Nid gyrfa academaidd yw'r unig ddewis ar ôl gwneud PhD, o bell ffordd. Byddwch wedi datblygu sgiliau ymchwil arbenigol a dwys a fydd o fantais mewn ystod o swyddi ymchwil a swyddi eraill.
Ymchwil
Mae galw mawr am ymchwilwyr ym maes diwydiant ac yn y Gwasanaeth Sifil. Mae swyddi ymchwil y tu allan i'r byd academaidd fel arfer yn cynnwys rhyw agweddau ar reoli prosiect, gan roi cyfle i chi ddatblygu'ch sgiliau rheoli.
Bydd sefydliadau ymchwil masnachol yn mynnu eich bod yn canolbwyntio ar eu blaenoriaethau busnes. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa yn y byd academaidd, lle cewch fwy o ryddid, fel arfer, i ddatblygu'ch diddordebau ymchwil eich hunain.
Swyddi nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil
Gwerthfawrogir graddedigion doethurol y tu allan i feysydd addysg ac ymchwil, gan fod cyflogwyr yn cydnabod y sgiliau a'r wybodaeth ehangach sydd ganddynt. Mae gan wefan 'Prospects' sawl enghraifft o ddiwydiannau lle byddai'r sgiliau a ddysgwch yn ystod eich PhD o fantais, gan gynnwys, ymhlith eraill:
- Y Gwasanaeth Sifil
- Ymgynghori
- Eiddo Deallusol
- Gweinyddiaeth Prifysgol
- Y trydydd sector
Mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau 'caled' megis gwybodaeth, gallu, ieithoedd tramor, a sgiliau TG. Ond maent hefyd yn gwerthfawrogi sgiliau trosglwyddadwy cryf - gan gynnwys gwaith tîm, ymwybyddiaeth fasnachol, sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac mewn ysgrifen, a'r gallu i ddatrys problemau. Rhaid i'ch cv fod yn bendant iawn wrth ddangos sut mae'r sgiliau a enillir trwy wneud eich gradd ymchwil yn drosglwyddadwy ac ar lefel uchel, er enghraifft:
- Mae'ch thesis yn dangos arbenigedd a phrofiad o ran dehongli a thrin data ac ysgrifennu adroddiadau
- Mae'ch aelodaeth o'r grŵp ymchwil perthnasol yn dangos gwaith tîm a chreadigrwydd
- Mae cynnal arbrofion a rhoi methodoleg ar waith ar gyfer eich prosiect ymchwil yn profi eich bod wedi datblygu sgiliau rheoli prosiect, a'ch bod yn hyfedr wrth ddatrys problemau.