Rydyn ni'n falch o gynnig profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, sydd wedi cael eu teilwra'n ofalus i gydweddu ag anghenion penodol eich cwrs. Ar wahân i nifer fach o gyrsiau ar-lein yn unig, mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau yn cynnwys addysgu wyneb yn wyneb ar y campws, gan eich galluogi chi i ymgysylltu'n llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Cynhelir sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau gwaith labordy a gweithdai gan amlaf ar ffurf wyneb yn wyneb, gan alluogi myfyrwyr i weithio mewn grwpiau a gwylio arddangosiadau. Rydyn ni hefyd yn gweithredu labordai rhithwir ac amgylcheddau dysgu efelychol a fydd yn cynyddu mynediad at gyfleoedd hyfforddiant yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddysgu ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Gall dysgu ar-lein fod yn ‘fyw’ drwy ddefnyddio meddalwedd megis Zoom, sy’n eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'r myfyrwyr eraill ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau o ddarlithoedd hefyd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ail-ymweld â deunyddiau, adolygu ar gyfer aseiniadau a gwella dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn Canvas, megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n cynnig rhagor o hyblygrwydd wrth astudio.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys elfennau academaidd ac ymarferol a byddwch chi'n cwblhau o leiaf 200 awr o ddysgu ymarferol ar draws y ddwy flynedd. Mae hanner y rhaglen wedi'i neilltuo ar gyfer ymarfer dan oruchwyliaeth mewn asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol, lle bydd cyfle gennych i: ddysgu drwy arsylwi, ymarfer a chyflawni tasgau. Cynhelir y lleoliadau gwaith cymdeithasol yn awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
Asesir myfyrwyr trwy draethodau ysgrifenedig, cyflwyniadau llafar, ymarferion TG, sylwebaethau myfyriol a gwaith portffolio ar draws dwy flynedd o astudio.
Asesir lleoliadau ymarfer drwy gyfuniad o waith ysgrifenedig, arsylwi ar ymarfer ac asesiadau personol, gan ddefnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol.
Disgwylir i chi gwblhau traethawd estynedig ar sail ymchwil a chyflwyniad poster yn eich ail flwyddyn astudio (oddeutu 15,000 o eiriau) gyda chymorth gan oruchwyliwr penodedig.