Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Nyrsio mewn Ysgolion), PGDip / MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
PGDip Nyrsio Ysgol

Trosolwg o'r Cwrs

Nod ein Diploma Ôl-raddedig yw datblygu ymarferwyr Nyrsio Ysgolion mewn Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN SN) sy'n fedrus wrth weithio'n annibynnol mewn ystod o leoliadau cymunedol iechyd cyhoeddus.  Mae gan nyrsys ysgolion rôl benodol fel cyfranwyr allweddol at ddatblygiad y blynyddoedd cynnar, gan dargedu anghenion iechyd ac emosiynol plant a phobl ifanc oed ysgol.  Maen nhw'n allweddol wrth gynnig gwasanaeth iechyd cyhoeddus cyfannol, unigol a chymunedol ac ar lefel y boblogaeth sy'n cynnig cyfraniad sylweddol at wella iechyd drwy atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yr ymarferwyr yn grymuso plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn eu cymunedau a gweithio gydag asiantaethau/timau eraill i ddatblygu gallu unigol a chymunedol, cefnogi datblygiad iechyd cymunedol a hybu iechyd a lles y boblogaeth.

Mae'r cwrs hwn ar gael ar sail amser llawn neu ran-amser, a rhaid bod yr holl ymgeiswyr yn nyrsys a/neu'n fydwragedd cymwysedig eisoes gyda lefelau amrywiol o brofiad. Crëwyd y rhaglen i fodloni gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n paratoi ymgeiswyr i gefnogi datblygiadau iechyd cymunedol a hybu iechyd a lles y boblogaeth. Rydym yn cynnig cydbwysedd o theori ac ymarfer ac yn rhoi ystod o strategaethau dysgu ac addysgu i ymgeiswyr. Mae'r ymagwedd hon yn addysgu egwyddorion damcaniaethol i fyfyrwyr mewn amgylchedd Prifysgol ac yna eu cymhwyso nhw mewn amgylchedd proffesiynol, gan gynnig cysylltiad pwysig rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

Wrth astudio am PGDip, efallai y bydd hi'n bosib uwchraddio i gymhwyser ymadael MSc yn ystod eich astudiaethau, ond sylwer na fydd hwn wedi'i achredu gan yr NMC. 

Pam astudio ym Mhrifysgol Abertawe?

Cyflwynir y cwrs drwy ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly byddwch yn elwa o'n harbenigedd addysgu ac ymchwil trawsddisgyblaethol helaeth.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, mae 75% o'r ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 3* ac felly mae cyrhaeddiad a phwysigrwydd yr ymchwil yn sylweddol. Mae ein ffocws ar allbynnau ymchwil wedi arwain at gynnydd o 21% mewn ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang (REF 2021). Mae’r arbenigedd a’r rhagoriaeth ymchwil hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar ein hymarfer dysgu ac addysgu a chynnwys eich cwrs.

Eich profiad Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol

Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn cael eich cefnogi gyda 50% o theori a addysgir yn y Brifysgol a 50% ar leoliadau gwaith ymarferol. Bydd yr elfennau theori yn cael eu haddysgu ar Gampws Parc Singleton, mewn parcdir hardd yn edrych dros Fae Abertawe. Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd pwnc gan gynnwys iechyd y cyhoedd, hybu iechyd, defnyddio tystiolaeth ac ymchwil, diogelu ac arweinyddiaeth a rheoli.

Mae Campws Parc Singleton yn gartref i'n Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol achrededig o'r radd flaenaf SUSIM. Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cymryd rhan mewn addysg efelychu, a fydd yn cynnwys gwaith grŵp ac ôl-drafodaeth i drafod y dysgu a enillwyd a'i gydnabod o safbwyntiau gwahanol.  Mae efelychu effeithiol yn ysgogi diogelwch drwy wella gwybodaeth, ymddygiad a sgiliau yn y cwricwlwm. Mae efelychu'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau annhechnegol megis cyfathrebu, gwneud penderfyniadau, gwaith tîm, barn glinigol ac arweinyddiaeth, sy'n ddiogel ac wedi'u rheoli fel bod myfyrwyr yn gallu gwneud camgymeriadau, eu cywiro mewn amser go iawn a dysgu ohonynt, heb fod ofn peri risg i ddiogelwch cleifion.

Gyrfaoedd Nyrsio Ysgol

Ar ôl cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig yn llwyddiannus, byddwch yn cael cymhwyster Nyrsio Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (Nyrs Ysgol).   Bydd opsiwn i symud ymlaen i ran 2 y rhaglen er mwyn cwblhau modiwl y traethawd hir a graddio gydag MSc mewn ymarfer SCPHN. Bydd angen cyllid ychwanegol er mwyn cwblhau’r modiwl traethawd hir 60 credyd terfynol i ennill gradd Meistr lawn.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.