Lefel Dyfarniad (dull enwi)
|
MSc drwy Ymchwil
|
Teitl y Rhaglen
|
Roboteg
|
Arweinydd y Rhaglen
|
Dr Daniele Cafolla
|
Corff Dyfarnu
|
Prifysgol Abertawe
|
Cyfadran
|
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
|
Maes Pwnc
|
Cyfrifiadureg / Peirianneg
|
Amlder derbyn
|
Hydref, Ionawr, Ebrill, Mehefin
|
Lleoliad
|
Campws Singleton
|
Modd astudio
|
Llawn Amser/Rhan Amser
|
Hyd/Ymgeisyddiaeth
|
Blwyddyn / dwy flynedd
|
Lefel Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch
|
7
|
Pwyntiau Cyfeirio Allanol
|
Disgrifyddion Cymwysterau'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ar gyfer Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch
|
Rheoliadau
|
Gradd Meistr drwy Ymchwil
|
Achrediad Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol
|
Amh
|
Dyfarniadau Ymadael
|
Amh
|
Iaith Astudio
|
Saesneg
|
Mae'r Fanyleb Rhaglen hon yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd gyfredol ac yn darparu cynnwys dangosol er gwybodaeth. Bydd y Brifysgol yn ceisio cyflwyno pob cwrs yn unol â'r disgrifiadau a nodir ar dudalennau gwe perthnasol y cwrs ar adeg y cais. Fodd bynnag, efallai y bydd sefyllfaoedd lle mae'n ddymunol neu'n angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs, naill ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Crynodeb o'r Rhaglen
Bydd y cwrs MSc drwy Ymchwil mewn Roboteg hwn ym Mhrifysgol Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect ymchwil wedi'i arwain gan eich diddordebau eich hun. Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all arwain at yrfa yn y byd academaidd yn y dyfodol neu gyfle ehangach ar gyfer cyflogaeth mewn meysydd fel addysg, llywodraeth neu'r sector preifat. Bydd traethawd ymchwil o 40,000 o eiriau yn cael ei gyflwyno i'w asesu gan ddangos ymchwil wreiddiol gyda chyfraniad sylweddol i'r maes pwnc. Archwilir y radd Meistr yn dilyn arholiad llafar o'r traethawd ymchwil (arholiad viva voce neu viva). Byddwch yn caffael sgiliau ymchwil ar gyfer gwaith lefel uchel ac mae rhaglenni sgiliau a hyfforddiant ar gael ar y campws i chi gael cymorth pellach.
Nodau’r Rhaglen
Bydd y rhaglen Meistr hon yn darparu'r canlynol i fyfyrwyr:
- Y cyfle i gynnal ymchwil ôl-raddedig o ansawdd uchel mewn amgylchedd ymchwil sy'n arwain y byd.
- Sgiliau allweddol sydd eu hangen i ymgymryd ag ymchwil academaidd ac anacademaidd uwch gan gynnwys dadansoddi data ansoddol a meintiol.
- Meddwl beirniadol uwch, chwilfrydedd deallusol a barn annibynnol.
Strwythur y Rhaglen
Mae'r rhaglen yn cynnwys tair elfen allweddol:
- Mynediad a chadarnhad o ymgeisyddiaeth
- Prif gorff yr ymchwil
- Traethawd ymchwil ac arholiad viva voce
Mae'r rhaglen yn cynnwys ymgymryd â phrosiect ymchwil gwreiddiol sy'n para blwyddyn yn llawn amser (dwy flynedd yn rhan-amser).
Asesu
Mae myfyrwyr ar gyfer y Meistr trwy Ymchwil mewn Roboteg yn cael eu harholi mewn dwy ran.
Y rhan gyntaf yw traethawd ymchwil sy'n gorff o waith gwreiddiol sy'n cynrychioli dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil. Y terfyn geiriau yw 40,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol na'r llyfryddiaeth a'r mynegai.
Yr ail ran yw arholiad llafar (viva voce).
Goruchwylio a Chefnogi
Bydd myfyrwyr yn cael eu goruchwylio gan dîm goruchwylio. Lle bo'n briodol, bydd staff o Golegau/Ysgolion ar wahân i'r Adran / Ysgol 'gartref' (Colegau/Ysgolion eraill) yn y Brifysgol yn cyfrannu at feysydd ymchwil cytras. Efallai y bydd goruchwylwyr o bartner diwydiannol hefyd.
Fel arfer, y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf fydd y prif gyswllt drwy gydol taith y myfyriwr a bydd ganddo gyfrifoldeb cyffredinol am oruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd y Goruchwyliwr Eilaidd yn amrywio o achos i achos. Prif rôl y Goruchwyliwr Eilaidd yn aml yw fel cyswllt cyntaf os na fydd y Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf ar gael. Gall y tîm goruchwylio gynnwys goruchwyliwr o ddiwydiant neu faes penodol o ymarfer proffesiynol hefyd i gefnogi'r ymchwil. Gellir galw ar oruchwylwyr allanol o brifysgolion eraill hefyd.
Bydd y prif oruchwyliwr yn darparu cefnogaeth fugeiliol. Os bydd angen, bydd y prif oruchwyliwr yn cyfeirio'r myfyriwr at ffynonellau cymorth eraill (e.e. Lles, Anabledd, Money@Campuslife, TG, Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, Academi Cyflogadwyedd Abertawe).
Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, dylai ymchwilwyr doethurol allu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Myfyrio'n feirniadol ar y sylfaen wybodaeth bresennol, problemau cyfredol a/neu ddealltwriaeth newydd, ym maes Roboteg.
- Dangos gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth.
- Cymhwyso sgiliau ymchwil, methodolegau a theori pwnc i'r ymarfer ymchwil.
- Creu, dehongli a dadansoddi gwybodaeth yn y maes astudio penodol drwy ymchwil wreiddiol.
Agweddau a Gwerthoedd
- Ymgymryd â thasgau ymchwil a gwneud penderfyniadau gwybodus gyda'r arweiniad lleiaf posibl.
- Cymhwyso egwyddorion moesegol cadarn i ymchwil, gan roi sylw dyledus i uniondeb pobl ac yn unol â chodau ymddygiad proffesiynol.
- Dangos hunanymwybyddiaeth o amrywiaeth unigol a diwylliannol, a'r effaith ddwyochrog mewn rhyngweithio cymdeithasol rhyngoch chi ac eraill wrth gynnal ymchwil sy'n cynnwys pobl.
Sgiliau Ymchwil
- Dangos hunangyfeiriad a gwreiddioldeb wrth fynd i'r afael â phroblemau a'u datrys, a gweithredu'n annibynnol wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfwerth.
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a’u datrys, gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn a chyfleu eu casgliadau'n glir i gynulleidfaoedd arbenigol ac anarbenigol.
- Gwerthuso a chymhwyso technegau perthnasol ar gyfer ymchwil mewn Roboteg.
- Cymhwyso methodolegau ymchwil a datblygu beirniadaeth ohonynt a, lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
- Gweithio mewn grwpiau, cyflwyno casgliadau ac adlewyrchu gwahaniaeth barn.
- Gweithredu sgiliau ymchwil annibynnol.
- Dod o hyd i wybodaeth a'i chymhwyso i ymarfer ymchwil.
- Dylunio a gweithredu prosiect ymchwil.
Sgiliau a Chymwyseddau
- Dangos y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys arfer cyfrifoldeb personol a menter mewn sefyllfaoedd cymhleth.
- Arfer menter a chyfrifoldeb personol.
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy.
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sydd ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Monitro Cynnydd
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro yn unol â rheoliadau Prifysgol Abertawe. Yn ystod y rhaglen, disgwylir i'r myfyriwr gwrdd â'i oruchwylwyr yn rheolaidd, ac yn y rhan fwyaf o gyfarfodydd mae'n debygol y bydd cynnydd y myfyriwr yn cael ei fonitro'n anffurfiol yn ogystal â gwiriadau presenoldeb. Yn ddelfrydol, dylid cofnodi manylion y cyfarfodydd ar y system ar-lein. Mae angen o leiaf pedwar cyfarfod goruchwylio ffurfiol bob blwyddyn, a bydd dau ohonynt yn cael eu hadrodd i'r Bwrdd Cynnydd a Dyfarniadau Ôl-raddedig. Yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio hyn, caiff cynnydd y myfyriwr ei drafod a’i gofnodi’n ffurfiol ar y system ar-lein.
Datblygiad Dysgu
Mae'r Brifysgol yn cynnig hyfforddiant a datblygiad ar gyfer Ymchwilwyr a Goruchwylwyr Doethurol.
Mae Fframwaith Hyfforddiant Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe wedi'i strwythuro'n adrannau, er mwyn galluogi myfyrwyr i lywio a phenderfynu ar gyrsiau priodol sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a cham eu hymgeisyddiaeth.
Mae yna fframwaith hyfforddi gan gynnwys, er enghraifft, meysydd Rheoli Gwybodaeth a Data, Cyflwyno ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Arweinyddiaeth a gweithio gydag eraill, Uniondeb, Diogelwch a Moeseg, Effaith a Masnacheiddio ac Addysgu ac Arddangos. Mae amrywiaeth o gymorth hefyd mewn meysydd fel anghenion hyfforddi, chwilio llenyddiaeth, cynnal ymchwil, ysgrifennu ymchwil, addysgu, gwneud cais am grantiau a gwobrau, cyfathrebu ymchwil a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Darperir amrywiaeth o seminarau ymchwil a sesiynau datblygu sgiliau yn yr Adran ac ar draws y Brifysgol. Disgwylir i'r rhain gadw'r myfyriwr mewn cysylltiad ag ystod ehangach o ddeunydd na'i bwnc ymchwil ei hun, i ysgogi syniadau mewn trafodaeth ag eraill, ac i roi cyfleoedd iddynt, er enghraifft, amddiffyn eu traethodau hir eu hunain ar lafar ac i nodi beirniadaeth bosibl. Yn ogystal, mae'r Adran yn datblygu diwylliant ymchwil a fydd yn cyd-fynd â gweledigaeth y Brifysgol ac a fydd yn cysylltu â mentrau allweddol a gyflwynir o dan adain Academïau'r Brifysgol.
Amgylchedd Ymchwil
Mae Amgylchedd Ymchwil Prifysgol Abertawe yn cyfuno arloesedd a chyfleusterau rhagorol i ddarparu cartref i ymchwil amlddisgyblaethol ffynnu. Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cwmpasu pob agwedd ar gylch bywyd ymchwil, gyda grantiau mewnol a chefnogaeth ar gyfer cyllid allanol a'r effaith alluogol y mae ymchwil yn ei chael y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o'n henw da am ymchwil ragorol, ac am ansawdd, ymroddiad, proffesiynoldeb ein cymuned ymchwil a’i gallu i gydweithio ac ymgysylltu. Deallwn fod yn rhaid i uniondeb fod yn nodwedd hanfodol o bob agwedd ar ymchwil, ac fel Prifysgol sydd wedi cael cyfrifoldeb i ymgymryd ag ymchwil mae'n rhaid i ni ddangos yn glir ac yn gyson bod yr hyder a roddir yn ein cymuned ymchwil yn gwbl haeddiannol. Felly, mae'r Brifysgol yn sicrhau bod pawb sy'n cymryd rhan mewn ymchwil yn cael eu hyfforddi i'r safonau uchaf o uniondeb ymchwil ac yn ymddwyn a chyflawni eu hymchwil mewn ffordd sy'n parchu urddas, hawliau a lles cyfranogwyr, ac yn lleihau'r risgiau i gyfranogwyr, ymchwilwyr, trydydd partïon, a'r Brifysgol ei hun.
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Mae Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Abertawe wedi cael ei chydnabod fel un o'r goreuon yn y byd sy’n cael effaith fyd-eang. Mae llawer o aelodau'r Gyfadran wedi cyfrannu at y canlyniad hwn; yr ymchwilwyr a'r cydweithwyr sy'n hwyluso'r amgylchedd ymchwil rhagorol a'r myfyrwyr sy'n trafod ac yn herio'r syniadau sy’n byrlymu yma bob amser. Mae’r doniau yn y Gyfadran yn helaeth, ac mae ansawdd ac amrywiaeth ymchwil yn wirioneddol eithriadol.
Cyfleoedd Gyrfa
Mae cael gradd meistr trwy ymchwil yn dangos y gallwch gyfathrebu eich syniadau a rheoli tasgau. Mae swyddi yn y byd academaidd, addysg, llywodraeth, rheoli, y sector cyhoeddus neu breifat yn bosibl.
Mae Tîm Datblygu Sgiliau y Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn cynnig cymorth a fframwaith hyfforddi er enghraifft wrth greu proffil ymchwilydd yn seiliedig ar gyhoeddiadau a sefydlu eich busnes eich hun. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn cynorthwyo myfyrwyr mewn cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol, gan wella CVs, ceisiadau am swyddi a sgiliau cyfweliad.