Gwybodaeth am y Rhaglen
Lefel dyfarniad (dull enwi) |
PhD mewn Arloesedd Ynni |
Teitl y Rhaglen |
Arloesedd Ynni |
Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig |
Yr Athro David Penney |
Corff Dyfarnu |
Prifysgol Abertawe |
Adran/Ysgol |
Peirianneg |
Maes Pwnc |
Ymchwil i Ddiogelwch Ynni |
Cyfnodau Derbyn |
Hydref, Ionawr, Ebrill, Mehefin |
Lleoliad |
Campws y Bae
|
Dull Astudio |
Amser Llawn/Rhan-amser
|
Hyd/Ymgeisyddiaeth |
3/6 mlynedd |
Lefel FHEQ |
8 |
Pwyntiau Cyfeirio Allanol |
Disgrifwyr Cymwysterau'r QAA ar gyfer FHEQ Lefel 8 |
Rheoliadau |
Doctor Athroniaeth (PhD) |
Achrediad Corff Proffesiynol, Statudol neu Reoleiddiol |
Amherthnasol |
Dyfarniadau Ymadael |
Amherthnasol |
Iaith Astudio |
Cymraeg |
Mae manyleb y rhaglen hon yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd gyfredol ac mae'n darparu cynnwys dangosol er gwybodaeth. Bydd y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i ddarparu pob cwrs yn unol â'r disgrifiadau a geir yn nhudalennau gwe'r cwrs perthnasol ar adeg ymgeisio. Fodd bynnag, gall fod sefyllfaoedd pan fydd yn ddymunol neu'n angenrheidiol i'r Brifysgol wneud newidiadau yn narpariaeth y cwrs, naill ai cyn neu ar ôl cofrestru.
Crynodeb o'r Rhaglen
Bydd y PhD hwn mewn Arloesedd Ynni yn Abertawe yn eich galluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i lywio gan eich diddordebau chi. Mae'n gymhwyster uchel ei barch a all arwain at yrfa yn y byd academaidd neu ehangu eich cyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat. Byddwch yn cyflwyno traethawd ymchwil 100,000 o eiriau i'w asesu, a fydd yn dangos ymchwil wreiddiol a chyfraniad sylweddol at y maes pwnc. Caiff y radd PhD ei harholi ar ôl arholi'r traethawd ymchwil ar lafar (arholiad llafar neu viva voce). Byddwch yn meithrin sgiliau ymchwil ar gyfer gwaith lefel uchel, a cheir rhaglenni hyfforddiant ar y campws am ragor o gymorth. Bydd cyfle i ddarparu cyflwyniadau i fyfyrwyr ymchwil a staff mewn cynadleddau a seminarau adrannol. Hefyd, gallai fod cyfleoedd i feithrin eich sgiliau addysgu drwy diwtorialau, arddangosiadau a seminarau i israddedigion.
Nodau'r Rhaglen
Bydd y rhaglen PhD hon yn rhoi i ymchwilwyr doethurol:
- Y cyfle i gynnal ymchwil ôl-raddedig o safon mewn amgylchedd ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.
- Y sgiliau allweddol y mae eu hangen er mwyn cynnal ymchwil academaidd ac anacademaidd gan gynnwys dadansoddi data ansoddol a meintiol.
- Meddwl yn feirniadol uwch, chwilfrydedd deallusol a barn annibynnol.
Strwythur y Rhaglen
Mae’r rhaglen yn cynnwys tair elfen:
- Mynediad a chadarnhau ymgeisyddiaeth
- Prif gorff yr ymchwil
- Traethawd ymchwil ac arholiad llafar
Mae'r rhaglen yn cynnwys ymgymryd â phrosiect ymchwil gwreiddiol am 3 blynedd ar sail amser llawn (am 6 mlynedd ar sail ran-amser). Gall ymchwilwyr doethurol ddilyn y rhaglen ar sail amser llawn neu ran-amser drwy gynnal ymchwil yn y Brifysgol mewn gweithle allanol neu gyda phartner wedi'i gymeradwyo gan y Brifysgol.
Asesu
Caiff ymchwilwyr doethurol eu harholi mewn dwy ran ar gyfer y PhD mewn Arloesedd Ynni.
Mae'r rhan gyntaf yn draethawd ymchwil sy'n gorff gwreiddiol o waith yn cynrychioli dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil. Y terfyn geiriau yw 100,000 ar gyfer y prif destun. Nid yw'r terfyn geiriau’n cynnwys atodiadau (os oes rhai), troednodiadau hanfodol, rhannau a datganiadau rhagarweiniol neu’r llyfryddiaeth a’r mynegai.
Mae'r ail ran yn arholiad llafar (viva voce).
Goruchwylio a Chefnogi Ymchwilwyr Doethurol
Caiff ymchwilwyr doethurol eu goruchwylio gan dîm goruchwylio. Pan fo'n briodol, bydd staff o Adrannau/Ysgolion ar wahân i'r brif Adran/Ysgol (Adrannau/Ysgolion eraill) yn y Brifysgol yn cyfrannu at feysydd ymchwil cytras. Hefyd, gallai fod goruchwylwyr o bartner diwydiannol.
Fel arfer, y prif oruchwyliwr (neu'r goruchwyliwr 'cyntaf') fydd y prif gyswllt drwy gydol y daith ymchwil ddoethurol a'r unigolyn hwn fydd â chyfrifoldeb cyffredinol am oruchwyliaeth academaidd. Bydd mewnbwn academaidd y Goruchwyliwr Eilaidd yn amrywio ym mhob achos. Rôl bennaf y Goruchwyliwr Eilaidd, yn aml, fydd bod yn ail gyswllt pan na fydd eich Prif Oruchwyliwr/Goruchwyliwr Cyntaf ar gael. Gall y tîm goruchwylio gynnwys goruchwyliwr o fyd diwydiant neu faes ymarfer proffesiynol penodol i gefnogi'r ymchwil hefyd. Gellir defnyddio goruchwylwyr allanol o brifysgolion eraill hefyd.
Bydd y prif oruchwyliwr yn darparu cymorth bugeiliol. Os oes angen, bydd y prif oruchwyliwr yn cyfeirio'r ymchwilydd doethurol at ffynonellau cymorth eraill (e.e. Lles, Anableddau, Arian, Cyngor, TG, Llyfrgell, Undeb y Myfyrwyr, Gwasanaethau Academaidd, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, y Ganolfan Yrfaoedd).
Deilliannau Dysgu'r Rhaglen
Wrth gwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, dylai ymchwilwyr doethurol allu:
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Dangos ei fod wedi derbyn a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad ym maes Rheoli a Busnes, drwy ddatblygu traethawd ymchwil ysgrifenedig.
- Creu, dehongli, dadansoddi a datblygu gwybodaeth newydd drwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall.
- Rhannu gwybodaeth newydd a ddarganfyddir trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall mewn cyhoeddiadau o safon uchel a adolygir gan gymheiriaid yn y ddisgyblaeth.
- Cymhwyso sgiliau ymchwil a damcaniaeth bynciol wrth ymarfer ymchwil.
- Cymhwyso proses a safonau ystod o fethodolegau ar gyfer cynnal ymchwil a derbyn a diwygio gwybodaeth.
Agweddau a gwerthoedd
- Cysyniadu a llunio prosiect a'i roi ar waith ar gyfer creu gwybodaeth neu gymwysiadau newydd ym maes Arloesedd Ynni.
- Gwneud dyfarniadau gwybodus ar faterion cymhleth ym maes Arloesedd Ynni, yn aml heb ddata cyflawn a chyfiawnhau’r dyfarniadau hynny i gynulleidfa briodol.
- Cymhwyso egwyddorion moesegol cadarn i ymchwil, â sylw dyledus at uniondeb unigolion ac yn unol â chodau ymddygiad proffesiynol.
- Dangos hunanymwybyddiaeth o amrywiaeth unigol a diwylliannol, a'r effaith ddwyochrog wrth i chi ryngweithio'n gymdeithasol â phobl eraill wrth gynnal ymchwil sy'n cynnwys pobl.
Sgiliau ymchwil
- Ymateb yn briodol i broblemau annisgwyl wrth lunio prosiect drwy wneud addasiadau addas.
- Cyfleu canfyddiadau ymchwil cymhleth yn eglur ac yn effeithiol ac mewn modd diddorol i gynulleidfaoedd arbenigol (gan gynnwys y gymuned academaidd) ac anarbenigol, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a digwyddiadau priodol, gan gynnwys cyflwyniadau mewn cynadleddau, seminarau a gweithdai.
- Dewis, dehongli a chymhwyso technegau perthnasol ar gyfer ymchwil ac ymholiadau academaidd uwch yn gywir.
- Datblygu’r rhwydweithiau a’r sylfeini ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu parhaus yn y ddisgyblaeth.
- Rhoi sgiliau ymchwil uwch ar waith â lefel sylweddol o annibyniaeth.
- Dod o hyd i wybodaeth a'i chymhwyso i ymarfer ymchwil.
Sgiliau a Chymwyseddau
- Dangos y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys y gallu i arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy mewn amgylcheddau proffesiynol neu gyfatebol.
Monitro Cynnydd
Caiff cynnydd ei fonitro yn unol â rheoliadau Prifysgol Abertawe. Drwy gydol y rhaglen, disgwylir i'r ymchwilydd doethurol gwrdd yn rheolaidd â'i oruchwyliwr. Yn y rhan fwyaf o'r cyfarfodydd hyn, mae'n debygol y caiff cynnydd yr ymchwilydd doethurol ei fonitro'n anffurfiol a chaiff presenoldeb ei fonitro hefyd. Yn ddelfrydol, dylid cofnodi manylion y cyfarfodydd ar y system ar-lein. Mae'n ofynnol cynnal o leiaf bedwar cyfarfod goruchwylio bob blwyddyn, a chyflwynir adroddiadau am ddau ohonynt i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau Ôl-raddedig. Yn ystod y cyfarfodydd goruchwylio hyn, trafodir cynnydd yr ymchwilydd a chofnodir hynny'n ffurfiol ar y system ar-lein.
Datblygu dysgu
Mae'r Brifysgol yn cynnig hyfforddiant a datblygu i ymchwilwyr a goruchwylwyr doethurol
(https://www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ymchwil-ol-raddedig/training-and-skills-development-programme/).
Mae Fframwaith Hyfforddiant Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe wedi'i strwythuro mewn rhannau, er mwyn galluogi ymchwilwyr doethurol i lywio a phennu cyrsiau priodol sy'n cyd-fynd â'u diddordebau a'u cam ymgeisyddiaeth.
Ceir fframwaith hyfforddi sy'n cynnwys, er enghraifft, feysydd Rheoli Gwybodaeth a Data, Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Arweinyddiaeth a gweithio gydag eraill, Moeseg ac Uniondeb Diogelwch, Effaith a Masnacheiddio ac Addysgu ac Arddangos. Hefyd, ceir ystod o gymorth mewn meysydd fel anghenion hyfforddi, chwilio llenyddiaeth, cynnal ymchwil, ysgrifennu am ymchwil, addysgu, ceisiadau am grantiau a dyfarniadau, cyfathrebu ymchwil a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Darperir ystod o seminarau ymchwil a sesiynau datblygu sgiliau yn yr Adran Beirianneg ac ar draws y Brifysgol. Trefnir y rhain er mwyn cadw'r ymchwilydd doethurol mewn cysylltiad ag ystod ehangach o ddeunydd na'i bwnc ymchwil ei hun, er mwyn ysgogi syniad wrth drafod ag eraill, ac er mwyn rhoi cyfleoedd iddo megis amddiffyn ei draethawd ymchwil ar lafar a nodi beirniadaeth bosibl. At hynny, mae'r Adran Beirianneg yn datblygu diwylliant ymchwil a fydd yn cyd-fynd â gweledigaeth y Brifysgol ac yn cysylltu â mentrau allweddol a gyflawnir dan nawdd Academïau'r Brifysgol, er enghraifft gwreiddio cymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (HEA) i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Amgylchedd Ymchwil
Mae amgylchedd ymchwil Prifysgol Abertawe yn cyfuno arloesedd a chyfleusterau rhagorol er mwyn bod yn gartref i ymchwil amlddisgyblaethol allu ffynnu. Mae ein hamgylchedd ymchwil yn cwmpasu pob agwedd ar gylch bywyd ymchwil, gyda grantiau mewnol a chymorth ar gyfer cyllid allanol, ac yn galluogi effaith ymchwil y tu hwnt i'r byd academaidd.
Mae Prifysgol Abertawe'n falch iawn o'n henw da am ymchwil rhagorol, ac am ansawdd, ymroddiad, proffesiynoliaeth, cydweithio a gwaith ymgysylltu ein cymuned ymchwil. Deallwn fod rhaid i uniondeb fod yn nodwedd hanfodol o bob agwedd ar ymchwil ac, fel Prifysgol yr ymddiriedir ynddi i ymgymryd ag ymchwil, mae'n rhaid i ni ddangos yn glir ac yn gyson bod ein cymuned ymchwil yn haeddu'r ffydd a roddir ynddi. Felly, mae'r Brifysgol yn sicrhau y caiff pawb sy'n rhan o waith ymchwil eu hyfforddi i'r safonau uchaf o ran uniondeb ymchwil a'u bod yn ymddwyn ac yn cynnal eu hymchwil mewn modd sy'n parchu urddas, hawliau a lles cyfranogwyr ac yn lleiafu'r risgiau i gyfranogwyr, ymchwilwyr, trydydd partïon a'r Brifysgol ei hun.
Bydd myfyrwyr ôl-raddedig yn yr Adran Beirianneg yn elwa ar y llyfrgell ar y safle, sydd ar agor 24 awr y dydd, labordai o'r radd flaenaf, rhaglen drwy'r flwyddyn o seminarau a sgyrsiau, technoleg gyfrifiadura uwch ac ystafelloedd gwaith dynodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae'r adran wedi datblygu rhai o gysylltiadau cryfaf y Brifysgol â byd diwydiant ar lefel Cymru, ar lefel y Deyrnas Unedig ac ar lefel ryngwladol, ac mae wedi'i ymsefydlu fel arweinydd ym maes datblygu peirianneg, gan weithio mewn partneriaeth â chwmnïau o'r radd flaenaf, megis Tata, Rolls-Royce, Airbus, BAE Systems ac HP. Gall myfyrwyr ddisgwyl elwa ar berthnasoedd gwaith agos ag arbenigwyr o fyd diwydiant ac mewn llawer o achosion gael profiad gwerthfawr drwy leoliad gwaith diwydiannol.
Cyfleoedd Gyrfa
Mae meddu ar PhD yn dangos bod graddedigion yn gallu gweithio'n effeithiol mewn tîm, fformiwleiddio, archwilio a chyfleu syniadau cymhleth a rheoli tasgau uwch. Mae swyddi yn y byd academaidd (e.e. ymchwil ôl-ddoethurol, darlithio), byd addysg, y llywodraeth, rheoli, y sector preifat neu'r sectorau cyhoeddus yn bosibl. Mae enghreifftiau'n cynnwys gweinyddwyr, cwnselwyr, arbenigwyr marchnata ac ymchwilwyr.
Mae Tîm Datblygu Sgiliau'r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn cynnig cymorth a fframwaith addysgu, er enghraifft wrth greu proffil ymchwilydd ar sail cyhoeddiadau a sefydlu eich busnes eich hun. Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn helpu myfyrwyr o ran cyfleoedd gyrfaoedd yn y dyfodol, gwella CVs, ceisiadau am swyddi a sgiliau cyfweliad.