Dyddiad dechrau

Ebrill 2026, Gorffennaf 2026, Hydref 2026 neu Ionawr 2027

Dyddiad cau

Ebrill 2027

Gwybodaeth Allweddol

Nod yr ymchwil hon yw ymchwilio i ddylanwad Credyd Tâl Gohiriedig (a elwir yn gyffredin yn "Prynu Nawr, Talu'r Hwyrach", BNPL) ar fod yn agored i niwed ariannol ymysg defnyddwyr, a'u lles ariannol. Y sail bennaf ar gyfer y prosiect fydd llenyddiaeth ynghylch marchnata ac ymchwil mewn perthynas â defnyddwyr. Byddai'r prosiect yn elwa o ystyriaeth ryngddisgyblaethol. Cysylltwch â Dr Anita Zhao yn uniongyrchol os oes ymholiadau.  Diolch.

Cymhwyster

Qualifications required:
O leiaf radd israddedig dosbarth 2:1 a theilyngdod mewn gradd Meistr, neu gymwysterau rhyngwladol cyfatebol. 

Cefndiroedd pwnc a gaiff eu hystyried:
Yn ddelfrydol mewn  marchnata ac ymchwil mewn perthynas â defnyddwyr. 

Profiad/sgiliau a rhinweddau eraill sy'n ofynnol:
Yn ddelfrydol, gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o farchnata ac ymchwil mewn perthynas â defnyddwyr.

Supervisors

Sut i Wneud Cais

Porwch drwy ein Rhaglenni Ymchwil ôl-raddedig i ddod o hyd i'r dudalen cwrs rydych chi'n chwilio amdani ac ymgeisio gan ddefnyddio'r botwm "Ymgeisio" ar y dudalen.

Yna byddwch yn cael eich ailgyfeirio at ein system ymgeisio, lle gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i gwblhau eich cais.

Pwysig: Ychwanegwch enw'r goruchwylwyr a nodir uchod at eich cais i sicrhau bod eich cais yn eu cyrraedd. Gallwch ychwanegu eu henwau ar dudalen flaen eich cynnig ymchwil ac at eich datganiad personol.