Astudiaethau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe
Croeso i Astudiaethau Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe!
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig astudiaeth ôl-raddedig arobryn mewn lleoliad arfordirol godidog. O raddau meistr i astudiaeth PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc.
Rydym yn parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil sy'n gwneud gwahaniaethau gwirioneddol, cadarnhaol i fywydau pobl ar draws y byd. Mae ein holl gyrsiau ôl-raddedig yn cael eu llywio gan y datblygiadau diweddaraf mewn ymchwil ac arloesi. Darganfyddwch sut mae ymchwil Abertawe yn newid bywydau ar draws y byd heddiw.