- Disgrifiad
Wrth i faich clefydau sy'n ymwneud ag anweithgarwch corfforol roi straen cynyddol ar y GIG a darparwyr gofal iechyd eraill, mae'r galw am raddedigion â sgiliau mewn gwyddor ymarfer corff a ffisioleg glinigol yn cynyddu.
Bydd yr MSc mewn Ffisioleg Ymarfer Corff Glinigol ym Mhrifysgol Abertawe’n galluogi myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth hollbwysig sy'n deillio o ymchwil, ynghyd â'r amrywiaeth eang o sgiliau cymhwysol ac ymarferol y bydd eu hangen arnynt i weithio gyda chleifion i optimeiddio iechyd, gweithrediadau corfforol ac ansawdd bywyd drwy weithgarwch corfforol ac ymarfer corff. Yn benodol, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gynllunio, cynnal a dehongli amrywiaeth o asesiadau iechyd a ffitrwydd sy'n benodol i glefydau, yn ogystal â chynllunio a darparu ymyriadau gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac yn cefnogi cleifion i hyrwyddo newid ystyrlon yn eu hymddygiad, er mwyn optimeiddio'r broses o atal a thrin amrywiaeth o gyflyrau iechyd cymhleth a'u rheoli yn y tymor hir.
Yna bydd myfyrwyr yn debygol o gael yr opsiwn i gwblhau modiwl lleoliadau clinigol neu ymgymryd â thraethawd hir ymchwil, gan ddibynnu ar eu dyheadau gyrfaol yn y dyfodol.
Yn y pen draw, bydd y cwrs MSc hwn yn meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i gael gyrfa lwyddiannus yn gweithio fel Ffisiolegydd Ymarfer Corff Clinigol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd a/neu ymchwil.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Bydd gan yr MSc bwyslais ymarferol trwm a bydd yn datblygu cymwyseddau ymarferol myfyrwyr mewn amrywiaeth eang o fesuriadau ffisiolegol a ffenoteipaidd sy'n ymwneud â gwyddor ymarfer corff glinigol a gweithgarwch corfforol.
Bydd myfyrwyr yn ymdrin ag amrywiaeth o gyflyrau cronig, gan gynnwys clefydau cardiofasgwlaidd, cyflyrau metabolaidd megis diabetes math 1 a math 2, cyflyrau cyhyrysgerbydol (e.e. arthritis, sarcopenia), cyflyrau niwrolegol (e.e. strôc, sglerosis ymledol) a chanser.
Ym mhob achos, bydd myfyrwyr yn dysgu am y canlynol:
- Pathoffisioleg y clefyd
- Asesu statws iechyd a'r gallu i weithredu, yn ogystal â sgrinio a phennu lefel risg.
- Ymatebion ffisiolegol i weithgarwch corfforol ac ymarfer corff cronig ac acíwt a sut gallai'r clefyd newid y rhain.
- Cynllunio a darparu ymyriadau priodol ar sail gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff
- Sut i hyrwyddo newid ymddygiad effeithiol
Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau meddwl yn feirniadol drwy ystyried materion cyfoes a themâu ymchwil sy'n ymwneud â gwyddor/ffisioleg ymarfer corff glinigol.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2025
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.