Ewch i’r dudalen hon i weld unrhyw newidiadau i’r rhaglen ôl-raddedig.

O dderbyniadau 1af o Fai 2018, bydd yr holl raglenni llwybr ôl-raddedig a ddarparwyd yn flaenorol gan Goleg Rhyngwladol Cymru Abertawe (ICWS) yn cael eu darparu gan Y Coleg, Prifysgol Abertawe (enw masnachu Swan Global Education LLP, cydweithrediad ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas).

2023 - Newidiadau i Raglenni

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

MA Y Clasuron - nid yw bellach ar gael.

MA Polisi Cyhoeddus (Estynedig) - nid yw bellach ar gael. 

MFin Rheoli Ariannol Rhyngwladol - nid yw bellach ar gael. Sylwer nad yw hyn yn effeithio ar y fersiwn MSc o'r cwrs sydd yn parhau i fod ar gael.

MSc Rheoli (Technoleg Meddalwedd) - nid oes mynediad ar gael ar ôl Ionawr 2023.

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg 

MSc Cyfathrebiadau Peirianneg - nid yw bellach ar gael.

MSc Gwyddor Data - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr yn 2024.

MSc Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg - nid yw bellach ar gael.

MSc Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol - nid yw ar gael am flwyddyn ac nid oes modd gwneud cais ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

MSc Seiberddiogelwch - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr yn 2024.

MSc Technoleg a Chymwysiadau Lled-ddargludyddion - nid yw bellach ar gael ar gyfer ceisiadau.

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

PG Cert Gofal Newyddenedigol Lefel Uwch - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

MSc Gwybodeg Iechyd, Dysgu o Bell yn St John's Research Institute, Bangalore India - nid yw'r cwrs ar gael bellach.

MSc Rheoli Cyflyrau Hirdymor a Chronig - teitl yn newid i MSc Gofal Lliniarol a Diwedd Oes o fis Medi 2023.

MSc/PG Dip Ymarfer Gofal Iechyd - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

MSc/PG Dip Ymarfer Nyrsio - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

 

2022 - Newidiadau i Raglenni

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

LLM TechGyfreithiol - newid teitl y cwrs i LLM TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol ar gyfer Medi 2023 ymlaen.

PGDip/PGCert Astudiaethau'r Oesoedd Canol - nid yw ar gael bellach i wneud cais ac mae ar gyfer trosglwyddiadau mewnol yn unig. Nid yw hyn yn effeithio ar MA Astudiaethau'r Oesoedd Canol.

MSc Cyfrifeg Strategol - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Ionawr 2023.

MA Heriau Byd-eang: Cyfraith, Polisi ac Ymarfer - nid yw bellach ar gael ar gyfer mynediad.

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

MSc Rheoli Gofal Iechyd - oherwydd y galw mawr, mae pwynt mynediad Medi 2022 ar gyfer y rhaglen hon bellach wedi'i gau i geisiadau rhyngwladol newydd. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 6 Mai 2022 yn cael eu hystyried ar gyfer y pwynt mynediad nesaf sydd ar gael.

MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd - oherwydd y galw mawr, mae pwynt mynediad Medi 2022 ar gyfer y rhaglen hon bellach wedi'i gau i geisiadau rhyngwladol newydd. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 6 Mai 2022 yn cael eu hystyried ar gyfer y pwynt mynediad nesaf sydd ar gael.

MSc/PG Cert/PG Dip Arweinyddiaeth ar gyfer y Proffesiynau Iechyd -nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2022/23.

MSc/PGDip/PGCert Iechyd Cyhoeddus Plant - nid yw ar gael ar gyfer mynediad.

MSc Rheoli Cyflyrau Hir Dymor a Chronig - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2022/23.

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg 

MSc Cyfrifiadureg - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr 2023. 

MSc Cyfrifiadureg Uwch gyda Blwyddyn mewn Diwydiant - nid yw ar gael ar gyfer mynediad. 

MSc Gwyddor Data - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr 2023.

MSc Peirianneg Awyrofod - mae'r cwrs Mynediad Ionawr yn newid ei deitl i MSc Peirianneg (Awyrofod) yn syth. Nid yw hyn yn effeithio ar deitl y cwrs mynediad ym mis Medi.

MSc Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2022.

MSc Seiberddiogelwch - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr 2023.

MSc Synhwyro o Bell Drôn Amgylcheddol - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2022 ond fe fydd ar gael yn 2023. 

2021 - Newidiadau i Raglenni

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Mphil Addysg barhaus Oedolion – Wedi tynnu rhag mynediad ar unwaith. 

MA/ PG Dip/ PG Cert Diwylliant yr Aifft hynafol – Wedi tynnu rhag mynediad ar unwaith. 

MA mewn Cyfieithu Ewrop gyda thechnoleg iaith - Wedi tynnu rhag mynediad ar unwaith. 

 

Coleg Gwyddoniaeth

MSc Gwyddor Actiwaraidd - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2021/22.

MSc Cymdeithas, Amgylchedd a Newid Byd-Eang - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2021/22.

 

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

MSc Gerontoleg ac Astudiaethau Heneiddio - wedi tynnu rhag mynediad ar unwaith. 

MSc / PG Dip/ PG Cert Ymarfer Diabetes - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Ionawr (sylwer ei fod ar gael ar gyfer mynediad ym mis Medi).

MSc/PGDip/PGCert Arweinyddiaeth ar gyfer y Proffesiynau Iechyd - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2021/22.

 

Ysgol Y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

Diploma i Raddedigion Y Gyfraith - nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2022/23

Medi 2020 - Newidiadau i Raglenni

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

MA Hanes Modern Cynnar - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2020.

Coleg Gwyddoniaeth

MSc Perfformiad Uchel a Chyfrifiadura Gwyddonol - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2020.

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

Mae teitl y cwrs MSc Seicoleg Glinigol ac Abnormal wedi newid i MSc Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl - mae hyn yn gymwys ar gyfer myfyrwyr a fydd yn dechrau'r cwrs yn 2020.

Ysgol Feddygaeth

MSc Meddygaeth Glinigol - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2020.

Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton

MA Y Gyfraith Feddygol a Moeseg - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2020.

Y Coleg Peirianneg

Mae MSc Modelu Cyfrifiadurol ac Elfennau Meidraidd mewn Mecaneg Beirianyddol yn newid teitl i MSc Peirianneg Gyfrifiadurol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2020.

Mae MSc Modelu Cyfrifiadurol ac Elfennau Meidraidd mewn Mecaneg Beirianyddol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn newid teitl i MSc Peirianneg Gyfrifiadurol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant ar gyfer mynediad ym mis Medi 2020.

Mae PG Dip Modelu Cyfrifiadurol ac Elfennau Meidraidd mewn Mecaneg Beirianyddol yn newid teitl i PG Dip Peirianneg Gyfrifiadurol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2020.

Yr Ysgol Reolaeth

Mae MSc Rheoli (Entrepreneurship) yn newid teitl i MSc Rheolaeth (Mentergarwch ac Arloesi) o fis Medi 2020.

MSc Rheoli (e-fusnes) - Nid yw ar gael ar gyfer 2020/21.

Mae MSc Rheoli (e-busnes) yn newid teitl i MSc Rheolaeth (busnes digidol) o fis Hydref 2021. 

Mae MSc Cyllid yn newid teitl i MSc Cyllid Rhyngwladol o fis Hydref 2021.

Mae MSc Cyfrifeg a chyllid yn newid ei teitl i MSc Cyfrifeg a chyllid rhyngwladol o fis Hydref 2021.

Mae MSc Rheoli Ariannol yn newid ei teitl i MSc Rheoli ariannol Rhyngwladol o fis Hydref 2021.

MSc Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol  - Ar gael ar gyfer mynediad yn 2021.

MSc Rheoli (Twristiaeth) - Nid yw ar gael ar gyfer 2020/21.

Mae MSc Rheoli (Prosiect Busnes) wedi newid ei enw i MSc Rheoli ar gyfer mynediad yn Ionawr 2021.

Medi 2019 - Newidiadau i raglenni

Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau

MA Rhywedd a Diwylliant - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MA Rhywedd a Diwylliant (Estynedig) - Gohiriwyd ar gyfer mynediad yn 2019

Coleg Peirianneg

MRes Peirianneg Ddeunyddiau - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd

PGCert Gofal Newyddenedigol Uwch - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MA Y Gyfraith a Moeseg Meddygol - Gohiriwyd ar gyfer 2019

MSc/PG Cert/PG Dip Arfer Arbenigol Trallwysiad Gwaed Uwch - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MSc Astudiaethau Heneiddio a Gerontoleg Rhyngwladol - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

Ysgol Feddygaeth

MSc/PGDip/PGCert Awtistiaeth a Chyflyrrau Perthynol - Gohiriwyd ar gyfer 2019

MSc Arfer Gwyddoniaeth Dadansoddol (LCMS) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MSc Meddygaeth Clinigol - Gohiriwyd ar gyfer 2019

PhD Cemeg Feddygol - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MSc Llawdriniaeth Trawma - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

MSc/PG Dip Llawdriniaeth Trawma (Milwrol) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019

Yr Ysgol Reolaeth

MSc Cyllid - ni fydd y cwrs yn cael ei achredu gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Diogelwch a Buddsoddi (CISI) o fis Medi 2019.

MSc Rheolaeth (Safonau Rhyngwladol) - Nid yw ar gael ar gyfer mynediad yn 2019