Pa ddewisiadau sydd gennych ar ôl gradd ymchwil?

Yn nhermau ystadegol, mae graddedigion PhD yn fwy tebyg o gael swydd na graddedigion gyda gradd gyntaf yn unig. Felly, beth maent yn ei wneud ar ôl iddynt raddio?

Tybir bod graddedigion doethurol yn gyflogadwy iawn mewn ystod eang o swyddi. Cafodd astudiaeth ddiweddar o raddedigion doethurol yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf fod 50% yn cael eu cyflogi ym maes addysg, ond bod y 50% arall yn rhoi eu sgiliau arbenigol, a'u sgiliau generig lefel uchel, ar waith mewn ystod eang o swyddi amrywiol.  Y meysydd mwyaf arwyddocaol oedd:

  • Gweithgynhyrchu
  • Cyllid
  • Busnes a TG
  • Iechyd
  • Gweinyddiaeth gyhoeddus 

Mae dau lwybr cyffredinol y mae graddedigion ymchwil yn eu dilyn