Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyriwr yn edrych i mewn i ficrosgop

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein cwrs MSc mewn Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau yn sicrhau bod gennych yr arbenigedd sydd ei angen er mwyn meistroli’r broses gymhleth o ddarganfod a datblygu cyffuriau, o ddarganfyddiad cyntaf moleciwlau actif i drosi ymchwil yn driniaethau effeithiol.

Trwy gyfuniad o wybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol, byddwch chi'n dysgu sut i reoli prosiectau datblygu cyffuriau, gwneud penderfyniadau allweddol, a chymhwyso gwyddoniaeth drosiadol i ddod â therapïau arloesol o'r labordy i’r claf.

Mae'r rhaglen ôl-raddedig hon yn berffaith ar gyfer graddedigion sydd â chefndir mewn fferylliaeth, ffarmacoleg, cemeg neu'r biowyddorau, sy'n awyddus i wella eu sgiliau arweinyddiaeth ar gyfer y diwydiant fferyllol, neu ar gyfer y rhai hynny sy'n angerddol am ymchwil i ddatblygiad cyffuriau.

Pam Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau yn Abertawe?

  • Ystyriwyd bod 100% o'n hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol o ran ei heffaith (REF2021)
  • Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig fynediad at gyfleusterau yn adeilad y Sefydliad Gwyddor Bywyd, y buddsoddwyd £100 miliwn ynddo
  • Mae'r Sefydliad Gwyddor Bywyd yn canolbwyntio ar ymchwil glinigol o bwys cymdeithasol, drwy gyfrwng cysylltiadau â’r GIG a phartneriaid diwydiannol
  • Cymorth o ansawdd uchel ar gyfer prosiectau ymchwil myfyrwyr MSc

Eich Profiad Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi'n archwilio pynciau allweddol er mwyn adeiladau eich sgiliau a'ch profiad, gan gynnwys darganfod cyffuriau a dyluniad silico, cemeg feddyginiaethol, cyflenwi cyffuriau, nanofeddygaeth a gwyddor reoleiddiol.

Byddwch chi'n cael eich addysgu gan arbenigwyr clinigol sydd â phrofiad yn y byd go iawn o ddatblygu cyffuriau, a byddwch chi'n elwa o'r berthynas waith agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG, Cyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a Diwydiant, gan hyrwyddo addysgu ac ymchwil cydweithredol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Darganfod, Datblygu a Throsi Cyffuriau

Mae'r diwydiant fferyllol yn dirwedd sy'n tyfu ac yn datblygu'n barhaus, ac mae galw mawr am arbenigedd mewn datblygu cyffuriau a rolau arweinyddiaeth. Bydd ein cwrs yn sicrhau bod gennych chi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r arbenigedd i reoli prosiectau, gwneud penderfyniadau hanfodol a defnyddio technegau ymchwil uwch, i weithio'n hyderus mewn rolau arweinyddiaeth yn y diwydiant fferyllol ac mewn ymchwil academaidd.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.