Gan astudio yn Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg, byddi di'n archwilio cymhlethdodau'r byd naturiol anhygoel lle rydym ni'n byw, ond hefyd sut mae popeth yn ein byd ffisegol a chymdeithasol yn fregus ac yn rhyngweithio, a sut mae effaith pobl, newidiadau cymdeithasol a newidiadau amgylcheddol yn gallu effeithio arno.
Drwy ein graddau israddedig ac ôl-raddedig sydd wedi'u dyfarnu mewn safleoedd uchel, rydym am i'n graddedigion ddod yn unigolion llawn ysbrydoliaeth a dilyn gyrfaoedd gwerthfawr neu gyfleoedd ymchwil drwy gael dealltwriaeth ddyfnach o ehangder ein cosmos a'n bydysawd cwantwm, neu drwy lywio sut i fynd i'r afael â'r heriau byd-eang sydd yn ein hwynebu yn ein byd newidiol ar lefel amgylcheddol, gymdeithasegol a gwleidyddol.