Programme Information
Award Level (Nomenclature) |
MA by Research in Modern Languages |
Programme Title |
Modern Languages |
Director of Postgraduate Research |
Dr Jun Yang |
Awarding Body |
Swansea University |
College/School |
Culture and Communication |
Subject Area |
Modern Languages, Translation and Interpreting |
Frequency of Intake |
October, January, April, July |
Location |
Singleton Campus
|
Mode of Study |
Full/Part time
|
Duration/Candidature |
1/2 years |
FHEQ Level |
7 |
External Reference Points |
QAA Qualification Descriptors for FHEQ Level 7 |
Regulations |
Master of Philosophy |
Professional, Statutory or Regulatory Body Accreditation |
N/A |
Exit Awards |
N/A |
Language of Study |
English |
Bydd y cwrs MA drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern yn Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi'i lywio gan eich diddordebau chi. Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all arwain at yrfa yn y byd academaidd yn y dyfodol neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd fel addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat. Byddwch yn cyflwyno traethawd ymchwil 40,000 o eiriau i'w asesu, a fydd yn dangos ymchwil wreiddiol a chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Caiff y radd Meistr ei harholi drwy arholiad llafar ar y traethawd ymchwil (arholiad viva voce, neu viva). Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil ar gyfer gwaith lefel uchel, a cheir rhaglenni hyfforddiant a sgiliau ar y campws am ragor o gymorth.
Nodau'r Rhaglen
Bydd y rhaglen Meistr hon yn rhoi i fyfyrwyr:
- Y cyfle i gynnal ymchwil ôl-raddedig o safon mewn amgylchedd ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.
- Y sgiliau allweddol y mae eu hangen er mwyn cynnal ymchwil academaidd ac anacademaidd gan gynnwys dadansoddi data ansoddol a meintiol.
- Meddwl yn feirniadol uwch, chwilfrydedd deallusol a barn annibynnol.
Strwythur y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn cynnwys tair elfen allweddol:
- Mynediad a chadarnhau ymgeisyddiaeth
- Prif gorff yr ymchwil
- Traethawd ymchwil ac arholiad llafar
Mae'r rhaglen yn cynnwys ymgymryd â phrosiect ymchwil gwreiddiol am flwyddyn ar sail amser llawn (2 flynedd ar sail ran-amser).
Asesu
Caiff myfyrwyr y radd Meistr drwy Ymchwil mewn Ieithoedd Modern eu harholi mewn dwy ran.
Mae'r rhan gyntaf yn draethawd ymchwil sy'n gorff gwreiddiol o waith yn cynrychioli dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil. Y terfyn geiriau yw 40,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
Mae'r ail ran yn arholiad llafar (viva voce).
Goruchwyliaeth a Chymorth
Caiff myfyrwyr eu goruchwylio gan dîm goruchwylio. Pan fo'n briodol, bydd staff o Adrannau/Ysgolion ar wahân i'r brif Adran/Ysgol (Adrannau/Ysgolion eraill) yn y Brifysgol yn cyfrannu at feysydd ymchwil cytras. Hefyd, gallai fod goruchwylwyr o bartner diwydiannol.
Fel arfer, y prif oruchwyliwr (neu'r goruchwyliwr 'cyntaf') fydd y prif gyswllt drwy gydol taith y myfyriwr a'r unigolyn hwn fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am oruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd y Goruchwyliwr Eilaidd yn amrywio ym mhob achos. Rôl bennaf y Goruchwyliwr Eilaidd, yn aml, fydd bod yn ail gyswllt pan na fydd eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf ar gael. Gall y tîm goruchwylio gynnwys goruchwyliwr o ddiwydiant neu faes ymarfer proffesiynol penodol i gefnogi'r ymchwil hefyd. Gellir defnyddio goruchwylwyr allanol o brifysgolion eraill hefyd.
Bydd y prif oruchwyliwr yn darparu cymorth bugeiliol. Os oes angen, bydd y prif oruchwyliwr yn cyfeirio'r myfyriwr at ffynonellau cymorth eraill (e.e. Lles, Anableddau, Arian, Cyngor, TG, Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Yrfaoedd).
Deilliannau Dysgu'r Rhaglen
Wrth gwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, dylai ymchwilwyr ôl-raddedig allu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Myfyrio'n feirniadol ar y sylfaen wybodaeth bresennol, problemau presennol a/neu ddealltwriaeth newydd, ym maes Ieithoedd Modern.
- Dangos gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
- Cymhwyso sgiliau ymchwil, methodolegau a damcaniaeth bynciol i ymarfer ymchwil.
- Creu, dehongli a dadansoddi gwybodaeth yn y maes astudio penodol drwy ymchwil wreiddiol.
Agweddau a gwerthoedd
- Ymgymryd â thasgau ymchwil a dod i farn ddeallus heb lawer o arweiniad.
- Cymhwyso egwyddorion moesegol cadarn i ymchwil, â sylw dyledus at uniondeb unigolion ac yn unol â chodau ymddygiad proffesiynol.
- Dangos hunanymwybyddiaeth o amrywiaeth unigol a diwylliannol, a'r effaith ddwyochrog wrth i chi ryngweithio'n gymdeithasol â phobl eraill wrth gynnal ymchwil sy'n cynnwys pobl.
Sgiliau ymchwil
- Dangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
- Ymdrin â phroblemau cymhleth yn systematig ac yn greadigol ac yn datrys y problemau hynny, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a chyfleu casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Gwerthuso a chymhwyso technegau perthnasol ar gyfer ymchwil mewn Ieithoedd Modern.
- Cymhwyso methodolegau ymchwil a datblygu dehongliadau ohonynt, a phan fo'n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.
- Gweithio mewn grwpiau, cyflwyno casgliadau a myfyrio ar wahaniaethau barn.
- Defnyddio sgiliau ymchwil annibynnol.
- Dod o hyd i wybodaeth a'i chymhwyso i ymarfer ymchwil.
- Dylunio prosiect ymchwil a'i roi ar waith.
Sgiliau a Chymwyseddau
- Dangos y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy y mae eu hangen ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys ymarfer cyfrifoldeb a menter bersonol mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- Bod yn flaengar ac arfer cyfrifoldeb personol.
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygu proffesiynol parhaus.
Monitro Cynnydd
Caiff cynnydd ei fonitro yn unol â rheoliadau Prifysgol Abertawe. Drwy gydol y rhaglen, disgwylir i'r ymchwilydd gwrdd yn rheolaidd â'i oruchwyliwr, ac yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd hyn, mae'n debygol y caiff cynnydd y myfyriwr ei fonitro'n anffurfiol a chaiff presenoldeb ei fonitro hefyd. Yn ddelfrydol, dylid cofnodi manylion y cyfarfodydd ar y system ar-lein. Mae'n ofynnol cynnal o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio bob blwyddyn, a chyflwynir adroddiadau am ddau ohonynt i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Ôl-raddedig. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, trafodir cynnydd y myfyriwr a chofnodir hynny'n ffurfiol ar y system ar-lein.
Dysgu a Datblygu
Mae'r Brifysgol yn cynnig hyfforddiant a datblygiad ar gyfer ymchwilwyr ôl-raddedig a goruchwylwyr.
Mae strwythur Fframwaith Hyfforddiant Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe mewn tair rhan, er mwyn galluogi myfyrwyr i lywio a phennu cyrsiau priodol sy'n cyd-fynd â'u diddordeb a'u cam ymgeisyddiaeth.
Ceir fframwaith hyfforddi sy'n cynnwys, er enghraifft, feysydd Rheoli Gwybodaeth a Data, Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Arweinyddiaeth a gweithio gydag eraill, Moeseg ac Uniondeb Diogelwch, Effaith a Masnacheiddio ac Addysgu ac Arddangos. Hefyd, ceir ystod o gymorth mewn meysydd fel anghenion hyfforddi, chwilio llenyddiaeth, cynnal ymchwil, ysgrifennu am ymchwil, addysgu, ceisiadau am grantiau a dyfarniadau, cyfleu ymchwil a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Darperir ystod o seminarau ymchwil a sesiynau datblygu sgiliau yn yr Ysgol ac ar draws y Brifysgol. Trefnir y rhain er mwyn cadw'r myfyriwr mewn cysylltiad ag ystod ehangach o ddeunydd na'i bwnc ymchwil ei hun, er mwyn ysgogi syniadau wrth drafod ag eraill, ac er mwyn rhoi cyfleoedd iddo megis amddiffyn ei draethawd ymchwil ar lafar a nodi beirniadaeth bosibl. At hynny, mae'r Ysgol yn datblygu diwylliant ymchwil a fydd yn cyd-fynd â gweledigaeth y Brifysgol ac yn cysylltu â mentrau allweddol a gyflawnir dan nawdd Academïau'r Brifysgol.
Amgylchedd Ymchwil
Mae Amgylchedd Ymchwil Prifysgol Abertawe yn cyfuno arloesedd a chyfleusterau rhagorol er mwyn bod yn gartref i ymchwil amlddisgyblaethol allu ffynnu. Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cwmpasu pob agwedd ar gylch bywyd ymchwil, gyda grantiau mewnol a chymorth ar gyfer cyllid allanol, ac yn galluogi effaith ymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae Prifysgol Abertawe'n falch iawn o'n henw da am ymchwil rhagorol, ac am ansawdd, ymroddiad, proffesiynoliaeth, cydweithio a gwaith ymgysylltu ein cymuned ymchwil. Deallwn fod rhaid i uniondeb fod yn nodwedd hanfodol o bob agwedd ar ymchwil ac, fel Prifysgol yr ymddiriedir ynddi i ymgymryd ag ymchwil, mae'n rhaid i ni ddangos yn glir ac yn gyson bod ein cymuned ymchwil yn haeddu'r ffydd a roddir ynddi. Felly, mae'r Brifysgol yn sicrhau y caiff pawb sy'n rhan o waith ymchwil eu hyfforddi i'r safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil a'u bod yn ymddwyn ac yn cynnal eu hymchwil mewn modd sy'n parchu urddas, hawliau a lles cyfranogwyr ac yn lleiafu'r risgiau i gyfranogwyr, ymchwilwyr, trydydd partïon a'r Brifysgol ei hun.
Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
Mae'r Ysgol yn cynnig amgylchedd ymchwil bywiog trwy gynadleddau, seminarau, gweithdai a digwyddiadau hyfforddiant a drefnir gan amryw ganolfannau a grwpiau ymchwil. Yn ogystal â chryfderau disgyblaethol mawr, mae ymchwil ryngddisgyblaethol wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud.
Mae'r ysgol yn ymroddedig i ymchwil o safon sy’n arloesol yn ddeallusol ac sy’n cael effaith ar y byd go iawn hefyd. Mae myfyrwyr ymchwil a staff yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. O ganlyniad, datblygwyd diwylliant cryf sy'n darparu amgylchedd cefnogol a chyfeillgar i'n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr doethurol o bob cwr o'r byd, er mwyn eu meithrin fel ymchwilwyr ifanc sydd â rhwydweithiau da.
Cyfleoedd Gyrfa
Mae meddu ar radd Meistr drwy Ymchwil yn dangos y gallwch gyfleu eich syniadau a rheoli tasgau. Mae swyddi yn y byd academaidd, byd addysg, y llywodraeth, rheoli, y sector preifat neu'r sectorau cyhoeddus yn bosibl.
Mae Tîm Datblygu Sgiliau'r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn cynnig cymorth a fframwaith addysgu, er enghraifft wrth greu proffil ymchwilydd ar sail cyhoeddiadau a sefydlu eich busnes eich hun. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn helpu myfyrwyr o ran cyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol, gwella CVs, ceisiadau am swyddi a sgiliau cyfweliad.