Gwybodeg Iechyd, MSc / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Health Informatics Students

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n dymuno cynyddu eich gwybodaeth a'ch sgiliau arbenigol mewn iechyd digidol? Ein MSc mewn Gwybodeg Iechyd yw'r radd ôl-raddedig berffaith i sicrhau eich bod chi ar flaen y gad yn un o'r meysydd gofal iechyd sy'n tyfu gyflymaf yn fyd-eang. 

Gan ddefnyddio technolegau o'r radd flaenaf a chan roi pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol a dadansoddol, byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth uwch o ddamcaniaeth, egwyddorion ac ymarfer gwybodeg iechyd, gan gynnwys llywodraethiant gwybodaeth, diogelwch data, ystyriaethau moesegol, a strategaethau e-Iechyd byd-eang. 

Fel rhan o Ganolfannau Rhagoriaeth ar gyfer Data Gweinyddol ac Ymchwil e-Iechyd y Brifysgol y buddsoddwyd £30 miliwn ynddynt, byddwch chi'n elwa o gysylltiadau cryf â'r GIG a sefydliadau’r sector Gwyddor Bywyd, gan ddysgu am ddatblygiadau a natur newidiol technoleg yn y sector drwy brofiad go iawn. 

Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych arbenigedd mewn safonau gwybodeg iechyd, rheoli prosiectau ac arloesi, gan arwain at gyflogadwyedd gwell a rolau arweinyddiaeth yn y GIG, gyda darparwyr gofal iechyd ac mewn sectorau cysylltiedig.

Pam astudio Gwybodeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae'r rhaglen hon wedi'i chyflwyno yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, felly byddwch yn astudio mewn adran a chanddi enw da am ymchwil ac addysgu o safon fyd-eang. Byddwch yn elwa o'r canlynol:

  • Ymchwil o ansawdd uchel, yn y 5ed safle yn y DU fel rhan o'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021)
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr adeilad Gwyddor Data y buddsoddwyd £30miliwn ynddo, canolfan o safon fyd-eang mewn e-Iechyd ac ymchwil, hyfforddiant a datblygiad data gweinyddol.
  • Cysylltiadau cryf a chydweithrediad â’r GIG, Llywodraeth Cymru a'r sector Gwyddor Bywyd 

Eich profiad Gwybodeg Iechyd

Mae ein cyfuniad o gyfleusterau o'r radd flaenaf ac ymchwil o safon fyd-eang yn sicrhau bod eich astudiaethau'n gyson ar flaen y gad o ran technolegau sy'n dod i'r amlwg a gwelliannau iechyd digidol. Mae ein Canolfannau Rhagoriaeth ar gyfer Data Gweinyddol ac Ymchwil e-Iechyd y buddsoddwyd £30 miliwn ynddynt yn gweithio gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr ledled y DU ac yn fyd-eang i gynhyrchu tystiolaeth sy'n llywio'r gofal a gyflwynir a gwelliant iechyd a lles ar draws y boblogaeth. 

Byddwch yn elwa o'n prif gydweithredwyr yn yr Ysgol Feddygaeth, Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru, a nifer o gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol, a bydd gennych y sgiliau dadansoddol, technegol a'r sgiliau cyfathrebu i werthuso systemau iechyd gwybodeg, codio clinigol, rheoli data, a thechnolegau sy'n cefnogi penderfyniadau mewn lleoliadau gofal iechyd yn feirniadol.

Cyfleoedd cyflogaeth gyda Gwybodeg Iechyd

Pan fyddwch wedi cwblhau'r rhaglen, byddwch yn gallu arddangos dealltwriaeth glir o broffesiwn gwybodeg iechyd a'i rôl wrth wella gofal cleifion, rhoi ymagwedd gyfannol a rhyngwladol ar waith i fynd i'r afael â heriau byd-eang ym maes gofal iechyd, gyda sgiliau cyfathrebu, datrys problemau a chydweithredu cryf a fydd yn ysgogi gwelliannau wrth gyflwyno gofal iechyd. 

Gall graddedigion ddatblygu gyrfaoedd mewn amrywiaeth o ddiwydiannau a sectorau gan gynnwys:

  • Ymddiriedolaethau’r GIG (y cyflogwr mwyaf o ran gwybodeg iechyd yn y DU)
  • Cwmnïau iechyd digidol (technoleg iechyd sydd wedi'i hysgogi gan Ddeallusrwydd Artiffisial, gwerthwyr meddalwedd)
  • Awdurdodau lleol a chyrff iechyd cyhoeddus
  • Prifysgolion a sefydliadau ymchwil
  • Darparwyr gofal iechyd preifat

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.