych chi wedi bod dramor eich hun a hoffech chi rannu eich stori, e-bostiwch studyabroad@abertawe.ac.uk gyda'ch astudiaeth achos a'ch lluniau.

Helena - Dalhousie

Treuliodd Helena flwyddyn dramor yn astudio ym Mhrifysgol Dalhousie fel rhan o'i gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid.

Roedd fy mhrofiad yn bopeth yr oedd yn gobeithio amdano, a mwy. Cwrddais â llawer o bobl newydd ac roeddwn i'n cael mynd ar lawer o deithiau gwahanol yn agos at Dalhousie ac ymhellach i ffwrdd, megis Rhaeadrau Niagra. Gwnaeth fy helpu i fagu hyder, gwnaeth wella fy sgiliau cyfathrebu a gwnaeth fy ngalluogi i addasu mwy oherwydd imi gael profiad o arddull addysgu wahanol. Ni allwn argymell astudio dramor yn fwy, a hoffwn i ei wneud eto petai modd imi! 

Piers - Colorado State

Treuliodd Piers flwyddyn yn astudio dramor ym Mhrifysgol Talaith Colorado (CSU) fel rhan o'i radd mewn Astudiaethau Americanaidd

Ni allwn i fod wedi gofyn am brofiad gwell. Ces i groeso mawr iawn gan bob person y gwnes i gwrdd ag ef, nid yn unig yn ystod yr wythnos sefydlu gynhwysol ac amrywiol, ond yn y gymuned ehangach hefyd. O giniawau teuluol gyda thrigolion lleol i benwythnosau ar Gampws y Mynyddoedd CSU, ni allai Colorado fod wedi rhoi mwy o groeso imi.
Bydda i bob amser yn ddiolchgar am y cymorth a dderbyniais i gan dîm Ewch yn Fyd-eang Abertawe a Swyddfa Rhaglenni Rhyngwladol CSU, am wneud y pontio o Gymru i Golorado mor ddi-dor. Mae'r rhaglen gyfnewid yn gyfle bendigedig i bawb, ac ni allaf ei hargymell ddigon.

Romany - Finland

Treuliodd Romany dri mis yn y Ffindir gan gwblhau lleoliad gwaith clinigol fel rhan o'i gradd Nyrsio.

Rydw i'n credu bod teithio'r byd yn brofiad trawsnewidiol sy'n galluogi pobl i brofi trawsnewid personol a phroffesiynol.Gwnes i elwa o'r semester dramor mewn llawer o ffyrdd.Rydw i wedi rhagori'n academaidd, ac mae fy hyder wedi cynyddu. Mae fy sgiliau cyfathrebu wedi gwella'n fawr, a dyma un o'r sgiliau pwysicaf y mae'n rhaid i nyrs feddu arnynt.
Ces i leoliad gwaith am gyfnod o 10 wythnos ac roeddwn i'n gallu nyrsio cleifion yn unol â chanllawiau a gweithdrefnau'r Ffindir.At hynny, ces i'r fraint o fod yn rhan o ddeinameg tîm anhygoel yn ystod dadebriad cardiopwlmonari. Roeddwn i'n gallu sylwi ar effeithlonrwydd gwaith tîm a'r agwedd ddigynnwrf a fabwysiadwyd yn ystod y sefyllfa. Hefyd, ces i gymorth yn Saesneg wrth wneud cywasgiadau am y tro cyntaf erioed yn fy ngyrfa fel nyrs. Roedd hyn yn brofiad anhygoel ac rydw i'n ddiolchgar i allu mynd â'r profiad hwn gyda fi i'm gyrfa sydd i ddod.

James - Barcelona

Treuliodd James semester dramor yn Universitat Pompeu Fabra, Sbaen a semester yn Johannes-Gutenberg Universität, yr Almaen, fel rhan o'i radd mewn Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd.

Roedd astudio Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn Abertawe yn golygu bod gen i gyfle i dreulio fy mlwyddyn dramor mewn dwy brifysgol o fri sy'n arbenigo ym maes ieithyddiaeth a chyfieithu. O fis Medi tan ddechrau mis Ebrill, roeddwn i'n mynd i'r Universitat Pompeu Fabra yn Barcelona, Sbaen ac o fis Ebrill tan fis Gorffennaf, astudiais yn y Johannes-Gutenberg Universität yn Germersheim, yr Almaen. Rydw i'n ddiolchgar dros ben am yr holl brofiadau, yr atgofion a'r bobl yr ydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod fy nhaith, ac rydw i wir yn credu fy mod i'n dychwelyd i Abertawe â rhinweddau a sgiliau a fydd yn  rhoi mantais i mi uwchlaw pobl eraill yn academaidd ac yn broffesiynol - gan fy ngalluogi i barhau ar y llwybr o'm dewis yn fy mywyd.

Dominica Khoo

Dominica Khoo oedd un o gyfranogwyr cyntaf rhaglen gyfnewid Abertawe.

Gwnaeth fy semester yn Nhecsas fy ngwneud yn fwy cyfforddus yn addasu i amgylcheddau 'tramor'. Does dim ots ble dwi'n mynd, rwy'n teimlo'n gartrefol ar unwaith, gan fy mod yn teithio'n helaeth ar gyfer fy ngwaith.  Mae wedi datblygu fy hyblygrwydd personol, fy ngallu i ddod i gyfaddawd, canolbwyntio a llwyddo drwy amserau heriol.Gwnaeth y profiad fy ngalluogi i aeddfedu a datblygu fy sgiliau cymdeithasol, ac wynebu heriau y tu hwnt i'm rhwydwaith cymorth arferol a'm parth cysur.

Ni fyddwn y person yr ydw i heddiw heb arweiniad a chefnogaeth fy athrawon yn Abertawe a oedd bob amser yn hynod gefnogol ac yn llawn anogaeth o'm gyrfa academaidd.  Maen nhw wedi fy ysbrydoli gymaint ac rwy'n gobeithio eu bod nhw'n falch ohonof i.

Hermione - Work Placement

Treuliodd Hermione dri mis ym Mecsico a thri mis yn Awstralia gan gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'i gradd BSc mewn Bioleg y Môr.

Yn ystod fy mlwyddyn dramor, rydw i wedi bod i ddau gyfandir gwahanol ar ddau leoliad gwaith diwydiannol gwahanol. Roedd fy lleoliad gwaith cyntaf yn Veracruz, ar Arfordir y Gwlff ym Mecsico mewn pentref pell. Roedd y lleoliad gwaith ei hun yn seiliedig ar gadwraeth crwbanod môr mewn perygl. Hefyd, gwnes i gymryd rhan mewn gwaith addysg amgylcheddol mewn pentrefi a threfi cyfagos, gan roi cyflwyniadau i blant o bob oedran ynghylch pwysigrwydd cadwraeth amgylcheddol. Treuliais fy ail leoliad gwaith yn gweithio gyda Phrifysgol Gorllewin Awstralia yn Perth, Awstralia. Roedd y lleoliad gwaith yn seiliedig ar ymchwil mewn cyfleuster dŵr môr. Cynhaliais arbrawf o'r dechrau hyd y diwedd, gan brofi amodau amgylcheddol gwahanol ar gwrelau, a sylwi ar yr adwaith. Ceisiais gymryd cynifer o gyfleoedd teithio â phosibl, gan gynnwys treulio amser ar Ynys Rottnest, oddi ar arfordir Perth.

Rydw i'n hynod ddiolchgar am y profiadau a'r cyfleoedd y mae'r tîm Ewch yn Fyd-eang wedi'u hagor imi, rhai na fyddai modd imi eu cael heb y cymorth - yn economaidd ac yn foesol - gan y swyddfa.

Bethan - France

Treuliodd Bethan flwyddyn yn astudio dramor yn Ysgol Fusnes Rennes fel rhan o'i gradd mewn Rheoli Busnes

Fy rhesymau dros ddewis treulio blwyddyn yn astudio dramor yn Ffrainc oedd, yn gyntaf, y gobaith o gael y cyfle i ehangu fy ngorwelion ac ehangu'r olwg gul iawn ar y byd a oedd gen i gynt. Gwnaeth astudio yn Ffrainc roi'r cyfle imi brofi diwylliant gwahanol iawn i'm diwylliant i, heb fod yn rhy bell o gartref.Mae'n amhosibl imi ddewis un hoff foment benodol yn ystod fy mlwyddyn dramor, gan fod cynifer o adegau yr un mor fythgofiadwy. O fwyta mewn bwytai go-iawn gyda ffrindiau o bedwar ban byd, i ymweld â thair gwlad wahanol mewn wythnos gyda phobl a oedd yn gwbl ddieithr  imi wythnosau ynghynt, ar y cyfan mae'n brofiad nad ydw i am ei anghofio, ac yn brofiad na fydda i'n ei anghofio mewn gwirionedd, rwy'n siŵr.

Mae'n brofiad sydd wedi hybu fy hyder yn ddigon imi ystyried pob cyfle sy'n dod i'r amlwg, boed gartref yng Nghymru neu ar ochr arall y byd. Ers gorffen fy mlwyddyn dramor, rydw i wedi treulio 6 wythnos yn byw ac yn gweithio fel Au Pair ym Madrid ac rydw i wedi bod yn ymchwilio i'r posibilrwydd o astudio gradd Meistr yn yr Almaen ar ôl graddio. Dydw i ddim yn barod i’m profiad o astudio dramor  fod ar ben, o bell ffordd.

Otteh Edubio

Otteh Edubio oedd un o'r cyfranogwyr cyntaf yn rhaglen cyfnewid myfyrwyr dwyochrog Prifysgol Abertawe â phrifysgolion arweiniol yn Nhecsas.Yn ystod ail flwyddyn ei radd mewn Peirianneg Feddygol, treuliodd Otteh semester yn astudio ym Mhrifysgol A&M Tecsas.

Gwnaeth fy amser yn A&M Tecsas roi hyder imi yn fy ngradd ac ynof fi fy hun. Roedd gen i dipyn o stigma yn sgîl peidio â mynd i brifysgol fel Caergrawnt ac roeddwn i'n meddwl na fyddai modd imi gystadlu, ond oherwydd mynd i A&M roeddwn i'n sylweddoli bod yr hyn yr oeddwn i wedi'i ddysgu yn Abertawe yn golygu y gallwn i gystadlu.

Niraj - Texas

Treuliodd Niraj semester dramor ym Mhrifysgol A&M  Tecsas, un o'r prifysgolion sy'n bartner strategol i Brifysgol Abertawe, fel rhan o'i radd mewn Peirianneg.

Ar gyfer fy nghynllun cyfnewid, ces i'r cyfle i gael semester dramor ym Mhrifysgol A&M Tecsas. Er bod fy nghyfnod dramor yn fyr, roedd yn brysur a ches i brofiadau newydd. Es i i'm gêm Pêl-droed Americanaidd gyntaf a ches i'm syfrdanu gan yr ymroddiad i'r gamp, hyd yn oed ar lefel y coleg. Dyma un o uchafbwyntiau fy nghyfnod dramor. Hefyd, roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld â lleoedd cyfagos; roedd y rhain yn cynnwys yr Alamo yn San Antonio; y Ganolfan Ofod yn Houston a Dallas.

Drwy'r cynllun cyfnewid, roeddwn i'n gobeithio meithrin dealltwriaeth well o'r ffordd y mae peirianneg yn cael ei haddysgu a'i harddangos yn UDA o'i chymharu â'r arferion cyffredin yn Ewrop yr ydw i'n gyfarwydd â nhw. Llwyddais i wneud hyn yn fy marn i, er mai addasu at arddull addysgu wahanol oedd yr her fwyaf. Ar y cyfan, mwynheais fy mhrofiad ac rydw i mor falch fy mod i wedi mynd. 

Wura - Zambia

Treuliodd Wura, myfyrwraig Seicoleg, ei blwyddyn dramor yn gwirfoddoli yn Zambia

Cymerais ran ym Mhartneriaeth Siavonga Darganfod Abertawe. Penderfynais gymryd rhan yn y rhaglen hon gan fod gen i gariad at helpu menywod a phlant bregus, ac roeddwn i eisiau rhaglen haf lle gallwn i ddatblygu fy nghariad ymhellach. Fy hoff agwedd o'r daith hon oedd yr ymweliadau i grwpiau menywod lleol yn eu pentrefi. Mwynheais i hyn yn llwyr gan fod modd imi ddysgu cymaint am fywydau beunyddiol y menywod a oedd yn byw yn Siavonga a'r cyffiniau, yn ogystal â dysgu am y gwaith anhygoel y mae cynifer ohonynt yn ei wneud i gefnogi eu cymunedau lleol. Gwnaeth y menywod hyn fy ysbrydoli cymaint, ac mae'r fraint o gwrdd a siarad â nhw yn rhywbeth na fydda i byth yn ei anghofio. Gwnes i feithrin cynifer o sgiliau a chwrdd â chynifer o ffrindiau, a ches i gymaint o foddhad ganddo, ac rydw i'n argymell y rhaglen haf hon yn fawr iawn i fyfyrwyr eraill.

Treuliodd Oliver ei haf yn gwirfoddoli yn Ffiji drwy'r rhaglen wirfoddoli Think Pacific

Roedd cymaint mwy i'r rhaglen yn Ffiji nag oeddwn i'n ei ddisgwyl. Wrth gyrraedd, gwnaethom ymuno â phentref a gwirfoddoli yn yr ysgol leol. Roedd yn rhaid inni nodi'r plant yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt, a'u helpu gyda'u dysgu. Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill megis ffeiriau yn y pentref, dosbarthiadau meddygol yn y pentref a gweithgareddau eraill i grwpiau yn y pentref. Bob dydd Sadwrn, byddem ni'n mynd ar deithiau wedi'u trefnu i'r traeth neu'r rhaeadrau. Mae'r daith wedi fy ngwneud yn berson gwell, wedi gwella fy sgiliau cymdeithasol, y ffordd rydw i'n meddwl am ddysgu, a'r ffordd rydw i'n meddwl am fywyd yn gyffredinol.

Treuliodd Scott flwyddyn dramor ym Mhrifysgol Houston fel rhan o'i radd mewn Sŵoleg

Roeddwn i'n hoffi natur hyblyg y radd ac roedd modd imi gymryd amrywiaeth eang o ddosbarthiadau. Mae gan ddinas Houston lawer i'w gynnig a'r uchafbwyntiau oedd mynd i gêm pêl-fasged yr Houston Rockets yng Nghanolfan Toyota a gwylio'r Houston Astros yn chwarae pêl-fas. Adeg y Nadolig, teithiais i a chyd-fyfyriwr o Abertawe i Efrog Newydd ac ar ddydd Nadolig gwnaethom logi beiciau a darganfod Central Park. Hefyd, aethom i South Padre ar gyfer egwyl y gwanwyn: roeddwn i wedi gweld ffilimiau am yr hyn y mae egwyl y gwanwyn yn ei olygu, ac nid oedd ynys South Padre yn siom!

Treuliodd Poornima ei haf yng Ngholeg Meddygaeth Baylor fel rhan o'i gradd yn y Gwyddorau Meddygol

Roedd y rhaglen yn apelio ataf am fy mod i'n ystyried gyrfa mewn meddygaeth ac ymchwil, yn benodol lawfeddygaeth a thechnegau llawfeddygol. Mae'r profiad wedi fy newid fel person: yn sgîl y profiad, rydw i'n gallu siarad yn naturiol, arwain, ac rydw i'n barod am fy mlynyddoedd nesaf yn astudio. Dwi wedi cael cyfle i adeiladu rhwydweithiau cryf gyda phobl yn Nhecsas a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol.

Roedd yn brofiad bythgofiadwy sydd wedi fy helpu i dyfu fel person.

Treuliodd Kate flwyddyn dramor ym Mhrifysgol Tecsas yn Austin fel rhan o'i gradd mewn Seicoleg

Roeddwn i wrth fy modd yn ninas Austin. Roedd cymaint i'w wneud ac roedd ymdeimlad hapus anhygoel sef 'Cadw Austin yn Rhyfedd'. Roeddwn i'n dwlu ar natur unigryw Austin, a sut roedd yn gymysgedd o ardaloedd dinesig a rhai gwyrdd a heddychlon, gyda'r llyn hardd a'r parc ar bwys canol y dref.

Y peth gorau am fy mhrofiad o astudio dramor oedd y teimlad o annibyniaeth lwyr. Roedd rhywbeth brawychus am fod mewn lle newydd, filltiroedd o'ch parth cysur, ond ar yr un pryd roedd hi mor werth chweil pan lwyddais i.